大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Myths and Legends
Syr Richard Clough - ‘Y Gðr Mwyaf Cyflawn’

Catrin o Ferain

Catrin o Ferain ‘Mam Cymru’ (1534/5-1591) gan Adriaen van Cronenburgh
Dywedir bod y loced mae’n ei gwisgo am ei gwddf yn cynnwys cudyn o wallt Syr Richard Clough
© Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
Does dim llawer yn hysbys am yr hyn a ddigwyddodd i wraig gyntaf Richard, ond ar ôl carwriaeth fer, daeth Richard yn ail wr i Catrin o Ferain (a aned Catrin Tewdwr, 1534-1591), wyres Harri'r seithfed ac ail gyfnither i'r Frenhines Elizabeth. Yn ddiweddarach galwyd Catrin yn 'Mam Cymru', oherwydd ei disgynyddion niferus.

Yn y pen draw priododd Catrin bedair gwaith,- bob tro i ddynion dylanwadol mewn materion Cymreig, ac aeth ei chwe phlentyn ymlaen i sefydlu sawl llinach o'r dosbarthiadau uchaf yng Nghymru. Mae nifer o straeon ar gael ynglyn â'i phriodasau niferus, mae un stori'n dweud ei bod wedi cael chwe gðr, a'i bod wedi lladd pump ohonyn nhw trwy arllwys plwm tawdd yn eu clustiau wrth iddyn nhw gysgu, nes i'r chweched ei chadw'n gaeth a'i llwgu i farwolaeth.

Doedd y ffaith bod Catrin wedi cael nifer o wyr ddim yn anghyffredin yn oes Elizabeth, gan fod gofalu am barhad etifeddiaeth teuluol yn dibynnu'n llwyr ar sefydliad y briodas a'r etifeddion uniongyrchol y byddai'n ei gynhyrchu. Cafodd enw da'r teulu ei gynnal trwy drefnu'r priodasau mwyaf proffidiol, a oedd, yn y bôn, yn gytundeb busnes.

Byddai wedi bod o fudd i Richard i briodi'n dda, a'r traddodiad oedd y dylai gymryd y cyfle i sicrhau Catrin fel ei briod ar y ffordd i angladd ei gwr cyntaf. Roedd tipyn o alw ar Catrin y diwrnod hwnnw, gan iddi wrthod cynnig gan Morris Wynne o Geydir ar ôl y seremoni, gan addo iddo y câi fod yn drydydd gðr iddi, petai Syr Richard yn marw, a dyna'n wir a ddigwyddodd.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Oxford
William Morris
Related Stories
Mysterious Knights Templar
Lady Marbella de Tichborne's curse
Andrew Marvell, man of contradictions




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy