Rhan 2: Cofio Erchyllter y Rhyfel
topParhad o atgofion David Harries yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Jeifo yn Jafa
Heb wybod beth oedd ar y gorwel, diflannodd gofidion David a'i gymheiriaid yn Jafa.
"Roedd Jafa yn brofiad gwych," dywedodd gyda gw锚n.
"Roedd fel cyn y rhyfel. Roedd y clybiau nos yn wych a'r merched yn gyfeillgar iawn a chawsom amser difyr iawn am dwy i dair wythnos nes i ni dderbyn gorchmynion i fynd i Bandung i wasanaethu awyrennau. Cyrhaeddom faes awyr yn Garoet, ond nid oedd unrhyw awyrennau."
Mis Mawrth 1942 oedd e ac roedd y Japaneaid wedi meddiannu Jafa. Roedd y parti drosodd i David a'i gymheiriaid: Ar 么l rhai diwrnodau ildiodd Byddin yr Iseldiroedd ac nid oedd unrhyw ffordd o adael yr ynys, felly aethom yn garcharorion rhyfel yn awtomatig," meddai David.
"Roedd yr ymgyrch gyfan yn draed moch a dyma oedd y gorchfygiad mwyaf yn hanes milwrol Prydain. Nid oedd modd i neb ddianc, a bryd hynny roedd y bobl frodorol ar ochr y Japaneaid. Ond ar 么l rhai misoedd o fyw o dan reolaeth y Japaneaid roeddent yn dyheu am fod o dan reolaeth yr Iseldiroedd eto."
Chwerwder yn Ynysoedd y Sbeis
Gorchmynnwyd ei uned i fynd i faes awyr yn Tasikmalaya lle roedd miloedd o berson茅l RAF wedi dod ynghyd i gael eu carcharu gan y Japaneaid.
"Dewiswyd carfannau i weithio mewn rhannau gwahanol o'r Dwyrain Pell, a chawsom ein hanfon i Malang i drwsio maes awyr, gwnaethom hynny mewn pum mis," meddai.
Ym Malang y cafodd David flas annymunol ar y creulondeb a oedd o'u blaenau.
"Daethpwyd 芒 phedwar carcharor rhyfel a gyhuddwyd o geisio dianc yn 么l i'r gwersyll ac fe'u curwyd yn greulon gan y Japaneaid am wythnos," meddai David wrth gofio.
"Cawsant eu lladd - eu saethu o'n blaenau ni i gyd. Dim ond deunaw oed oeddwn i ar y pryd. Agorodd ein llygaid i ochr arall cymeriad y Japaneaid a pha mor ddidostur y gallen nhw fod. Roedd y peth cyfan yn berfformiad i'n rhybuddio ni."
Caledi ar y Cefnfor
Ym mis Ebrill 1943 yng ngwersyll carchar Jaarmarkt, Sourabaya y dechreuodd David ddod yn ymwybodol o realiti ofnadwy y rhyfel a'i frwydr i oroesi o ddifrif. Ffurfiwyd par锚d yn y gwersyll a dewiswyd dros 2,000 o ddynion 'iach', h.y. y rhai nad oeddent yn gloff nag yn ddifrifol dost bryd hynny i fynd ar longau i gyrchfan anhysbys.
"Dywedwyd wrthym yn y pen draw ein bod yn mynd i Ynys Haruku ger Ambon ac y byddem yn gwneud gwaith ysgafn ac yn cael bwyd da iawn - hynny, wrth gwrs, oedd y gwrthwyneb llwyr i'r hyn a gawsom," mae'n esbonio.
Fe'u heidiwyd ar long fach, Amagi Maru, lle bu'n rhaid iddynt oddef cyflyrau mochaidd a chyfyng gydag ychydig iawn o fwyd a d诺r ar y daith, a barodd am bythefnos. Ymysg y gr诺p oedd rhai 芒 dysentri a lledodd hynny'n gyflym gan fod y llong yn orlawn.
"Roeddem wedi'n pacio i mewn i'r grombil fel sardinau a chymerodd bedwar diwrnod ar bymtheg i ni wneud taith a ddylai fod wedi cymryd tri neu bedwar diwrnod," meddai David.
"Defnyddiodd y gardiau eu bidogau i'n procio ni ymlaen a sylweddolom ein bod yn mynd i lawr i grombil y llong. Roedd dynion yn llewygu oherwydd y gwres wrth i'r tymheredd esgyn i tua chan radd ac roedd ychydig iawn o le i gysgu."
"Des i o hyd i guddfan ar fwrdd y llong a chysgais ar ben hen raffau. Roedd yn llawer mwy cyfforddus na bod yn y grombil. Mewn ffordd gallaf ddweud fy mod wedi teithio'n ddosbarth cyntaf ar fy mhen fy hun ar y daith benodol honno o'm cymharu 芒'r lleill."
"Y swydd a roddwyd i mi oedd golchi cynwysyddion bwyd y gardiau, a gwnaethant adael peth bwyd ynghlwm wrth yr ochrau a oedd yn wahanol iawn i'r reis a roddwyd i ni. Felly nid oedd fy mwyd yn rhy wael o'i gymharu 芒'r bobl eraill, a rhannais yr hyn a oedd gennyf ar 么l."
Uffern ar y Ddaear
Roedd tymor y glaw yn dechrau pan gyrhaeddant Haruku, lle y byddent am dros 16 mis.
"Roedd y gwersyll yn gwpl o gytiau a gwnaethom roi'r rhai a oedd yn ddifrifol s芒l ynddynt," meddai David.
"Roeddem lan i'n pen-gliniau mewn mwd o gwmpas y cytiau hyn a gwnaethom gysgu ar y ddaear yn y glaw trwm nes bod mwy o gytiau'n cael eu hadeiladu yn y pen draw. Pan oeddech yn y cytiau hyn, y cysur oedd eich bod yn cysgu cwpl o fetrau o'r ddaear fel nad oeddech yn cysgu ar y pridd soeglyd. Roedd yr wythnosau cyntaf ar Haruku yn ddifrifol a bu farw llawer. Collais lawer o gyfeillion da. Yna roedd disgwyl i ni fynd i weithio ar y maes awyr. Rhoddwyd gaing a morthwyl i ni. Ar y maes awyr oedd dau fryn bach, y bu'n rhaid torri eu brigau ymaith i adeiladu'r maes awyr. Os dychmygwch yr hyn y gallwch ei wneud gyda'r teclynnau hynny, roedd y peth cyfan yn gwbl amhosib ac yn chwerthinllyd. Erbyn yr amser hwn roedd cyfradd y dysentri a'r malaria wedi syrthio sut gymaint yr oedd 90% o bobl wedi'u heffeithio."
Gan sylweddoli na fyddai modd erioed iddynt adeiladu'r maes awyr heb ddynion iach, rhoddodd y Japaneaid orchymyn i roi saib ar y gwaith. I ddechrau cloddiodd y carcharorion ffosydd i'w defnyddio fel toiledau, ond parodd hynny i'r clefyd ledu. Yn y pen draw derbyniwyd caniat芒d i godi adeilad dros y m么r ac erbyn iddo gael ei adeiladu, roedd cannoedd o bobl wedi marw.
"Daeth tymor y glaw i ben, ac allan o'r llanast gwnaethom adeiladu, o'r diwedd, gwersyll da iawn, y byddai wedi bod yn ofnadwy yn 么l safonau unrhyw un arall," meddai David.
"Bryd hynny rwy'n si诺r yr oeddwn i lawr i chwe neu saith pwys. Os oeddech chi'n lwcus neu'n glyfar, roedd yn bosib mynd ar swyddi lle gallech gael bwyd ychwanegol. Fe ddysgais pa fath o lysiau gwyllt y gallech eu bwyta, a byddech hefyd yn dwyn o storfeydd y Japaneaid. Gallech fasnachu'n anghyfreithlon gyda'r bobl frodorol hefyd. Gwnes i gyfnewid tybaco am fwyd."
Gyda rheswm da, byddai'n well gan David anghofio am ei ben-blwydd yn 21 oed ar Haruku:
"Cafodd fy nannedd blaen eu cnocio allan gan gard creulon yr oeddem yn ei alw'n Rat Face oherwydd ei wyneb unigryw. Ni fydda i byth yn maddau iddo am wneud hynny."
"Gwnaethom golli tua phum cant o bobl ar y maes awyr 'na yn Haruku. Yn ystod y cyfnodau gwaethaf byddai cynifer 芒 deuddeg o bobl yn marw mewn diwrnod, gan olygu y byddai yna fedd torfol. Pan ddychwelais ddeugain mlynedd wedyn, roedd carreg goffa ar bob bedd."
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.
Gogledd ddwyrain
Ffatri gemegau
Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.
Gogledd orllewin
Straeon rhyfel
O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.