Cerddi Rownd 3
Trydargerdd: Slogan ar gyfer unrhyw ddigwyddiad haf
Y Tir Mawr
Frodorion y Deyrnas Flinedig
Cyhoeddiad eithriadol o bwysig
yr haul fydd yn dwad o ble mae o'n cuddiad
ddydd Sadwrn am eiliad yn unig
Gareth Jôs (8.5)
Dros yr Aber
#TripYsgolSul
Os yw’ch gweinidog chi yn ’bach o bôr,
dewch draw i gwrdd â Duw ar lan y môr.
Marged Tudur (8.5)
Cwpled caeth yn cynnwys ’sti’
Y Tir Mawr
Pa wahaniaeth wna poeni?
Heb gawod, heb Steddfod 'sdi.
Carys Parri (8.5)
Dros yr Aber
’Sti boi ’na? Llyfra? Êl Ll欧n?
Boi iawn; ein bós cobanwyn.
Carwyn Eckley (8)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘”Cystadlu sy’n bwysig” yw’r mantra’’
Y Tir Mawr
"Cystadlu sy'n bwysig" yw'r mantra
I ni sydd am rasio i'r Wyddfa
Ond dyna fo wedyn
Pa ddrwg wneith rhyw fymryn
O hoelion yng ngwaelod eu sanna ?
Gareth Jôs (8.5)
Dros yr Aber
"Cystadlu sy'n bwysig" yw'r mantra
Ond nid pan mae'n dod i limriga.
Pa ots os yw'n graff,
Neu hyd ’noed yn braff,
Os na chewch chi lâff yn lein ola?
Iwan Rhys (8.5)
Cywydd cyfarch (dim mwy na 12 llinell): Bardd Plant Cymru
Y Tir Mawr
Hela gair? Mae hyn fel gêm.
Parablu? Does dim problem.
Torr-i'n ar-af? Sillafau.
Taro mydr? Sgafnu. Trymhau.
Odli? Gawn-ni? Daw â gwên.
Daw lliw i'r clustiau llawen.
Creu lluniau mewn geiriau? Gôl –
Cei wib, yna cic ebol!
Pwy 诺yr, o ateb parod,
o ddau air, pa beth all ddod?
Pwy na fynn weld oed pan fo
cywyddau'n chwarae cuddio?
Myrddin ap Dafydd (9)
Dros yr Aber
Heblaw am T. Llew Jones, go brin y byddwn yn hoffi trin geiriau a barddoni heddiw. Rwy’n dal i fwynhau’r llyfrau o dro i dro!
Daliaf, a mi’n oedolyn,
i fynd i’m hogof fy hun,
i ddyddiau iau Barti Ddu;
gwelaf, dan gynfas gwely,
ddihirod y ffordd arian:
arwyr mawr fy oriau mân.
Efo nhw, fe af yn ôl
air wrth air ar daith hwyrol
y rhamant fu’n rhoi imi,
yn nwfn nos, fy awen i.
A’r un o hyd yn nudew
y llofft yw ’niolch, T. Llew.
Rhys Iorwerth (9.5)
Pennill mawl neu ddychan: Iwtiwbiwr neu Iwtiwbwraig
Y Tir Mawr
Wedi Gwglo: 'Pennill dychan –
Sut mae gwneud un da ar frys?'
Dyma ffilm o ddyn mewn gwely,
Biyrmat, beiro, ond heb grys;
Mae o'n gwylio rhyw newyddion
Ac yn codi ei ddau fys;
Sgriblio'n sydyn, yna chwerthin,
A phwy ydi-o – Iwan Rhys.
Carys Parri (8.5)
Dros yr Aber
Yn dy fyd, hwyrach dy fod-ti’n enwog,
ond dwi’n h欧n (yn moeli),
a go iawn, nid oes gen-i
syniad, myn tad, pwy wyt ti.
Rhys Iorwerth (9)
Cân Ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Dyfeisio Gêm Newydd
Y Tir Mawr
O fy mlaen ar eu cadeiria' steddai'r Prifeirdd yn un rhes
Ac o'u blaenau roedd 'na fyrdda' oedd yn gwegian efo pres
Fe es ati yn galonog o dan lampau'r Bi Bi Si
i ddarbwyllo'r taclau boliog i drosglwyddo'u pres i mi :
"Fe ddyfeisiais gêm gofiadwy fei disgrifiaf nawr i chi
'Operation Dyffryn Conwy' - gêm llawn trais heb ddim Pi Si
O anialwch Ceredigion drwy'r Tir Mawr i Lannau Taf
Hyd at Wlybdir Dyffryn Conwy a'i lifogydd ganol haf
Ym mhob mangre angrhedadwy anawsterau ddaw i'th ran
Rhaid wynebu beirdd ofnadwy a'u llofruddio bob un wan
Ym mhob neuadd, cwt a chapel mae 'na lawer gwaeth na hyn
Yn bresenol ar bob lefel mae Darth Feuryn ( Ceri Wyn)
Os nad wyt yn trechu hwnw ac yn llwyddo'i dorri' ben
yn y mwd, a hithau'n bwrw, yn Llanrwst, mae hi'n Amen
Mae y gêm yn siwr o werthu fesul deg mewn Siopa Punt
Bydd y cwbwl yn diflanu megis rhech mewn pwff o wynt."
Roedd pob Bardd, r'ôl sdopio crio, yn unfrydol maes o law
Pawb yn daer ble ddyliwn sdwffio 'nghynllyn busnes i'r pen draw
Myrddin ap a ddaeth i'r adwy. Yn ddiffuant dyma'n dweud
"Dwi 'di 'mhlesio yn ofnadwy. Dyma beth rwyf am ei wneud
Rhoddaf iti'r pres bob dima. Chymra'i ddim i mi fy hun
a chei hefyd gwmni llyfra' a bob siar yng 'Nghwrw Ll欧n' "
Fe ddechraeais orfoleddu. Canu wnes fel chwiban stêm
Berodd imi wlychu 'ngwely. Damia uffar, d'oedd 'na'm gêm
Gareth Jôs (10)
Dros yr Aber
A nesaf ar y Talwrn, fe gawn gêm fach newydd sbon.
I ddechrau, rhaid i Marged orffen yr odl..... [Marged:] “...hon!”
Rhaid i Carwyn a Rhys gydadrodd eu hoff ddarn o Calon Lân.
[Carwyn a Rhys:] “Hwyr a bore fy nymuniad gwyd i’r nef ar adain cân.”
A wnaiff Myrddin yr Archdderwydd garglo cwpled inni'n llawn?
[Fi'n garglo:] “grl grl grl grl grl grl.” Da iawn!
Roedd Carys, y twrne, am adrodd Statud Gruffudd ap Cynan
Ond roedd rhywun o’i blaen wedi benthyg y copi o Lyfrgell Llanengan.
Tro Huw Erith nesaf i ddweud cywydd mewn tawelwch.
[Fi’n sibrwd:] Mae’i ddwylo lan, a’i lygaid mas, yn debyg iawn i gimwch.
Gofynnaf nawr i'r Meuryn ddod ymlaen i wneud break-dance.
[Fi’n cymeradwyo] Rhagorol, ond wnes i'm mynnu ichi’i wneud e yn eich pans!
[S诺n tapio â phrops pren] A drychwch wir, heb ofyn, dyma'r dawnus Jôs Giât Goch
Yn dawnsio step y glocsen â channwyll rhwng dwy foch.
Nesaf rwyf am fynnu cyfranogiad cynulleidfaol, sef
Ichi godi oddi ar eich tinau i wneud y Mexican Wave.
I orffen y gêm fach newydd, sef rownd Dalwrn orau'r byd,
Rhowch groeso mawr i Michael Gove i wneud llinell ar y pryd.
Iwan Rhys (10)
Llinell ar y pryd: Yn y ras mae pump ar ôl
Y Tir Mawr
Yn y ras mae pump ar ôl
A rheiny mor werinol
(0.5)
Dros yr Aber
Yn y ras mae pump ar ôl
Y pump pwrs, y pump arsehole
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Tywallt
Y Tir Mawr
Amser tebot wedi'r gwaith,
Mae'n mwydo'i de am hydoedd maith
Cyn pistyllio'r ffrydiau dig
I'r cwpan chwerw dan y pig.
'Geith y Bos 'na fynd i'r diawl!
Mi wn yn iawn fod gen i'r hawl –
All chwarter awr i baned ddeg
Ddim berwi'r tecell, chwarae teg.
Be mae o'n feddwl ydan ni
Efo'i dargedau uwch di-ri?
A dod i mewn dydd Sadwrn, dallt!
(Pasia'r siwgr – mae hon yn hallt.)
Rhaid rhannu'r gwaith hawdd, pawb yn ei dro
Nid eu rhoi o hyd i'w ffefrynnau o.
Af, mi af ato fory'r lob
A deud ble geith o stwffio'i job!'
Mae'n mwydo'i de am hydoedd maith
Amser tebot wedi'r gwaith.
Myrddin ap Dafydd (9)
Dros yr Aber
I Caryl Bryn
Bore Sadwrn arall yn bygwth drwy’r bleinds,
bocsys pitsa yn stremps sôs coch,
laptop aeth yn déd ar hanner cân,
a photel Jack Daniels yn sobri
ar ddibyn silff ffenest.
Finnau’n cerdded ar fodiau ’nhraed,
yn trio peidio â glynu ’nheits
ar staeniau gwin y llawr.
Hithau’n rhwbio’r oriau mân o’i llygaid.
Dyma osod ein galar dan fagiau te
a boddi ddoe dan dd诺r poeth,
trwsio geiriau nes bo’r ceiniogau
a’r leitars dan y clustogau’n tincial,
chwerthin nes bo’r lipstic coch
ar rimyn y gwydr yn gwenu.
A rhywsut,
mae pethau’n dechrau gwneud sens eto.
Marged Tudur (9.5)
Englyn: Sefydliad
Y Tir Mawr
(un o neuaddau'r glowyr yn y Rhondda)
Lle bu corws yn ymdrwsio'i nodau
Ac eneidiau'n paentio
Wynebau glân o'u baw glo,
Mae un plac yma'n plicio.
Myrddin ap Dafydd (10)
Dros yr Aber
Pennal
Ym Mhennal, os ydym heno yn ddall
mewn hin ddu, down eto
drwy saith canrif o frifo
i weld y wlad ’welai o.
Carwyn Eckley (10)