Cerddi Rownd 1
Trydargerdd: Termau ac Amodau
Aberhafren
Ar werth, tîm Talwrn llwyddiannus,
fu ’ngofal dau feuryn gofalus;
bargen a hanner, ni chredwch eich lwc.
Bosib ei fod wedi chwythu ei blwc.
Llion Pryderi Roberts (8.5)
Y Diwc
Gofyn i Aelod Seneddol ddod i D欧’r Crynwyr
Fe garwn roi gwahoddiad,
ni fydd fel agor ffair.
Dim cyfle i roi araith,
dim cyfle i yngan gair.
Martin Huws (8.5)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘diwc’
Aberhafren
I’r bôi rêsar, fe sbariwn
y doc, am mai’r Diwc ’di hwn.
Llion Pryderi Roberts (8.5)
Y Diwc
Brenhinbren drodd yn benbwl.
Y diwc na’th gawl, y diawl dwl.
Martin Huws (8)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Gwaith anodd yw ceisio darbwyllo’
Aberhafren
Gwaith anodd yw ceisio darbwyllo
fy ng诺r i fynd ati i shafio;
nid edrych fel llew
â wyneb llawn blew
yw’r ateb i ddyn sy’n heneiddio.
Mari George (8)
Y Diwc
Gwaith anodd yw ceisio darbwyllo
Yr heddlu i beidio f’arestio
Rwy’n naw deg a saith
Ac allan o waith,
Fe ofna i’r wraig ‘co i ffonio !
Dewi Rhisiart (8.5)
Englynion Toddaid: Arloeswr /Arloeswraig / Arloeswyr
Aberhafren
I Arfon Jones a Beibl.net
Ar ddolen Testamentau, ar rwydwaith
cariadus adnodau
yr hen ddweud, mae dweud di-au sy’n symlach,
heb ei gliriach, yn Feibil heb gloriau.
Fe gei ddarllen llawenydd geirie’r iaith
yn ’Sgrythur o’r newydd,
dweud dameg â rhethreg rydd wna Arfon
i’r ymylon, gan fachu’r ymwelydd,
ac oherwydd ei gariad at y gwaith,
at y Gair, mewn chwinciad
glic wrth glic, daw geirfa gwlad i gronni’n
dwt ei gweddi ar we ei Datguddiad.
Aron Pritchard (9)
Y Diwc
Y Brodyr Wright (Wilbur ac Orville)
Dau frawd oedd fel dwy frân - yno’n adrodd
Eu bod medru hedfan.
Er rhegi’u darogan - eu golygon
Oedd ar orwelion o eiddo’r wylan.
Eu hantur ar adain gwantan, - yn ffri
Ar hen ffrâm go simsan
Ac er eco’r holl grawcian - yn ddiau
Yn rhoi o’u gorau a chodi’r garan.
Derbyn her gan aderyn, - un ynfyd
Ag enfys yn derfyn;
Ni fu neb erioed fan hyn, - ein dewrion
A yrrodd olion i eryr ddilyn.
Dewi Rhisiart (8)
Pennill ymson wrth ofyn caniatâd
Aberhafren
Ga’i ddod i wlad breuddwydion, dad,
i’r wlad â fory’n drwch,
a chadw ’ngolwg draw tua’r traeth,
pan droith y cwch.
Llion Pryderi Roberts (9)
Y Diwc
Cais i astudio mewn gwlad dramor
Gobeithiwn fynd i Baris.
Yn wreiddiol roedd ‘na hawl
i ledu ‘y ngorwelion.
Yr ateb - Cer i’r diawl.
Martin Huws (8.5)
Cân ysgafn: Y Gêm Ddarbi
Aberhafren
Pob bore Sadwrn tua hanner ’di naw, rwy’n glyd yn fy ngwely’n gweddïo am law,
ond yna mae’r Whatsapp yn bloeddio “Gêm On!” sy’n gwneud imi deimlo’r gwrthwyneb i llon.
Rhaid codi, cael cawod, rhoi bwyd yn y plant, cyn gyrru’r un hyna’ i gae mewn ryw bant,
un mwdlyd, llawn pyllau mewn lle ych-a-fi, i redeg a chicio ynghanol baw ci.
Mae’n rhaid imi siarad â phob tad a mam, am ysgol, am Brecsit, am blant yn cael cam,
ac esgus diddordeb yn noniau fy mab, a chymeradwyo’n ddiffuant fel Pab.
Ac wedi cael crasfa (sy’n digwydd bob tro), fe drown ni am adref, y car, fi a fo,
a chyfran o’r pyllau llawn llaid ger y gôl yn toddi’n ddioglyd i gracs y sedd ôl.
“Ond pam yr holl artaith a pham yr holl st诺r?” rwy’n clywed chi’n meddwl yn awr fel un g诺r.
Oherwydd fod ungem sy’n annwyl i mi, hen elyn i’w trechu, a chlod, parch a bri
i’w hennill pob tymor – ni ryffians Trelái, yn erbyn la crème ein prifddinas, neb llai
na bois y bathodyn mawr coch, gwyn a gwyrdd, a rheini wrth gwrs yw tîm balch Yr Urdd.
Wel ’na chi dîm budur, yn stumia i gyd, yn actio a baglu, yn twyllo o hyd,
y blaenwyr yn strytian ar lwyfan y cae, canolwyr yn bygwth pob distryw a gwae,
a chefnwyr yn adrodd mewn unsain cryf posh – Peredur a Gronw, Aneirin ac Osh –
“Hei Reff, mae’n camsefyll! Rhaid rhoi carden goch, y llipryn bach tenau, neu aiff hi’n draed moch.”
A dyna pam sticio trwy’r holl flwyddyn gron, y cyfan oherwydd cael ennill yn hon,
breuddwydio am goliau yn erbyn yr Urdd, cael chwarae ar gaeau nefolaidd, fflat, gwyrdd,
cael rheswm bodoli mewn byd sydd mor dreng, anghofio problemau fy mywyd, sy’n lleng.
Ychydig yn chwerw? Wel fe fyddech chi – fe fethais gael llwyfan ym mil naw wyth tri…
Owain Rhys (9)
Y Diwc
Mae edrych 'mlaen rhyfeddol at ornest fawr a ddaw a'r pentre bychan yma am leinio'r pentre draw.
Y camgymeriad llynedd a phob blwyddyn ers cyn co' oedd canolbwyntio gormod fyddai'r gêm ymlaen dan do.
Rhaid newid tactics 'leni rôl colli naw o'r bron, ac Wmffra gafodd syniad gan ei wejen newydd gron.
Pan aeth i sba 'Paradwys' am 'Ultra Algae Wrap' a chyrraedd adre'n frwynen - cai'r bois mewn siap go whap!
Ni wyddai neb yn union pam fod angen paraffîn, sut allai hynny helpu? Sut allai hynny roi min?
Planhigion pawb sy'n crynu gan nad oes ganddynt wres, mae'r rheiddiaduron impio i gyd yn awr mewn rhes
Yn sied Now Bach yn aros am eu tanio i gyd 'on block' a siop y gornel bellach 'di rhedeg mas o stoc.
S'dim rholyn ar y silffoedd, dim tiwb o Vaselîn - y gamp yn awr yw dysgu yn union sut i'w trin.
Yr hogia ddaw yn brydlon pob un mewn 'dressing gown' yn gwisgo capan cawod yn barod am y pnawn
O iro cyrff ei gilydd mewn pob rhyw fath o grîm, pob un di'i argyhoeddi fod hyn yn dda i'r tîm.
Rhaid bwrw ati'n handi i lapio haenau clir cling ffilm yn dynn amdanynt a'i adael yno'n hir
Nes chwysu yn ddiferol yng ngwres y lampau poeth yn ffyddiog y daw llwyddiant ac egin chwarae coeth.
Ac wedi'r holl ymlafnio a gwisgo crys y gad, i'r frwydr â'r tîm gorau, y gorau yn y wlad!
Roedd s诺n a miri'r dyrfa yn llawn o hwyl hi-jincs wrth iddynt heidio'n lluoedd i Ddarbi'r tiddlywincs.
Mererid Williams (8.5)
Ateb Llinell ar y pryd: Mae problem fawr lawr y lon / Yw’r broblem fawr lawr y lon
Aberhafren
Realaith ein gorwelion
Yw’r broblem fawr lawr y lon
(0.5)
Y Diwc
Ar chwal y mae fy nghalon
Mae problem fawr i lawr y lon
(0.5)
Telyneg: Cyfrinair
Aberhafren
Rwyt ti’n teipio’r gair,
â’th law yn cuddio’r sgrin,
y gêm yn agor y drws iti
ac rwyt ti’n lladd dy brynhawn o ffrindiau
fesul un.
Wedyn, wrth i fatri dy ddiwrnod bylu
rwyt ti jyst yn mynd…
…ac fe ei di i’r gwely’n lân.
Yng nghoedwig fy atgofion
mae sied sy’n agor ei ddôr
i’r rhai a 诺yr,
lle mae s诺n briwsion
a photeli pop,
lle mae giang yn bwyta angerdd
â gwalltiau brwnt fel brigynnau coed
ac arogl ymladd o dan eu hewinedd.
Rhyw ddydd,
awn ni yno, dw i’n addo
a sibrwd
drwy dwll y clo.
Mari George (9.5)
Y Diwc
Mewn ennyd lonydd
A'm byd yn araf dewi,
Nosi wna'i dydd yn gelfydd o'm golwg.
Sychu'i thalcen,
A sglein ddoe yn atgo
Wrth ddal y dwylo di-ddweud.
A hi felly heb arwydd cyfeillach,
A'i harddwch, fel eira Mai, yn ddim ond twyll
 phwyll distaw yr aros bellach.
Ond,
Amrant yn crynu a'r llygaid disglair yn agor
Ac amnaid am eiliad,
A'r eiliad, ond eiliad
Yn dweud.
Gwilym Williams (9.5)
Englyn: Cyfoeth
Emiliano Sala
Er i chwiban y glannau dy hawlio,
a’n dolur fel tonnau’n
bwrw hollt, fe gei barhau’n
un trysor drwy’n terasau.
Aron Pritchard (9)
Y Diwc
Ein dileit yw’r findalw, cwrw hael
criw hwyliog Nantgarw.
Gall adfer hwyl dyn chwerw.
Hwn yw blas y Bombay Blue.
Martin Huws (8.5)