Materion emosiynol - Dewis y cwrs iawn a'r coleg iawn
Cyn dechrau, mae'n syniad mynd i ddiwrnod agored cyn penderfynu lle i fynd i gael addysg bellach, siarad â'r myfyrwyr yno, siarad â'r cynghorwyr gyrfaoedd a dysgu cymaint ag y gallwch am y lle. Fel arfer, fe fyddwch chi'n dod i gasgliad am y lle ac fe fyddwch chi'n gwybod pryd rydych chi wedi gwneud y dewis iawn. Mae dewis cwrs yn fater gwahanol. Mae miloedd o gyrsiau gwahanol ar gael a gall y dewis fod yn ddryslyd. Er y dylech chi ddewis cwrs rydych chi'n ei fwynhau, rhaid iddo fod yn un sy'n eich helpu i gael gwaith, yn her ichi ac yn realistig. Mae llawer o fyfyrwyr yn sylweddoli eu bod nhw wedi dewis yn anghywir ac yn mynd i banig. Ewch i Pa Brifysgol a Pa Bwnc/bynciau.
Os ydych chi'n credu eich bod chi ar y cwrs anghywir:
- ewch i gael sgwrs â'ch tiwtor personol neu'ch cwnselwr
- ewch i gael sgwrs â'r cofrestrydd academaidd – gallai ef neu hi siarad â'r bobl berthnasol yn y sefydliad i sicrhau eich bod yn symud i gwrs gwahanol
- ffoniwch eich AALl naill ai'n bersonol neu drwy'r brifysgol i ofalu eich bod chi'n dal i gael arian
- os ydych chi'n gwneud camgymeriad, mae yna gynllun arbennig sy'n golygu eich bod chi'n dal yn gymwys i gael benthyciadau i fyfyrwyr os ydych chi'n ail-wneud blwyddyn ar ôl newid cwrs. Bydd dy cynghorwr gyrfaeodd neu'r AALl yn gallu rhoi manylion i ti am hyn.
- weithiau fe allwch chi drosglwyddo'ch taliadau ffioedd i sefydliad arall os ydych chi'n newid cwrs
- peidiwch â mynd i banig a gadael y coleg heb drafod y dewis.
- Mae pasio rhannau o'r cwrs yn gallu ennill ti credits i trosglwyddo i sefydliad arall.
Pryderon eraill:
Arian | Unigrwydd | Delio gyda'r baich gwaith | Rhyw a Iechyd | Dewis y Cwrs Iawn, Dewis y Lle Iawn | Gyrfa
Ìý
|