"Ddim moyn mynd n么l"
23 Hydref 2008
Yn blentyn 11 oed, doedd Dorothy Griffiths o Lerpwl ddim eisiau cael ei hanfon o'i chartref fel ifaciw卯 i Ystradgynlais yn 1941. Ond wedi cyrraedd, mynnodd gael dysgu Cymraeg a dechreuodd fwynhau cystadlu mewn eisteddfodau.
"Dwi'n cofio'r Ail Ryfel Byd, roeddwn i'n unarddeg, oedran pan chi'n cofio pethau. Roedd y shelter lawr yr hewl, nursing home oedd e, ble roedd y mamau a'r babis. Roedden ni'n mynd lawr 'na bob nos. Roeddwn i'n clywed y seiren yn mynd felly roedd rhaid mynd i'r shelter - falle bo ni yn y gwely ond o'n ni'n gofod mynd. Roedd yn rhaid i ni gadw'n dawel ond roedd yn job gan fod lot o blant yna.
"Un nosweth dyma rhywun yn dod i mewn a dweud bo Chapel Street, ein stryd ni, wedi cael ei fomio, ond pryd athon ni mas dim ond yr eglwys a'r tai rownd ein stryd ni oedd wedi mynd. Bore ar 么l 'ny roedden ni wedi codi'n gynnar er mwyn mynd ar y ffrynt a chwilio am shrapnel - yr oedran yna doedd rhywun ddim yn meddwl pa mor serious oedd pethau.
"Ro ni'n byw yn Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn 1941 daeth evacuees lawr i Gymru. Wrth gwrs roeddwn i'n meddwl mai gwlad yn bell i ffwrdd oedd Cymru. Daeth tua 40 ohonon ni lawr ar y bws. Roeddwn i'n excited ond hefyd yn flin bo fi'n gorfod dod, ond roedd fy chwaer 'da fi, so ro ni'n teimlo'n well bo hi 'da fi.
"Daethon ni lawr i'r Neuadd L锚s yn Ystradgynlais a sefyll am y dynion oedd yn mynd 芒 ni i'r billets - roedden ni'n hwyr yn mynd o'r neuadd. Roedden ni'n byw yn Caerbont ar y cychwyn ond doeddwn i ddim yn hapus iawn ble oedden ni'n sefyll ac felly aethon ni lawr i'r billets arall a gafon ni'n rhoi efo anti ac wncwl, fel ni'n galw nhw. O ni'n lico byw yn fana.
"Es i i'r ysgol; roedd dosbarth i'r criw Saesneg a'r criw Cymraeg a gofynnes i sa'n i'n cael mynd mewn i'r class Cymraeg achos o ni isie dysgu'r iaith Gymraeg. Fe wedodd Miss Edwards, popeth yn iawn. Es i mewn a dysges i. Unarddeg oed oeddwn i bryd 'ny - roedd hi'n haws i mi ddysgu yr oedran 'ny nag yn henach.
"Roeddwn i'n awyddus iawn i ddysgu'r Gymraeg. Roeddwn i'n mynd i'r cwrdd a phan oedden ni'n mynd mas roeddwn i'n gofyn i'n anti beth oedd ryw air ac roeddwn i'n cofio. Roeddwn i hefyd yn ffrind efo'r pregethwr a'i wraig. Fe ddechreues i ddysgu adrodd yn yr Eisteddfodau ac fe enilles i lot yn yr Eisteddfodau - roeddwn i'n cael bag bach gyda arian, deuswllt neu hanner coron ynddo - a oedd yn lot bryd hynny. Roeddwn i'n joio fe. Roeddwn i bach yn nerfus cyn mynd ar y stage ond unwaith roeddwn i arno ro i'n anghofio popeth ac yn cario mlaen.
Roeddwn i'n gweithio yn ffactri Anglo Celtic yn Ystradgynlais pan ddaeth yr amser i'r evacuees fynd yn 么l ond roeddwn i'n dwli bod yma - doeddwn i ddim moyn mynd yn 么l i Lerpwl o gwbl. Aeth fy ffrindiau o Lerpwl yn 么l ond nes i aros ac wedyn cwrdd 芒'm g诺r a ni'n dal i fyw yn Ystradgynlais."
Daeth Dorothy Griffiths i adrodd ei hanes ar fws 大象传媒 Cymru yn Aberteifi.
Atgofion personol eraill gan, ac am, faciw卯s:
Yr Ail Ryfel Byd
Cysylltiadau'r 大象传媒
Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.
Gogledd ddwyrain
Ffatri gemegau
Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.
Gogledd orllewin
Straeon rhyfel
O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.