Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffatri Rehau ym M么n yn cau ei drysau am y tro olaf
- Awdur, Alun Rhys
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Bydd ffatri sydd wedi rhoi gwaith i bobl Amlwch am bron i 50 mlynedd yn cau am y tro olaf ddydd Gwener.
Fis Ionawr cyhoeddodd cwmni Almaenig Rehau, sy'n cynhyrchu deunydd plastig ar gyfer y diwydiant adeiladu, fod y farchnad ar gyfer eu cynnyrch wedi dirywio 70%.
Oherwydd hynny dywedon nhw nad oedd hi'n bosib yn economaidd iddyn nhw gadw'r ffatri yn Amlwch ar agor, gyda 104 o staff wedi colli eu gwaith.
Roedd cwmni Rehau yn cael ei ystyried yn gyflogwr da ac yn talu cyflogau da, ac roedd llawer o deuluoedd Amlwch wedi cael gwaith yno dros y blynyddoedd.
Dydy'r cyhoeddiad ddim yn effeithio ar ffatri'r cwmni ym Mlaenau Ffestiniog.
'Dim gwaith yn Amlwch'
Bu Dylan Vaughan Jones yn gweithio yn y ffatri am 29 mlynedd cyn iddo orfod gadael ddeufis yn 么l.
Mae nawr yn gofalu ei blentyn bach tra bo ei wraig yn gweithio.
"Mae'n od peidio gorfod codi am 05:00 y bore i weithio shifftiau - dwi wedi gwneud hynny ar hyd fy oes," meddai.
"Does yna ddim llawer o waith yn Amlwch - Rehau oedd y ffatri fwya' yr ochr yma i'r ynys.
"Newydd gael y goriad i'r t欧 newydd oedden ni pan gafon ni'r newyddion drwg ddechrau'r flwyddyn."
'Wylfa ar dop y rhestr'
Mae Dylan wedi cofrestru i fynd ar gyrsiau ddechrau'r flwyddyn i ail-hyfforddi, ond mae'n amheus a gaiff o waith yn Amlwch.
Mae'n rhagweld ei bod yn bosib y bydd rhaid iddo fynd i Gaergybi neu dros y Fenai i chwilio am waith.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffiths, sy'n cynrychioli Amlwch ar Gyngor M么n: "Mae economi Amlwch yn cael ei sugno allan i Langefni a Chaergybi lle mae yna fwy o ddewis o ran siopau.
"Dwi'n ymwybodol fod yna gwmn茂au lleol wedi dangos diddordeb yn y safle ac mae hynny'n eithaf positif."
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi strategaeth i roi hwb i economi gogledd yr ynys, ac mae'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear wedi addo 拢500,000 dros y bum mlynedd nesa.
Dywedodd y聽Cynghorydd Carwyn Jones, sy'n gyfrifol am yr economi ar gabinet Cyngor M么n: "Gyda sefyllfa'r hinsawdd a strategaeth Llywodraeth Prydain i gael sero carbon erbyn 2050, mae'n bosib r诺an, hefo'r mwyafrif helaeth sydd gan y Ceidwadwyr y bydd y strategaeth ynni yn allweddol i hynny ac o ganlyniad mai Wylfa fydd ar dop y rhestr."