大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

大象传媒 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


大象传媒 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adolygiad

Drama - 'Yn haeddu mwy o sylw'

11 Awst 2007

Catrin Jones gyda thri o gystadleuwyr Gwobr Goffa Richard Burton -   Gwion Aled Williams, y buddugol,  Manon Wyn Williams ac Aron Morris

Gweithgareddau dramatig yn cael eu gwthio o'r neilltu?

Bu Eisteddfod Yr Wyddgrug yn un hynod o brysur i Catrin Jones. Cyrhaeddodd tri o'i disgyblion y llwyfan yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Richard Burton ac iddi hi y dyfarnwyd gwobr y cynhyrchydd drama fer gorau.

Yma, mae'n son am ei hwythnos ddramatig ac yn holi tybed a yw'r ddrama yn cael sylw haeddiannol ar y cyfryngau.

Ychydig o sylw a roddir i fyd y ddrama ar raglenni'r Eisteddfod ar S4C.
Nid fy ngeiriau i yw'r rhain.
Mae'n anodd i mi ddweud gan imi fod yn carafanio drwy'r wythnos a dim teledu yn agos i'n carafan ni - diolch byth!

Ond dyma beth a glywais heddiw gan rywun fu'n gwylio pob rhaglen o glydwch ei chartref ac yn gefnogwr brwd o fyd y ddrama.

O'r pafiliwn

Trueni mawr, er enghraifft, fu symud Seremoni'r Fedal Ddrama o'r Pafiliwn flynyddoedd yn 么l. Os mai derbyn hyn fu raid o leiaf gallwn ymhyfrydu ein bod yn creu naws gartrefol, glos, yn y theatr a braf oedd cael teilyngdod a safon uchel ymhob un o'r cystadlaethau drama.

Hip hip hwre medda fi!
Mae'r byd drama ar i fyny!
A do, cafwyd sylw haeddiannol i Nic Ros enillydd y Fedal Ddrama - ond beth am bopeth arall yno?

A roddwyd sylw i'r perfformiadau yno?
A roddwyd sylw i'r cwmniau amatur hynny sy'n asgwrn cefn i'n cymunedau?
Gwelais sawl criw camera o gwmpas Theatr y Maes ond a ddarlledwyd y ffilmio hwn?

Dim digon o gydnabyddiaeth

Pam ydwi'n rhefru medde chi?
Wel, rheswm cwbl hunanol sydd gen i eleni sef fy mod yn teimlo nad oedd digon o gydnabyddiaeth i ribidires o lwyddiannau'r theatr a'r gweithgareddau dramatig ar y maes.

Gwion Aled Williams, enillydd Gwobr Goffa Richard Burton

Gwion Aled Williams, enillydd Gwobr Goffa Richard Burton

Ag eithrio bod cystadleuaeth Gwobr Goffa Richard Burton yn ymddangos ar lwyfan y Pafiliwn a fyddai hi'n cael ei darlledu? Gyda llaw roedd 24 o bobl ifanc dawnus iawn wedi ymddangos yn y rhagbrawf a thri a hyfforddwyd gen i yn dod i'r brig. Da iawn chi Gwion, Aaron a Manon - diolch am wireddu breuddwyd!

I ddweud gwir roedd dydd Mercher yn ddiwrnod i'w gofio wrth imi ruthro o wrando ar ddyfarniad y Richard Burton i Theatr y Maes i dderbyn Cwpan Gwynfor am ennill y gystadleuaeth Actio Drama Fer a Chwpan Bro Dinefwr am fod yn gynhyrchydd gorau'r cwmniau amatur.

Panto gan Gwenlyn Parry a berfformiwyd, a disgyblion Ysgol y Creuddyn a ymlafniodd i ennill cystadleuaeth mor uchel ei safon.

Roedd ennill hon yn golygu cymaint; yn brofiad sentimental iawn gan mai dyma fy swansong neu gan ffarwel i Ysgol y Creuddyn cyn dechrau ym Modedern ym mis Medi.

Diolch i'r rhai a fu'n gynulleidfaoedd dros dair noson o gystadlu.
A roddwyd sylw ar deledu? Pwy a wyr?

Mwynhau'r mwynhau

"Lle bo camp mae rhemp," medda'r hen ddywediad a Champ a Rhemp gan Tony Llewelyn a berfformiwyd gan Theatr Fach Llangefni nos Wener ac mi gawsom ni fel cast clamp o hwyl a dwi'n meddwl i'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa fwynhau hefyd - mwynhau ein gweld ni yn mwynhau ein hunain!

Ond dydw i ddim yn honni ein bod ni fel cwmni wedi gwneud rhyw gamp fawr ond ni a chwmniau eraill tebyg yw asgwrn cefn y diwylliant dramatig erbyn hyn ac yn meithrin y talentau ifanc fydd yn llenwi'r llwyfannau a rhaglenni teledu proffesiynol.

Gallasai S4C gynnal sawl rhaglen ar y cwmniau hyn a'u tebyg, ar enillwyr y cystadlaethau drama ac ar berfformiadau.
Pam na wneir hynny?



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy