Rhan 3: Cofio Erchyllter y Rhyfel
topParhad o atgofion David Harries ar Ynys Ambon a Jafa yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Osgoi Bomiau ar Ambon
Ar 1 Awst 1944, symudwyd y parti i Ambon lle gweithiodd David yn dadlwytho llongau ac yn ffoi rhag ymosodiadau cyson gan awyrennau bomio Americanaidd ar yr un pryd.
"Byddem yn dadlwytho nwyddau o'r llong i fadau bach ac yn mynd 芒 nhw'n 么l i'r lan. Ar un achlysur roeddem tua 200 llath o'r lan a gwelais awyren ymosod P-38 dau beiriant Americanaidd yn dod yn nes atom. Trodd y gardd Japanaidd o gwmpas a gwnaeth e bron 芒 lenwi ei bants. Aeth ein bad ymlaen ar garlam a chyrraedd y lan. Rhuthron ni oddi ar y bad a chuddio y tu 么l i goeden. Wrth i ni fynd y tu 么l i'r goeden dechreuodd yr awyren saethu, a dinistriodd y bad. Peth agos iawn oedd hi. Bob dydd pan oeddech chi'n gweithio, dyna oedd y math o berygl."
"Un pryd roeddwn yn edrych ar awyren fomio Americanaidd wrth iddo hedfan heibio i'r bad tua pum deg troedfedd i ffwrdd ohonom, ac roedd un o'r criw yn syllu arnaf y tu 么l i gwn peiriant. Gallwn weld ei wyneb i gyd am eiliad wrth iddo fynd heibio a ac ni wnaeth e saethu."
O bryd i'w gilydd byddai David yn dioddef o bwl arall o Falaria, a buodd e fyw dim ond oherwydd iddo ddod o hyd i gyflenwad o gwinin yn siwtces un o'r swyddogion Japaneaidd y chwiliodd drwyddo tra'n dadlwytho un o'r llongau.
"Dyna'r rheswm y gwnes i oroesi yn ystod y misoedd wedyn," meddai.
Yn 么l i Jafa
Pan feddiannodd yr Americanwyr un o'r ynysoedd gerllaw, penderfynodd y Japaneaid gilio a mynd 芒'r holl garcharorion yn 么l i Jafa ble yr oedd eu hunllef wedi dechrau.
"Eto roeddem wedi'n pacio i mewn ar gwch masnachol bach a chymerodd y daith, a fyddai fel arfer wedi cymryd tri neu bedwar diwrnod, fisoedd oherwydd dim ond gyda'r nos y gallen ni deithio," esboniodd David.
"Cyrhaeddom ynys o'r enw Muna rhwng Ambon a Makassar ac roeddem wedi'n hynysu yno am chwe mis gydag ychydig iawn o fwyd. Eto, roedd y gyfradd farw yn bum deg y cant. Yr unig waith a wnaethom oedd ceisio plannu bwyd i ategu ein deiet. Os tyfodd y bwyd, byddai'r Japaneaid yn cymryd y rhan helaethaf ohono."
Yna aethpwyd 芒'r dynion i Ynys Makassar lle treulion nhw dri mis rhwng Ebrill a Gorffennaf 1945 cyn anelu'n 么l i Surabaya yn Jafa mewn cwch bach. Roedd y rhyfel drosodd erbyn y pwynt hwn ac, ar 么l cyrraedd Batavia (Jakarta) ar 17 Awst 1945, cerddodd David allan o'r gwersyll yn ddyn rhydd.
"Er gwaetha rhybuddion i beidio 芒 gwneud hynny, cerddais allan o'r gwersyll," meddai David.
"Roedd yn beryglus y tu allan gan fod y Japaneaid wedi rhoi gynau i'r Indonesiaid ac roeddent am hawlio'r wlad yn 么l ar eu cyfer eu hunain. Es i allan i wersyll menywod yr Iseldiroedd ac yna es i n么l fy nghyfaill Smithy a dweud wrtho fel bod yna lle gwell ar y tu allan na bod yn styc yn y gwersyll."
Byw Bywyd Braf
"Aethom ni allan a byw bywyd braf. Nid oedd gennym lawer o arian felly es i lawr i'r dociau a llwytho'r car Americanaidd mawr roeddwn wedi dod o hyd iddo gyda thecstilau a gwnaethom lwyth o arian. Yn y pen draw roeddem yn rhedeg clwb nos gyda dau fand ac yn difyrru'r milwyr a oedd yn dod i mewn. Rwy'n cofio Swyddog RAF a ddaeth i un o'r nosweithiau yn y clwb. Gan yr oedd e mor hapus roedd am ddychwelyd y ffafr. Felly, pan adawodd am Singap么r, anfonodd neges at fy rhieni i ddweud wrthynt fy mod i'n dal yn fyw. Dyna'r tro cyntaf iddyn nhw glywed unrhyw beth amdana i mewn pum mlynedd."
"Roedd gennym lwyth o arian a chawson ni amser gwych. Pan aeth yn rhy beryglus yn Jafa, treulion ni arian ar ymweld 芒 Singap么r ac yna aethon ni i Rangoon a Mandalay cyn hedfan i Calcutta, lle arhoson ni mewn gwesty moethus. Yn Calcutta ces i bwl o Falaria eto a phenderfynais fod yr amser wedi dod i fynd adref. Roeddwn eisiau gweld mwy o India, felly aethom ar y tr锚n o Calcutta i Bombay, yn teithio'n ddosbarth cyntaf."
Yn Bombay, anfonais hanner dwsin o barseli bwyd i bobl dw i'n eu nabod yn y DU gan yr oedden nhw'n brin o fwyd. Es i ar long filwyr a des i'n 么l i'r DU. Ar y llong enillais gystadleuaeth focsio, a roddodd syndod i mi o ystyried fy nghyflwr yn y gwersyll carchar. Mae fy mywyd wedi bod yn llawn antur. Pan gyrhaeddais Lerpwl roeddwn yn 么l i'm pwysau gwreiddiol, mwy neu lai. Byddwn yn dweud y byddai 99% o garcharorion rhyfel eisiau mynd yn syth adref ar 么l y rhyfel. Mae'n rhaid yr oeddwn i braidd yn annaturiol. Meddyliais i fy hun, ni fyddaf erioed yn gweld y rhan yma o'r byd eto - mae angen i mi achub ar y cyfle."
Wrth ddychwelyd adref ac yntau heb weld ei deulu ers pum mlynedd, cafodd wybod fod ei frawd wedi marw mewn damwain hyfforddi yn America.
"Cyrhaeddais Lerpwl a daeth fy nhad i gwrdd 芒 mi heb i mi wybod. Nid oeddwn wedi'i weld ers pedair neu bum mlynedd, a dywedodd wrthyf fod fy mrawd wedi cael ei ladd wrth hyfforddi fel peilot yn America. Dyna'r tro cyntaf i mi glywed amdano. Roedd hynny'n ofnadwy. Dim ond deuddeg mis yn h欧n na fi oedd e ac roeddem ni'n gyfeillion mawr."
Ar 么l dod yn 么l, treuliodd David 12 mis yn cael ei drin am glefydau trofannol yn RAF Sain Tathan. Priododd 芒'i ddyweddi, Nora, ac roedd yn briod am 51 mlynedd nes y buodd hi farw ar 么l brwydr wyth mlynedd gyda chlefyd Alzheimer yn 2002. Yna priododd 芒 Margaret, cyfaill gorau Nora, a fu farw yn drist gyda chanser y llynedd.
Torri Record
Yn ychwanegol at ei hanes cyfoethog o ddigwyddiadau rhyfel, mae David hefyd wedi torri record byd. Bu'n byw yng Ngorllewin Sussex gyda'i wraig gyntaf am chwe mis ar 么l y rhyfel wedi iddo gael ei wahodd i RAF Tangmere i weithio fel peiriannwr ar dorri record y byd ar gyfer cyflymder wrth hedfan. Ym mis Medi 1946, gosodwyd record cyflymder awyr y byd o 616 mph (991 km/h) mewn Gloster Meteor.
"Gwnaethom dorri record y byd ond fe'i cymerwyd oddi arnynt fis neu ddau wedyn gan yr Americanwyr," meddai David.
"Daeth fy ngwraig i lawr i fyw yno gyda fi, roedden ni yno am chwe neu saith mis. I bob pwrpas dyna oedd ein pen-blwydd priodas."
Diolch i Gronfa Loteri Fawr am yr erthygl. Hyd yn hyn mae rhaglenni Arwyr yn 脭l y Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu mwy na 拢1 miliwn i fwy na 825 o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gweddwon, gw欧r, gwragedd a gofalwyr o Gymru ar gyfer teithiau yn y DU, Ffrainc, Yr Almaen, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell a'r tu hwnt.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.
Gogledd ddwyrain
Ffatri gemegau
Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.
Gogledd orllewin
Straeon rhyfel
O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.