Ìý |
Materion emosiynol - Gyrfa
Mae'n werth ichi barhau gyda'ch addysg cyhyd ag y gallwch, boed yn rhan-amser, drwy gyfrwng hyfforddiant yn y gwaith neu drwy gwrs gradd. Mae'r ystadegau'n dangos bod mwy o gymwysterau'n arwain at gyflogau uwch. Y cyflog arferol i raddedigion dan hyfforddiant ydy tua £18,000 ac mae nifer y graddedigion di-waith yn gostwng bob blwyddyn.
Waeth a ydych chi'n mynd
i addysg yn syth o'r ysgol, neu'n dychwelyd at ddysgu, (link to
mature students), datblygu'ch gyrfa yw'r peth blaenllaw. Pan yn
astudio mewn sefydliad, mae'n werth ichi ystyried pa yrfa rydych
chi am ei dilyn yn y pen draw drwy gydol y cwrs, nid yn ystod y
flwyddyn olaf neu'r misoedd olaf yn unig. Bydd y llyfrgell yrfaoedd
yn cadw gwybodaeth am ymgynghorwyr hyfforddedig all drafod eich
opsiynau a'ch cyfleoedd efo chi, trefnu ffug-gyfweliadau, a'ch helpu
i ysgrifennu CV neu lenwi ffurflenni cais. Bydd llyfrgelloedd yn
cadw gwybodaeth am gwmnïau, manylion swyddi i raddedigion, profiad
gwaith neu swyddi mewn diwydiant a pholisïau recriwtio. Os ydych
chi wedi paratoi ac wedi ymlacio pan daw hi i gyfweliad neu at wneud
cais, byddwch chi eisoes gam o flaen y myfyrwyr sy'n ei gadael hi
tan y funud ola!
TIP
TANBAID!
|
Bydd
y rhan fwyaf o Wasanaethau Gyrfaoedd y Prifysgolion yn dy
gynghori i gofrestru gyda nhw tua diwedd dy ail flwyddyn.
Bydd hyn yn rhoi digon o amser iddyn nhw weithio gyda ti i
ganfod sgliau trosglwyddadwy, trefnu rhaglen o gyfweliadau
ffug, neu falle ddim ond ei gwneud yn gliriach pa swydd rwyt
yn gobeithio ei chael.
Mae nifer o brifysgolion yn gweithredu ‘rownd laeth’ i fyfyrwyr
yn eu blwyddyn olaf. Mae hyn yn golygu eu bod wedi meithrin
cysylltiadau clos gyda chyflogwyr (rhai cwmniau ‘sglodion
glas’ lleol, rhai enwog). Arweinia’r cysylltiadau yma at ‘Ffair
Swyddi’ lle mae cyflogwyr yn dweud wrth fyfyrwyr amdanyn nhw’u
hunain ond hefyd yn dewis a dethol ymgeiswyr am swyddi yn
eu cwmniau.
|
TIP
TANBAID!
|
Ceisiwch gael profiad gwaith yn ystod eich cwrs neu yn ystod y gwyliau. Mae'n brofiad gwerthfawr a gallai arwain at gael nawdd a/neu at swydd.
|
Pryderon eraill:
Arian | Unigrwydd | Delio gyda'r baich gwaith | Rhyw a Iechyd | Dewis y Cwrs Iawn, Dewis y Lle Iawn | Gyrfa
Ìý
|
Ìý |