| |
|
|
|
| | | |
Syr Richard Clough - ‘Y Gðr Mwyaf Cyflawn’ |
|
Gwreiddiau Gwylaidd
© Trwy ganiatâd caredig y perchennog a Swift Photographic Cyf., Pwllheli | Cychwynnodd stori 'tlodi i gyfoeth' Clough yn Ninbych yn y 1530au cynnar, y pumed mab, a'r ieuengaf, i wneuthurwr menig o Ddinbych. Daeth yn aelod o'r côr yn Eglwys Gadeiriol Caer, a mynychodd y 'Kings School' a sefydlwyd gan Harri'r wythfed, lle, yn fuan iawn, y daliodd ei dalentau canu a'i ddeallusrwydd craff sylw noddwyr dylanwadol. Ysgrifennodd yr hanesydd blaenllaw o'r 16eg ganrif, Thomas Fuller, yn ei 'Worthies of England' (1662), "Cafodd rhai eu heffeithio cymaint gan ei ganu yno, roedden nhw'n poeni y byddai'n diflannu i'r awyr wag (gan fod cerddoriaeth eglwysig yr adeg honno'n dechrau cael ei wahardd) ac felly fe berswadion nhw, do, fe sicrhaon nhw ei symudiad i Lundain".
Marchog ai Peidio?
Yn ei ugeiniau cynnar, aeth Richard ar bererindod grefyddol i Jerwsalem, lle'i urddwyd yn Farchog y Beddrod Sanctaidd, sy'n egluro'r 'Syr' gaiff ei atodi i'w enw weithiau. Mae'n debyg na ddefnyddiodd y teitl ar ôl i'r Frenhines Elizabeth gael ei choroni ym 1558, gan nad oedd y frenhines yn cymeradwyo arwisgiadau ac anrhydeddau o wledydd tramor; er hynny, roedd bathodyn yr urdd - y pum croes - ar ôl hynny’n cael ei gario ganddo ar ei arfau.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|