大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Myths and Legends
Syr Richard Clough - ‘Y Gðr Mwyaf Cyflawn’

Blynyddoedd Olaf Clough

Ar ôl priodi, symudodd Richard a Catrin i Antwerp, lle daethon nhw ar draws chwyldroeon crefyddol a gwleidyddol yn mynd rhagddyn nhw. Ym Mis Ionawr 1569, cafodd y marchnatwyr Saesnig eu harestio, ond llwyddodd Clough i ddianc, dim ond i gael ei arestio am fod â llythyrau oddi wrth y llywodraeth Saesnig yn ei feddiant yn Dieppe. Sicrhaodd ymyrraeth Syr William Cecil y cafodd ei ryddhau o Lundain, lle'r ymunodd â grðp mawr o anturiaethwyr-fasnachwyr ar eu ffordd i Hamburg, lle roedden nhw'n trosglwyddo sedd masnachu o Antwerp i'r ddinas honno.

Hamburg oedd man gorffwys Clough, gan iddo, ym 1570, ddal clefyd anesboniadwy yno, a bu farw yn ddim ond 40. Cafodd Clough ei gladdu yn Hamburg, ond er mwyn cydymffurfio â'i ddymuniadau olaf, mae'n debyg i'w galon, ac, yn ôl rhai, ei law dde, gael eu hanfon mewn wrn arian wedi ei selio i'w chladdu oddi fewn i Eglwys Plwyf St Marcella, Dinbych. Mae yna amheuaeth a gyrhaeddodd y galon yn ôl i Gymru, gan na ddaethpwyd o hyd i'r wrn pan agorwyd y ddaeargell 200 mlynedd yn ôl, er bod y gist blwm a'r clawr yn dal yn gyfan.

Golwg o Ddinbych o’r castell
© 大象传媒
Roedd Clough, oedd â chysylltiadau â Llundain, Hamburg, Antwerp a Fflandrys am y rhan fwyaf o'i fywyd, hefyd yn deyrngar iawn i fan ei eni. Golygodd ei farwolaeth disymwth na allodd gyflawni ei gynlluniau yn nes adref. Am rai blynyddoedd roedd wedi bwriadu carthu'r Afon Clwyd er mwyn ei gwneud yn fordwyol mor bell â Rhuddlan, a thrwy hynny wella potensial Dinbych ar gyfer ffyniant, a datblygu'r dyffryn cyfagos. Yn ei ewyllys gadawodd Clough £100 tuag at sefydlu ysgol ramadeg rydd yn Ninbych, ond a gollwyd 'oherwydd aflonyddwch y cyfnod'. Sefydlwyd yr ysgol yn y pen draw 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Southampton
Distributing the Tichborne Dole
Related Stories
Mysterious Knights Templar
Lady Marbella de Tichborne's curse
Andrew Marvell, man of contradictions




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy