| |
|
|
|
| | | |
Syr Richard Clough - ‘Y Gðr Mwyaf Cyflawn’ |
|
Masnachwyr a Marchnadoedd
© Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun | Nôl yn Llundain, aeth Richard i wasanaethu Syr Thomas Gresham fel 'masnachwr' neu reolwr, a chafodd fynediad i Gwmni'r Mercers - hen Urdd o Fasnachwyr, oedd yn allforio defnyddiau gwlân ac yn mewnforio defnyddiau moethus. Gresham, masnachwr ac ariannwr yn ei rinwedd ei hun, oedd cynrychiolydd ariannol arbennig y Frenhines Elizabeth ar y cyfandir.
Roedd masnach Gresham a Clough yn aml yn mynd â nhw dramor, ac yn 1552, symudodd Clough i Antwerp, prifddinas fasnachol Gogledd Ewrop. Yn Antwerp roedd y banc mwyaf prysur a phwysig yng Ngogledd Ewrop, yn delio â masnach rhwng Lloegr, Sbaen a'r Iseldiroedd. Priododd Clough ferch leol, Catherine Muldart o Antwerp a chafodd fab, a etifeddodd ran o eiddo'i dad yng Ngogledd Cymru yn ddiweddarach.
Roedd busnes Clough ei hun yn ffynnu, ac fe gasglodd ffortiwn sylweddol. O dan ddylanwad Gresham, fe fuddsoddodd yn helaeth mewn tiroedd y Goron, ac fe roddodd ei weithgareddau fodolaeth i'r dywediad, a oedd unwaith yn enwog yn Ninbych - 'Efe a aeth yn Clough', gâi ei briodoli i unrhyw un a gasglai cryn gyfoeth. Disgrifiodd bardd Cymreig o’r cyfnod ei lwyddiant cyflym fel 'Faen tros Iaem'. (mor gyflym â charreg dros rew).
Parhaodd Clough i weithio ar ran Gresham, ac o'r herwydd ar ran y Frenhines, wrth drafod benthyciadau ac wrth smyglo arian, arfau a nwyddau tramor yn ôl i Loegr.
Enillodd llwyddiant Clough yn y materion hyn ymddiriedaeth a hyder ei gyflogwr, ac ysgrifennai Clough ato'n aml ac yn faith. Byddai ei lythyrau'n llenwi 20 tudalen gan ddisgrifio nid yn unig y manylion masnachol, ond hefyd roi sylwebaeth ar ddigwyddiadau lleol megis angladdau swyddogol, neu wyliau. Byddai'r llythyrau hyn, pan gaent eu pasio ymlaen gan Gresham, yn rhoi i Syr William Cecil, goruchwyliwr casglu gwybodaeth gwleidyddol cyntaf y Frenhines, wybodaeth amhrisiadwy yn ymwneud â'r Iseldiroedd.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|