Cafodd Mari Hughes ei magu yn Lerpwl gan rieni Cymraeg ac roedd yn athrawes yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd wedi disgwyl cael ei hanfon gyda'r faciw卯s i Gymru ond cyn cael ei hun yn Ysbyty Ifan, cafodd ei hanfon i bentref bach i lawr yr arfordir yn Lloegr lle dychrynodd ambell un drwy siarad Cymraeg.
23 Hydref 2008
"Roeddwn yn athrawes yn Lerpwl adeg y rhyfel ac mi gawson ein efaciw锚tio gan bod y llywodraeth yn meddwl eu bod am fomio Lerpwl yn syth, er na wnaethon nhw ddim.
"Aeth y rhan fwyaf i Gymru ac roeddwn i'n meddwl y byswn i'n mynd hefyd. Doedden ni ddim yn cael gwybod lle roedden ni'n mynd, jest hel y plant at ei gilydd, gweld fod gan bob plentyn gas mask a phecyn o fwyd a mynd 芒 nhw lawr i'r stesion.
"Ddaru ni landio yn Southport, ac wedyn cael bws i fynd 芒 ni i bentref bach o'r enw Banks.
"Ein gwaith ni fel athrawon oedd dosbarthu'r plant i wahanol bobl - byddai rhywun yn dod atoch ac yn dweud, 'Dwi'n cymryd tri hogyn' neu 'Mi gymra i ddwy ferch'.
"Daeth un ddynes neis ofnadwy mewn ffrog las - mi alla i ei gweld hi r诺an - a dyma hi'n dod ata i a dweud ei bod lawr i gael dau athro neu ddwy athrawes. Dyna fi'n gofyn a fyddai hi'n cymryd fy ffrind a minnau ac mi gytunodd.
"Doedd gen i ddim eisiau i'r brifathrawes ddallt ein bod ni'n cael mynd efo'n gilydd - a dyma fi'n gweiddi at fy ffrind, Gwladys, oedd draw ochr arall y 'stafell: "Peidiwch 芒 gwneud dim trefniadau gyda phobl eraill gan fod y ddynes yn y ffrog las am ein cymryd ni'n dwy!"
"Mi aeth y lle fel y bedd - pawb yn sb茂o arna i, a finnau'n methu dallt pam. "Mewn dipyn o ddiwrnodau wedyn, mi ddaru'r ddynes gyfadda: "Oh, you gave us such a fright in the hall, what language were you speaking? We all thought it was German," meddai. Mae na lot o 'll' a 'ch' mewn Almaeneg, fel yn y Gymraeg!
"Mi fuo ni yn fanno am 'chydig, ond roedd yn rhy agos i Lerpwl a doedd dim yn digwydd yna eto. Doedd y plant ddim yn licio'r wlad lot chwaith. Doedd na ddim cae chwarae iddyn nhw - jest cae llond o gabejis. Doeddwn i ddim eisiau gweld yr un cabej byth eto ar 么l hynny!
"Felly yn 么l i Lerpwl 芒 ni. Ond roedd wedi gwaethygu dipyn erbyn hynny. Trefnais i mam a dad gael mynd i Ysbyty Ifan ac mi ges i job fel prifathrawes ar ysgol babanod yn Llangollen.
"Yn rhyfedd iawn, pwy ddaeth i Langollen ond fy hen ysgol i yn Lerpwl. Dwi'n cofio rhywun yn dod ata i ac yn dweud fod fy angen i yn neuadd y dre - a dyna lle roedd fy hen ysgol, a'r athrawon roeddwn yn eu hadnabod yn dda, gan gynnwys fy ffrind Gwladys Tregilgas.
"Doedd Ysbyty Ifan ddim yn ddieithr i mi gan y byddwn yn dod bob gwyliau i aros efo nain a fy modryb.
"Ond roedd 'na lot o eiriau doeddwn ni ddim yn eu dallt pan ddes i gyntaf ar 么l byw yn Lerpwl.
"Wedyn, gwelais i ffarmwr yn Ysbyty Ifan, a dyna fi yn ei briodi a chael t欧 bach - yn y pentre i ddechrau. Ond roeddwn i wastad eisiau t欧 heb fod yn sownd i d欧 arall - t欧 efo pedwar wal i fi fy hyn. Felly cawsom fferm Hafodlas, a wedyn Hafod Ifan, oedd dros y ffordd.
"Dysgais i odro, a dechreuais brynu gwartheg hefyd. Ond pan roedd y plant yn saith ac wyth oed, mi ofynwyd i mi fynd i weithio yn yr ysgol gynradd fel supply. Roedd mam efo ni ar y ffarm a dywedodd y byddai hi'n edrych ar 么l y dynion ganol dydd, a byddwn innau'n n么l erbyn pedwar o'r gloch. A felly fu am sbel. Aeth y supply yn barhaol, ac roeddwn yna nes i mi ymddeol.
"Ac yn Hafod Ifan ydw i o hyd. Mae fy merch a fy mab yng nghyfraith yn ffermio yno r诺an, ond mae nhw'n ffeind iawn i roi cornel bach i mi yno r诺an fy mod yn 95."
Bu Mrs Hughes yn dweud ei hanes wrth d卯m gwefan 大象传媒 Cymru yn Llanrwst.
Atgofion personol eraill gan, ac am, faciw卯s:
Yr Ail Ryfel Byd
Cysylltiadau'r 大象传媒
Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.
Gogledd ddwyrain
Ffatri gemegau
Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.
Gogledd orllewin
Straeon rhyfel
O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.