Technegau gwahanu
Hidlo
Rydyn ni鈥檔 defnyddio鈥檙 dechneg hon i wahanu solid anhydawdd oddi wrth hylif. Fel hyn, gallwn ni wahanu cynnyrch oddi wrth gemegion sydd heb adweithio, sgil gynhyrchion neu hydoddyddYr hylif y mae鈥檙 hydoddyn yn hydoddi ynddo i greu hydoddiant..
1 of 3
Anweddu
Pan mae cynnyrch yn cael ei wneud fel hydoddiant, un ffordd o鈥檌 wahanu oddi wrth yr hydoddydd yw drwy wneud grisialau. Mae hyn yn golygu anwedduY broses lle mae hylif yn newid cyflwr ac yn troi'n nwy. yr hydoddiant i gyfaint llawer llai ac yna gadael iddo oeri. Wrth i鈥檙 hydoddiant oeri, mae grisialau鈥檔 ffurfio, a gallwn ni gael y rhain drwy hidlo.
Distyllu syml
Mae distyllu鈥檔 gwahanu hylif oddi wrth hydoddiant. Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio distyllu syml i wahanu d诺r o heli. Mae鈥檙 dull hwn yn gweithio oherwydd mae鈥檙 d诺r yn anweddu o鈥檙 hydoddiant, ond yna鈥檔 cael ei oeri a鈥檌 cyddwysoNewid mewn cyflwr yw cyddwysiad lle mae nwy yn troi鈥檔 hylif wrth oeri. i gynhwysydd arall. Dydy鈥檙 halen ddim yn anweddu, felly mae鈥檔 aros ar 么l.
Gwahanu hylif oddi wrth hydoddiant
1 of 3