大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

大象传媒 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


大象传媒 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Canmol ymgyrch godi arian

Gorffennaf 2007

Ymdrech arbennig mewn ychydig amser

Disgrifwyd llwyddiant pobl Sir Y Fflint i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol 2007 fel "gwers i bob un fu'n darogan gwae" am yr Eisteddfod hon.

Mewn cyfnod hynod o fyr o gymharu ag eisteddfodau eraill cododd pobl Sir Y Fflint ymhell dros y gronfa leol o 拢297,500.

Ar y cyfrif diwethaf roedd 拢355,000 yn y pwrs.

"Mae'r gronfa leol wedi mynd yn dda ac yn dal i fynd," meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod.

"Mi rydan ni o fewn dim i gasglu'r mwyaf sydd wedi cael ei gasglu fel cronfa leol ar gyfer unrhyw Eisteddfod sy'n anhygoel wrth feddwl mai cwta 18 mis yn 么l y cychwynnodd y gwaith casglu arian," meddai.

"Efo cyfraniad y cyngor lleol rydan ni wedi casglu 拢355,000 ac roedden ni'n anelu am 拢297,000," ychwanegodd.

Hyd yn oed cyn hyn yr oedd cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, wedi dweud fod ymdrechion Sir Y Fflint yn destun edmygedd i ardaloedd eraill.

"Mae hyn yn wers i bob un a fu'n darogan gwae beth fyddai'n digwydd yn Sir Fflint," meddai mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth Ebrill 14.

O fewn cyrraedd

Yn cyflwyno adroddiad am Eisteddfod yr Wyddgrug ar ran cadeirydd y pwyllgor gwaith, Aled Lloyd Davies na allai fod yn bresennol, dywedodd cyd ysgrifennydd yr Eisteddfod, Eirian Jones, yr adeg honno:

"Y newydd da yw fod targed y gronfa leol o fewn cyrraedd a hynny mewn rhyw dri mis ar ddeg. Mae 95% o'r targed, sef 拢188,039, wedi ei godi tuag at y 拢197,500 a chyda y 拢100,000 a ddaw oddi wrth Gyngor Sir y Fflint mae pethau yn rhyfeddol o dda."

Ychwanegodd: "Rhaid talu teyrnged i'r ymateb o du y cynghorau tref a chymunedau lleol sydd wedi cyfrannu yn arbennig o dda gyda Chyngor Tref Yr Wyddgrug yn rhoi 拢10,000 yr wythnos hon, Y Fflint yn rhoi 拢7,000 a lleoedd ar y ffin fel Penyffordd a Higher Kinerton yn cyfrannu 拢3,000 yr un hefyd."

Mwy o nofelwyr nag erioed!

Yr oedd newyddion da hefyd yngl欧n 芒 nifer y cystadleuwyr yn y cystadlaethau cyfansoddi gyda Gwobr Goffa Daniel Owen wedi derbyn y nifer fwyaf erioed o ymgeision, 12 nofel, yn nhref y nofelydd a goffeir!

Ymgeisiodd saith am y gadair a 29 am y Goron.

Dyma 'r niferoedd eraill:

  • Englyn - 29
  • Telyneg - 30
  • Carol plygain - 23
  • Y Fedal Ryddiaith - 13
  • Pennod o hunangofiant - 25
  • Tlws y Cerddor - 8
  • Emyn-d么n - 42
  • Cadair y Dysgwyr - 30
  • Tlws Rhyddiaith y Dysgwyr - 25

Yr oedd 566 o ymgeision i gyd gyda 306 o'r rheini yn yr adran lenyddol.

Gwerth 拢61,000 o docynnau sydd wedi eu gwerthu ar gyfer yr Eisteddfod hyn yn hyn.

Anodd denu nawdd

Ond yr oedd un cysgod dros yr holl newyddion da gydag Eirian Jones yn dweud ei bod yn mynd yn anos ac yn anos denu nawdd.

"Mae sefyllfa nawdd yn anodd, ar 拢250,000, ac mae hyn yn peri peth pryder gan ei bod yn mynd yn fwy fwy anoddach i gael cwmn茂au i noddi y celfyddydau ac unrhyw beth diwylliannol.

"Yn anffodus, er bod llawer yn cyhoeddi elw ffantastig maent yn torri'n 么l ar nawdd," meddai.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy