大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

大象传媒 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


大象传媒 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Teyrnged i Dilwyn Miles

Awst 3 2007

Selwyn Iolen

Teyrnged Archdderwydd a Chofiadur

Talu teyrnged i ddisgyblaeth Dillwyn Miles a'i barch mawr tuag urddas Gorsedd y Beirdd a wnaeth Selwyn Iolen a John Gwilym Jones wedi derbyn y newyddion am farwolaeth y cyn arwyddfardd.

"Yr oedd ei ddisgyblaeth yngl欧n 芒 seremon茂au a gweithgareddau'r Orsedd yn amheuthun - ac roedd angen disgyblaeth yn yr Orsedd ac ef oedd yr union ddyn i weinyddu hynny," meddai John Gwilym Jones, y Cofiadur presennol.

Arbennig iawn

Yn syth wedi iddo gyrraedd maes Yr Wyddgrug fore Gwener y clywodd yr Archdderwydd Selwyn Iolen am farwolaeth Mr Miles.

"Yr oedd yn gymeriad arbennig iawn ac yn rhoi pwys mawr ar urddas yr orsedd," meddai.

"Rwy'n cofio pan fyddwn i yn gweithio i HTV yn yr Eisteddfod y byddai o'n amharod iawn imi geisio tynnu'r bardd oedd wedi ei wobrwyo o'r orymdaith er mwyn ei holi. 'Mae hyn yn rhan o'r orymdaith,' fyddai ei eiriau.

"Ac wrth gwrs fyddai neb yn cael mynediad i'r ystafelloedd gwisgo nac yn cael ymyrryd o gwbl yn y gweithgareddau.

"Roedd yn rhoi pwys mawr ar y ffaith fod aelodau'r Orsedd wedi eu dilladu'n daclus," hefyd.

Ychwanegodd ef a John Gwilym Jones fod Mr Miles, a oedd yn 91 oed, yn hanesydd hynod wybodus yn hanes a thraddodiadau Gorsedd y Beirdd a phynciau eraill hefyd.

"Y mae ei hunangofiant, Atgofion Hen Arwyddfardd yn gyforiog o wybodaeth," meddai John Gwilym Jones.

Cymeriad canolog

"Ac yr oedd yn gymeriad a fu'n ganolog i fywyd yr Eisteddfod Genedlaethol ers dros hanner can mlynedd," ychwanegodd.

"Rhwng 1936 a 1959 ef oedd Ceidwad y Cledd ac o 1966 bu'n Arwyddfardd am ddeng mlynedd ar hugain," meddai.

Ac meddai Selwyn Iolen: "Yr oedd yn gymeriad lliwgar ac wedi ymuno a'r orymdaith ar gefn ceffyl fwy nag unwaith," meddai.

Dywedodd nad oedd yn swil ychwaith o gydio mewn pynciau dadleuol.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy