Er iddo adael Cymru wedi 13 mlynedd fel ifaciw卯 yng Nghilgerran, parhaodd y diweddar Cyril Fathers i ymarfer ei Gymraeg yn Lloegr.
Cafodd ei dynnu n么l i'r pentref fu'n lloches iddo dros yr Ail Ryfel Byd ar ddiwedd ei oes.
23 Hydref 2008
"Dwi'n cofio'r diwrnod y des i draw i Gymru fel evacuee. Mehefin 23, 1940 oedd y dyddiad, tri diwrnod cyn fy mhen-blwydd yn 12 oed. Cefais fy anfon i Gilgerran.
"Mr a Mrs Dafydd John oedd yn gofalu amdanaf. Roeddent yn strict ond roeddwn i'n cael digon o fwyd. Roedd ffarm bach 'da nhw, ac roeddwn i'n helpu ar y ffarm. Yn y gaeaf roedd yncl Dai a fi yn mynd i roi bwyd i'r da - rhoi gwair iddyn nhw. Dysges i wrth yncl Dai sut i ofalu am greaduriaid.
"Rwy'n cofio yr amser yn yr ysgol yn Capel Newydd. Dysges i Gymraeg. Cefais amser da yn ystod amser cinio ac ar y penwythnos. Roedd yn rhaid i ni gerdded tair milltir i'r ysgol ymhob tywydd, ac un amser pan es i i'r ysgol roedd yn bwrw eira. Wnes i gerdded tair milltir i'r ysgol, ond roedd rhai heb fynd gan ei bod yn bwrw eira. Doedd yr athrawes ddim yn deall pam bo fi wedi dod i'r ysgol!
"Ar 么l gorffen yn yr ysgol gweithies i ar dair ffarm ac roedd pob ffarm yn wahanol. Rhai yn dda, rhai ddim mor dda.
"Pan es i n么l i Lloegr ar 么l 13 mlynedd yng Nghymru - wedd neb yn Lloegr yn gallu siarad Cymraeg. Wnes i gyfarfod rhai Cymry yn Lloegr - rhai yn siarad Cymraeg, byddwn yn siarad 芒 nhw er mwyn i mi gadw fy Nghymraeg pan o'n i bant yn Lloegr.
"Dw i nawr wedi dod n么l i Gilgerran i fyw ac er fy mod wedi ymddeol rwy'n dal i weithio! Dwi wedi dysgu ci defaid a dwi wedi trial c诺n defaid ambell waith ond nawr rwy'n gweithio gyda hwyaid 芒 ch诺n yn lle defaid!
"Er bod pobl yn credu fod y Cymry yn hen ffasiwn, rwy'n credu fod hynny'n dda. Maent yn gwneud i chi deimlo'n gartrefol, ac maent yn eich helpu. Rwy'n hapus fy mod yn byw yng Nghilgerran ac er fy mod wedi byw yn Lloegr am 51 mlynedd rwy'n falch fy mod wedi dod n么l i Gilgerran. Ble sydd 芒 gwell golygfeydd?!"
Daeth y diweddar Cyril Fathers o Gilgerran ar fwrdd bws 大象传媒 Cymru yn Aberteifi i adrodd ei hanes. Hunodd Mr Fathers ar 21 Medi 2008.
Atgofion eraill gan, ac am, faciw卯s:
Yr Ail Ryfel Byd
Cysylltiadau'r 大象传媒
Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.
Gogledd ddwyrain
Ffatri gemegau
Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.
Gogledd orllewin
Straeon rhyfel
O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.