罢丑别尘芒耻
Taith Rowland Ellis tuag at y goleuni
Mae Rowland yn gweld y daith o ddod yn Grynwr yn un anodd, ond mae鈥檔 gwybod mai hon ydy鈥檙 daith gywir.
Caredigrwydd
Mae llawer o garedigrwydd yn cael ei ddangos gan nifer o鈥檙 cymeriadau, yn wrthbwynt i鈥檙 creulondeb sydd yn erbyn y Crynwyr.
Creulondeb a chasineb
Yn ogystal 芒 chreulondeb at y Crynwyr, mae yma enghreifftiau eraill, ee boddi Betsan Prys.
Colled
Colli eiddo, colli rhyddid, colli cariad ac yn bennaf oll colli bywyd.
Teulu
Pwysigrwydd teulu, ee teulu Brynmawr, teulu Sinai Roberts. Gwrthbwynt i hyn ydy teulu Hywel a Lowri Vaughan.
Iaith ac arddull
Iaith naratif
Iaith lenyddol ydy iaith naratif y nofel, ee Byr yw hoedl yr haul yn Nyffryn Mawddach, ond pan ddaw, mae鈥檔 gweddnewid pobman.
Iaith cymeriadau
Mae gan bob cymeriad ei ffordd arbennig o siarad. Tueddu i edrych i lawr ar bobl y mae Hywel Vaughan: Trueni fod y werin yn ogleuo gymaint...
Nid ydy鈥檔 siarad mewn tafodiaith, ac mae hynny鈥檔 awgrymu ei statws uchel yn y gymdeithas.
Mae Rowland Ellis yn defnyddio mwy o dafodiaith, yn arbennig gyda Meg pan fo鈥檔 siarad yn gariadus, Ceisia ddeall, y fech...
Mae rhywbeth annwyl hefyd yn y ffordd y mae Ellis Puw yn siarad, Sinai, 鈥檇oes gen ti ddim math o d芒n. Tyrd imi gynneu un i ti.
Huw Morris ydy鈥檙 cymeriad sy鈥檔 siarad fwyaf amrwd yn y nofel. Mae鈥檔 barod ei dafod yn erbyn y Crynwyr: Wyst ti 鈥 y Crynwyr 鈥檔a... y Rab-siacas.
Nodweddion
Trosiad
y talcen o farmor...
Mae鈥檙 awdur yma鈥檔 disgrifio Meg fel y mae Rowland yn ei gweld. Er bod Meg yn agos ato鈥檔 gorfforol, mae e鈥檔 teimlo fod yna bellter rhyngddynt. Mae鈥檙 trosiad yn awgrymu oerni a chaledwch.
Cyffelybiaeth
Fe鈥檜 gwelodd fel s锚r wedi syrthio o鈥檙 nefoedd.
Mae Rowland yma鈥檔 s么n am y canhwyllau yn ffenestri鈥檙 tai. Bron nad oes rhywbeth ysbrydol yn perthyn i鈥檙 gyffelybiaeth hon. Gwelwn yma fod yr awdur yn awgrymu bod Rowland Ellis yn un oedd 芒 dychymyg byw ac yn meddwl llawer am yr hyn a welai o鈥檌 gwmpas.
Cymhariaeth
Pan mae Ellis Puw yn mynd i weld Sinai Roberts i gydymdeimlo 芒 hi a鈥檙 teulu oherwydd marwolaeth ei g诺r, mae Steffan yn gorwedd yn y siamber ar wastad ei gefn, ei gorff bach mor denau ac eiddil 芒 dryw yn y glaw.
Cawn ddarlun o wendid y bachgen bach yn y gymhariaeth hon a darlun sy鈥檔 dangos ei fod yn dibynnu ar eraill i edrych ar ei 么l. Cawn hefyd ddarlun o ba mor fach ydoedd.
Eironi
Pan mae Lisa yn symud i Frynmawr i fod yn forwyn, mae鈥檔 sylwi ar y gwas ifanc arall, Ellis Puw. Dydy ei olwg ddim yn apelio ryw lawer ati. Fyddai鈥檙 un hogan yn syrthio mewn cariad ag o 鈥 gyda鈥檌 wallt cringoch syth, a鈥檌 sgwyddau crwn, a鈥檙 brychni ar ei drwyn.
Yn nes ymlaen rydyn ni'n dod i wybod mai ei chwaer hi ei hun fyddai鈥檔 dod yn gariad i Ellis Puw yn y pen draw.
Awgrym
Cawn awgrym yn gynnar iawn yn y nofel fod gan Ellis deimladau tuag at Dorcas, er nad ydy Ellis ei hun yn sylweddoli hynny ar y pryd! Pan mae鈥檔 clywed mai Lisa sydd yn dod i Frynmawr i weini yn lle ei chwaer, Dorcas, aeth gwefr o siomiant dros Ellis Puw, er na wyddai鈥檔 iawn pam.