大象传媒

Eifionydd gan R Williams ParryMesur y gerdd

Mae byd natur yn elfen bwysig ym marddoniaeth R Williams Parry. Yn y gerdd hon mae'r bardd yn defnyddio gwrthgyferbyniadau trawiadol a chyffelybiaethau i ddisgrifio harddwch a llonyddwch y L么n Goed.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Mesur y gerdd

Cerdd ar fydr ac odl yw hon. Mae鈥檔 gerdd fer, mewn arddull syml sydd yn cynnwys un syniad neu deimlad canolog. Mae hi鈥檔 gerdd delynegol lle mae鈥檙 bardd hefyd fel arfer yn mynegi ei deimladau ei hun. Mae odl amlwg yn Eifionydd.

Ym mhob pennill chwe llinell ceir odl yn y llinell gyntaf a鈥檙 drydedd, ac yn yr ail a鈥檙 bedwaredd llinell. Mae鈥檙 cwpled clo yn odli ym mhob pennill. Mae patrwm pendant i hyd y llinellau; chwe sill yn yr ail linnel, saith sill yn y drydedd llinell, a chwe sill eto yn y bedwaredd llinell.Mae鈥檙 ddwy linell olaf ym mhob pennill yn wyth sill yr un. Yn ogystal 芒 bod yn gymorth i鈥檙 cof mae telyneg ar fydr ac odl yn dlws i鈥檙 glust ac yn ychwanegu at harddwch yr hyn sydd yn cael ei ddweud yn y gerdd.

Diagram i arddangos patrwm yn y gerdd 'Eifionydd' gan R. Williams Parry.