Talwrn Tafwyl
Trydargerdd sy'n cynnwys ffaith syfrdanol
Caerdydd
Fe deipiaf ffaith syfrdanol
fel brawddeg fachog, glir,
a’i rhannu gyda’r byd i gyd
i weld os daw hi’n wir.
Steffan Phillips (8.5)
Caernarfon
Mae hon yn ffaith o safon; mae’n fwy na rhyw hen dat.
Mae’r rhan fwyaf o doiledau yn fflyshio yn E fflat.
Arwel ‘Pod’ Roberts (8.5)
Cwpled ar yr odl 'os'
Caerdydd
Er dweud yn fy nhymer 'dos!'
daw awr i mi ddweud 'aros'.
Gruffudd Owen (9)
Caernarfon
Hawdd yw swnian. Mae’n anos
hefru’r boen yn swyddfa’r bós.
Carwyn Eckley (8.5)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni wn ai Caerdydd neu Gaernarfon’
Caerdydd
Pe le dylwn fagu f'epilion?
Ni wn ai Caerdydd neu Gaernarfon.
Ond dwishio fy sbrogs
i siarad fel Gogs
ac felly arhosaf yn Canton.
Gruffudd Owen (9)
Caernarfon
Ni wn ai Caerdydd neu Gaernarfon
ddyfeisiodd y gair “llyfwr-Saeson”,
neu “tafod-llawn-stêns”,
neu “bwbach-dim-brêns”.
... Duw, duw,* Alun Cairns. Hei, ti’n iawn, con’?!
(*Gan bwyntio tuag ato fel petawn yn ei weld yn cerdded drwy’r dorf yn Nhafwyl)
Rhys Iorwerth (9)
Cywydd (rhwng 12 ac 18 llinell): Teyrnged
Caerdydd
(Mae o ddeutu chwarter o famau yn colli babanod yn ystod deuddeg wythnos cyntaf eu beichiogrwydd.)
Am gyfnod tyfodd blodyn...
...yna'r gwaed ar bapur gwyn
y t欧 bach, eto, bechod.
'Na fo, doedd hi ddim i fod.
Rhoddwyd i fam freuddwyd fach
na all freuddwydio bellach.
O raid, aiff bore wedyn
yn ôl i'r gwaith. Colur gwyn,
sgwrsio, printio, trafod pris,
ebyst...a lluniau babis
hileriys pobol erill.
Ar y ffôn, nid yw'n sôn sill
am golled anweledig
na chur mawr sy'n chwarae mig.
Yn ei hing mae'n gwenu'n iach.
Ni ranna mo'i chyfrinach
neu enwi ei anhynod
wreiddyn bach...ond roedd o'n bod.
Gruffudd Owen (10)
Caernarfon
(Teyrnged i John, fy llystad)
Weithiau, rhag anesmwytho,
I minnau, haws cau y co’
I ddraenen y gorffennol.
Ond teimlaf, pan af yn ôl
At y rhwyg, dan gawod drom,
D’anwes yn dynn amdanom.
Ti, yn danbaid warcheidiol,
A’r byd i gyd yn dy gôl,
A drodd, pan adawodd Dad
Yn wenias d’amddiffyniad.
Dwi’n llwyr ddeall na alli
Ddirnad gwerth dy aberth di,
O droi y byd i dri bach,
Drwy’u niwl, yn dra anwylach.
Ti yw haul ein cyfnod du,
A’n maen, a John, am hynny,
Fy niolch yw diolch Dad,
Diolch ’fod ti ’di d诺ad.
Carwyn Eckley (10)
Triban beddargraff trefnydd g诺yl
Caerdydd
Er addo dydd ffantastig,
roedd canpunt braidd yn ddrastig
i’w losgi’n llwch mewn pizza-ffwrn
a’i dollti i wrn ddiblastig.
Ll欧r Gwyn Lewis (8.5)
Caernarfon
Rwyt bellach wedi parcio
Mewn mwd na ddoi ohono,
Heb orfod poeni yn dy lain
Am sain nac am oleuo.
Arwel ‘Pod’ Roberts (9)
Parodi ar ‘Anfonaf Angel’
Caerdydd
(yn null fideos ‘Bad Lip Reading’ – byddai un aelod o’r tîm yn meimio geiriau go iawn y gân, ac un arall yn canu’r geiriau isod)
Mae llyffant cwsg fy nyfais yn Aberffro
A moelaf, rydw i’n drewi fel tomato.
A chliw a malwen dinsel,
Delish, a glaw am dywel,
A gollwng lluniaeth yn dy wrtaith di.
Cytgan
A ffoniaf gamel i dy wasgod heno,
A ffoniaf gaseg i’th geseilio dig.
A dwyn del iawn derwyddon, yn sâl o hosan euog,
A ffoniaf gamel at y t欧.
Middle 8
Ti yw fy nghamel, fy nghân Nia Ceidiog,
A Babar y Brenin, bab诺n ac un ceiliog,
Ti yw fy nghamel, fy nghamel goes ganol,
A blas ysgawen yw dy fideo di.
Cytgan
A ffoniaf gamel i dy wasgod heno,
A ffoniaf gaseg i’th geseilio dig.
Bas诺n o laeth yn bigog, a blas o lawnt y gawod,
A ffoniaf gamel at y t欧.
Ll欧r Gwyn Lewis (9)
Caernarfon
Mae hymian hwyr y mobeil yn fy neffro.
Am eiliad, dydw i ddim yn siwr ble’i ffeindio,
Ond clywaf grynu isel y tecst yn galw'n dawel.
“Anfona gamel, ond ddim dromedri.
“Anfona gamel, un deuhympiog heno.
Anfona gamel i’m cysuro i.”
Mae’r geiriau moel yn ddigon i godi rhai amheuon
Fod ffetish camel gennyt ti.
Mae’n ddeg i saith, dwi ddim ’di cysgu munud.
Mae ’mhen i’n troi, a dwi braidd yn ddryslyd.
Ond rwan bod hi’n fora, a’r stafell wely’n ola
Dwi’n checio’r geiria decstiaist ata i.
“Anfona gamel, un deuhympiog heno.
Anfona gamel i’m cysuro i.”
Dwi wedi deffro ddigon i gadarnhau yr holl amheuon.
Mae ffetish camel gennyt ti.
Ti isio camel fydd yno’n wastadol,
yn gofalu amdanat, a’th hen chwantau preifat.
Ti isio camel, y sglyf annymunol.
Anghofia i mo'r geiria decstiaist ata i.
“Anfona gamel, un deuhympiog heno.
Anfona gamel i’m cysuro i.”
Ac erbyn hyn dwi’n fodlon, does gen i ddim amheuon.
Nid ffetish meerkat sydd gen ti.
“Anfona gamel, un deuhympiog heno.
Anfona gamel i’m diddanu i.”
Ond ’dan ni’n hen gyfeillion; er gwaetha’r holl amheuon,
Anfonaf gamel atat ti.
Anfonaf gamel atat ti.
Arwel ‘Pod’ Roberts (9.5)
Ateb Llinell ar y pryd: Dyn a wyr, nis awn yn is
Caerdydd
I’r brig, beryg, daw Boris
Dyn a wyr, nid awn yn is
(0.5)
Caernarfon
Tra bo egwyddor Boris
Dyn a wyr, nis awn yn is
(0.5)
Cerdd (rhwng 12 a 18 llinell): Cyffes
Caerdydd
Nid yn aml y cynnwn dân yn yr haf...
Ond heb i ni sylwi daeth oerni
i orwedd rhyngom
fel cath ar fat...
Brigyn wrth frigyn,
mae un yn aros i’r llall
gyffwrdd yn y cyfle.
Ond mae’r tân yn llawn dyddiau da
ac ni allwn ond
gwylio ein hunain
yn gwenu yn y fflamau
a’r gwres yn twyllo,
yn dangos cwpwl sydd rhy agos i rwygo...
Mae un yn codi
a mynd i’r gwely.
Y llall yn dal i wylio
tan i’r cols droi’n wyn.
Mari George (9.5)
Caernarfon
(Rhywun arall fydd yn achub yr iaith)
Dydw i ddim yn deall
hen eiriau rhywun arall,
fi yw'r hollt yng nghyfri'r iaith
Yn nhiroedd rhywun arall
dydw i ddim yn deall
weddio mud rhyw ddoe maith
Dydw i ddim yn deall
rhannu aur rhywun arall,
a'r cerddi i'w poeri i'r paith
Rwy'n wên war, thywun arall,
dydw i ddim yn deall
barhad dirywiad dy daith
Dydw i ddim yn deall
hwyrach mai'r rhywun arall,
y gwyr rad, nhw ydyw'r graith
Rwy'n aros rhywun arall,
dydw i ddim yn deall
raddau llym dy ryddiau llaith
Dydw i ddim yn deall,
rwy'n herio rhywun arall,
dwed dy wir y milfed waith
Am fory, na Chymru chwaith,
dydw i ddim yn deall
na ni yw'r rhywun arall.
Karen Owen (9)
Englyn ar y pryd: ymosodiad
Caerdydd
Un fflic, un gic, yna gôl - un bas wych
heb sôn am orffennol
na phoeni amddifynnol :
un darn o wyrth, dri ha’n ôl
(9.5)
Caernarfon
(Y cynnydd mewn troseddau casineb ers Brexit)
A sylwaist, â’th islais hiliol - i ti,
wleidydd taer, cyfrifol
lwytho’r dweud, a’i wneud yn ôl
yn wenwyn mor dderbyniol?
(9.5)