大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

大象传媒 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


大象传媒 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Newid llwch steddfod am lwch y paith

8 Awst 2007

W  J Edwards ar faes yr Eisteddfod

Mynd yn weinidog i Batagonia

Cyn gynted ag y bydd wedi sychu llwch yr Eisteddfod oddi ar ei esgidiau bydd gweinidog o Gymru yn hel llwch paith Patagonia arnyn nhw.

Bydd y Parchedig W J Edwards, gweinidog 71 oed, sy'n awr yn byw yn Bow Street ger Aberystwyth yn treulio tri mis yn gweinidogaethu ymhlith Cymry'r Wladfa o fis Medi tan y Nadolig.

Yn frawd i Hywel Wyn Edwards, trefnydd Eisteddfod yr Wyddgrug, dywedodd W J Edwards ei fod mewn gwirionedd yn ateb gwahoddiad a estynnwyd iddo gyntaf gryn ddeugain mlynedd yn 么l.

"Ond tan hyn ni fu'n bosibl imi fynd oherwydd galwadau yng Nghymru," meddai.

Ond mae ganddo resymau da i fod yn ymwybodol iawn, iawn,o'r cysylltiad Cymreig 芒 Phatagonia.

Cyn iddo symud yn weinidog yng Nghaerfyrddin bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr am bum mlynedd ar hugain yn Llanuwchllyn gyda'r Hen Gapel - lle mae Michael D Jones wedi ei gladdu - dan ei ofal.

"O'r herwydd yr ydw i wedi bod yn ymwybodol iawn o arwyddoc芒d Y Wladfa i hanes Cymru ac rwyf hefyd wedi cyfarfod 芒 nifer o ymwelwyr o Batagonia a fyddai'n ymweld 芒 bedd Michael D Jones ac i weld cofeb iddo osodwyd ar fur yr hen Gapel," meddai.

Yr oedd yn weinidog yno yn 1975 pan ymwelodd y criw mwyaf erioed o Batagonia 芒 Chymru a threulio llawer o'u hamser ym Mhenllyn.

Cysylltiad teuluol

"Ac mae yna rywfaint o gysylltiad teuluol hefyd gan fod Jonathan Evans, hen daid i gyfnither i'm gwraig, Gwenda, yn un o'r rhai a hwyliodd o Lerpwl i Ariannin i helpu sefydlu rheilffordd y Wladfa," meddai.

Bydd 'WJ' a Gwenda yn treulio'i amser ym Mhatagonia yn Nhrelew a'r Gaiman gan ymweld hefyd ag Esquel yn yr Andes.

Yr ydw i'n edrych ymlaen yn fawr at fod yno a chael gweinidogaethu ymhlith y Cymry yno," meddai.

"Mae rhai yn holi pam gwastraffu amser, egni ac arian ar y lle - ond yr wyf i'n awyddus i fynd yna a chael gweld fy hun beth sut mae pethau.

"Wedi'r cyfan y mae hi'n wyrth bod y Gymraeg yn dal i gael ei siarad mewn cymdeithas mor bell o Gymru dros 140 o flynyddoedd wedi'r ymfudiad cyntaf," meddai.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy