Materion emosiynol - Arian
Ers diddymu cymorthdaliadau a chyflwyno ffioedd dysgu (link to JTB finance page), mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn teimlo gwasgfa ariannol - yn enwedig os ydyn nhw'n defnyddio'u benthyciad i dalu eu ffioedd dysgu. Mae tua 42% o fyfyrwyr amser llawn yn gweithio mewn swyddi rhan-amser ac mae sawl sefydliad bellach yn rhedeg eu 'canolfannau gwaith' eu hunain lle maen nhw'n cadw manylion cyflogwyr sy'n chwilio'n benodol am staff sy'n fyfyrwyr. Mae swyddi fel hyn yn ffordd dda o ennill arian ychwanegol ac ennill profiad ar gyfer eich CV ar yr un pryd. Mae hi'n gallu bod yn anodd jyglo gwaith ac astudio a cheisio rheoli'ch arian ar yr un pryd. Mae ymgynghorydd ariannol wrth law ym mhob sefydliad i roi help a chyngor diduedd a chyfrinachol i chi.
TIP
TANBAID!
|
Ceisiwch beidio â mynd i ddyledion mawr ar eich cardiau credyd – mae rhai ohonyn nhw'n codi crocbris am y llog!
|
Pryderon eraill:
Arian | Unigrwydd | Delio gyda'r baich gwaith | Rhyw a Iechyd | Dewis y Cwrs Iawn, Dewis y Lle Iawn | Gyrfa
Ìý
|