Cerddi Rownd 1
Trydargerdd: Ymateb i Gais am Adborth
Dros yr Aber
Bu’n gwrs difrifol, dros wyth awr,
affwysol ei ddiflastod mawr.
Ond i gael dianc ddiwedd pnawn
fe diciaf i ‘defnyddiol iawn’.
Carwyn Eckley (8.5)
Bro Alaw
Doedd Gatland ddim isio cau’r to,
Mond deud fod o isio wnaeth o,
Mi syrthiodd y Gwyddal
Yn dwt iawn i’r fagal -
A r诺an mae’r bai’i gyd ar Jo.
John Wyn (8.5)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘mewn’
Dros yr Aber
Mewn Talwrn ym Mhontweli
un tro cefais un deg tri.
Iwan Rhys (9)
Bro Alaw
Er yn brin mewn doethineb
Fe wn i nad wyf yn neb.
Ken Owen (9)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae hanes o hyd ym Mhenmynydd’
Dros yr Aber
Mae hanes o hyd ym Mhenmynydd
am 诺r sydd yn bwyta dail prysgwydd
a brwyn a briallu.
Ym Môn, rwy’n dychmygu
fod hynny yn dipyn o gynnydd.
Carwyn Eckley (8.5)
Bro Alaw
Mae hanes o hyd ym Mhenmynydd,
A chwedlau o hyd ym Meirionnydd,
Ond rhwng Dyffryn Teifi
A godrau’r Preseli
Be gewch chi ‘di rwtsh yn dragywydd.
Ioan Roberts (8.5)
Cerdd ar fesur yr englyn toddaid i hyfforddwr neu hyfforddwraig
Dros yr Aber
Yn y ras fe'i clywir o'n rhoi cysur
Pan fo'r coesau'n blino
Ac i'm hannog mae yno'n gweiddi “Cynt,
Fel y gwynt ar dy hynt! Paid â danto!”
Yn dyner mae’n fy herio i golli
Er mwyn gwella eto.
Yr un sy'n fy rhoi bob tro yn fy lle
A 'nghario adre pan wêl fy nghrwydro.
Y dyn sydd wastad yno, heb enw,
A heb wyneb iddo.
Ond dwi'n ddwl, a dwi'n ei ddiawlio'n ddryslyd
O'i glywed o hyd heb gael ei weld o.
Iwan Rhys (9.5)
Bro Alaw
Hyfforddwr Shamima Begum
Bygythiwr i’n Gwladwriaeth – ond eilun
I’r dialydd â’i hiliaeth,
Ni wad y genhadaeth – mai’i holl fryd,
A’i sgiliau hefyd, yw rhwydo’i ’sglyfaeth.
Swyna ferch â thôn erchyll – ei eiriau
Heriol, a’i sêl gandryll,
Yno’n gwylio’n oriau’r gwyll – a’i apêl
I’w uno’n dawel drwy’r wefan dywyll.
A’i wynfyd iddi’n dynfa – ei hannog
Fel oen, wna i’r lladdfa,
Hithau’r ynfyd, o’i feithrinfa – dry i’r gad
Yn nerth yr alwad i wrthryfela.
Richard Parry Jones (9)
Pennill ymson ar safle adweithydd niwclear
Dros yr Aber
Dwi’n wleidydd amlwg lleol
sy’n poeni am yr iaith
a’r effaith amgylcheddol,
ond wedyn gall greu gwaith,
ac felly ar ôl tipyn
o grafu pen go faith,
dwi ddim o blaid y cynllun,
ond dwi’m yn erbyn chwaith.
Marged Tudur (9)
Bro Alaw
Mae’n werth ystyried yma fet Pascal,
G诺r oedd yn amau’n drwm fodolaeth Duw,
Wrth ‘styried tragwyddoldeb, roedd yn dal
Y byddai dyn rhesymol-ddoeth yn byw
Fel Cristion syber, agos at ei le,
Gan ffeirio mân-bleserau hyn o daith
Am bleser tymor-hir, ac os oes ne’
Fe fydd yn elwa am dragwyddoldeb maith;
Ac o gymhwyso hyn at Wylfa B,
Er nad tebygol ydyw tanchwa ddrwg
Pe byddai’n digwydd, dyna’n diwedd ni,
Â’n darn o’r byd yn ddim ond llwch a mwg;
Mae’r risg o greu tragwyddol anial dir
Yn ormod – mae ein dewis ni yn glir.
John Wyn (9)
Cân ysgafn: Plesio’r Dorf
Dros yr Aber
Fe aeth hi yn ffasiwn gan lawer o odlwyr y Talwrn ers tro
i feddwl â thipyn o hyder mai nhw yw Bryn Terfels eu bro.
Mae’r arfer ar led yn gynyddol: wrth gamu i ddarllen eu cân,
o’u genau daw tôn draddodiadol, neu alaw o deip Calon Lân.
Creu geiriau i gân, dyna’r gofyn; y dasg yw creu llên, hynny yw.
Nid morio perfformio rhyw emyn; nid solo concerto, myn Duw.
Aiff amryw mor bell yn eu gweithred â’r hyn sy’n gyfystyr â thrais,
sef troi’r hen gân ysgafn ddiniwed yn opera i gôr pedwar llais.
Dychmygwch weld R. Williams Parry’n cyflwyno Y Llwynog i ni
a hynny mewn arddull roc gwerin sy’n cloi gyda bang ar top-C.
Ystyriwch y stâd ar gelfyddyd petasai, ar Dalwrn, T.H.
’di rocio i’w soned Dychwelyd efo meic a gitâr ar y stêj.
Ni wn beth yw problem prydyddion sy’n credu y cawn nhw farc mwy
trwy smalio taw nhw yw Rhys Meirion neu barti cerdd dant gorau’r plwy.
Ac eithrio bod cuddio gwendidau a gwir ddiffyg jôcs eich cân od
yn rhwyddach wrth ichi wneud stumiau ac agor eich ceg fatha cod.
A’r Meuryn a’r dorf wedi’u swyno, yn barnu nid sylwedd y gwaith
ond rhin a-capella’r ffalseto, yr aria yn hytrach na’r iaith.
Nid oes gan fy nghwyn, fe’ch gwarantaf, gysylltiad â’r ffaith ar wahân
bod ansawdd fy llais, os byth canaf, yn swnio’n go debyg i frân.
Rhys Iorwerth (9.5)
Bro Alaw
Rwy’n dweud wrthych bobol, nid gofyn,
Mae’n haws rowlio berfa heb olwyn
A chael car heb injan i gychwyn
A bagio ymlaen fesul dipyn.
Dim problem o gwbwl cael mochyn
I ddawnsio a chanu y delyn,
A deud wrth y byd be’ ‘di englyn
A hyd yn oed canmol y Meuryn.
Mae’n si诺r fod modd dysgu pysgodyn
I reidio ei feic fyny polyn
Ac ateb sawl cwestiwn gan blentyn
Fel pam fod y plorod yn felyn.
Mae’n haws i mi faddau i’r deryn
Adawodd ei farc ar fy nghorun
A pheidio deud drefn wrth y gwenyn,
Am geisio gneud nyth yn fy locsyn.
Haws canu ‘Swing-Lô’ efo’r gelyn
A cheisio anghofio Tryweryn.
***
I’r miloedd ohonoch ga’i ofyn
Er mwyn plesio’r dorf – be’ na’i wedyn?
Geraint Jones (9)
Ateb Llinell ar y Pryd: Yn Llanrwst mae llyn ar waith
Dros yr Aber
Yn Llanrwst mae llyn ar waith
Ond i Gonwy aed ganwaith
Bro Alaw
Yn gur lle bu’r llafurwaith
Yn Llanrwst mae llyn ar waith
(0.5)
Telyneg: Dawns
Dros yr Aber
Cyffyrddodd ei llaw,
ildiodd hithau ei bysedd,
mor dwt, i ddolen ei ddwylo.
Llaciodd rhychau lledr y gadair.
Wrth iddi gyd-gyfri’r eiliadau
gyda’r cloc ar y silff ben tân,
brwsiodd yntau glymau’r
gobennydd o’i gwallt,
corlannodd y briwsion
a wasgarwyd hyd ei siwmper,
tywysodd ei breichiau
drwy dwneli’r gôt, cau’r sip
a gosod sgarff am ei gwddw noeth.
Gwenodd arno.
Estynnodd ei fraich i’w hebrwng
ar draws y llawr at y drws.
Marged Tudur (9)
Bro Alaw
Llawr llawn a’r curo cyson yn fy mhen,
Chwyrlïo, troi, ei chyffwrdd, cyffro ond daw’r bît i ben
A’r nos yn addo gobaith tu hwnt i’w llen.
Symud, cyd-symud i rythmau’r dydd,
Cydio’n ein gilydd heb ollwng yn rhydd,
Morddwyd wrth forddwyd, dyfodol a fydd.
Troelli, cyd-droelli, bywydau yn llawn
Antur a phleser prysurdeb prynhawn,
Arwain ein gilydd trwy’r harmoni wnawn.
* * * * * *
Byrhau a wna’r nawniau, a nawr pwy a 诺yr
Pa bryd ddaw’r distawrwydd i’n llorio yn llwyr.
O, cydia’n fy nwylo a dawnsiwn i’r hwyr.
Llawr gwag yw’r dyfodol: ar ôl, dim ond un
Anesmwyth sy’n trosi trwy’r nos ar ddi-hun
I gerddoriaeth goll y blynyddoedd cytûn.
Cen Williams (9.5)
Englyn: Arf
Dros yr Aber
“There is no direct correlation” – honiad diweddar Theresa May nad oes cysylltiad rhwng ei thoriadau ariannol fel Ysgrifennydd Cartref a’r cynnydd mewn troseddau â chyllyll ymhlith pobl ifanc.
Yn nhir y cyllyll a'r colli, ni wn
sut na wêl, mewn difri,
uwch gwirionedd y beddi,
fin y llafn yn ei llaw hi.
Rhys Iorwerth (9.5)
Bro Alaw
Amesbury Mehefin 2018
Daw o’i gwsg ar doriad gwawr hefo’i bac
Helfa bin cynhwysfawr,
Chwilia’r lawnt a chael ar lawr
Hen bwrs a photel bersawr.
Richard Parry Jones (8.5)