大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Cornel i Feddwl
Myfyrdod y Nadolig, gan Gareth Hopkin.
Ac wedi'r geni y Duwdod yn sugno'r
fron - gall unrhyw beth fod yn fwy
dwys na hyn?

Ac wedi'r bwydo trodd y gair yn
ochenaid tawel bodlon - gall unrhyw beth
fod yn fwy o ddirgelwch na hyn?

Ac wedi'r ochenaid, cydiai'r fam yn
y bysedd celfydd oedd unwaith wedi
llunio mynyddoedd a naddu creigiau -
gall unrhyw beth fod yn fwy o ryfeddod na hyn?

A'r llygaid trwm yn cau - gall
unrhyw beth fod yn fwy heddychlon na hyn?
A'r fam yn ei anwesu'n gynnes - gall
unrhyw beth fod yn fwy cariadus na hyn?

A'r tad yn gwylio'n ofalus - gall
unrhyw beth fod yn fwy urddasol na hyn?
A Duw yn gwenu'n dyner - gall unrhyw beth
fod yn fwy tangnefeddus na hyn?

Ond heblaw am Joseph gwyddai neb arall am boen, dioddefaint a llawenydd Mair. Oni bai am griw bach o fugeiliaid oedd yn digwydd bod ar ddihun, doedd neb arall wedi uno i ganu gyda'r angylion, hyd yn oed os oeddent ychydig mas o diwn.

A digwyddodd i dri dieithryn mewn gwlad bell edrych i fyny a sylwi ar ryw olau anghyffredin yn yr awyr neu ni fyddai neb wedi bwrw golwg ar y seren yn llithro heibio.

Felly yn nhawel ddinas Bethlehem, cymerodd Duw ei le ynghanol y ddynoliaeth. Ac mae wedi bod yn ein canol ni ers hynny. Gobeithio'n wir, y bydd y Nadolig hwn yn gyfle i bawb ohonom blygu'n isel er mwyn cael trem ar Waredwr byd, ac yn ei ochenaid, i ni wybod o'r newydd bod cariad yn drech na chasineb, bod tangnefedd gan fil o weithiau yn rhagori ar rwygiadau, a bod bywyd yn eiddo i bwy bynnag sy'n cyfri lesu'n frawd a Duw'n Dad.

Nadolig Llawen.

Ymddangosodd yr erthygl hon ym mhapur bro Llais yn Rhagfyr 2004.

  • Mwy o erthyglau Nadoligaidd

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy