大象传媒

Gwahanu cymysgeddauCromatograffaeth papur

Rydyn ni鈥檔 defnyddio gwahanol dechnegau arbrofol i wahanu amrywiaeth o gymysgeddau i roi sylweddau unigol. Hefyd, mae nifer o ffyrdd o ddweud y gwahaniaeth rhwng newidiadau ffisegol a chemegol.

Part of CemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Cromatograffaeth papur

Gallwn ni ddefnyddio cromatograffaeth i wahanu cymysgeddau o lliw. Mae cymysgeddau sy鈥檔 addas i鈥檞 gwahanu 芒 chromatograffaeth yn cynnwys inciau, llifynnau a chyfryngau lliwio mewn bwyd.

Rydyn ni鈥檔 gwneud cromatograffaeth syml ar bapur. Rydyn ni鈥檔 rhoi smotyn o鈥檙 cymysgedd ar linell bensil yn agos at waelod darn o bapur cromatograffaeth - rhaid i鈥檙 llinell fod mewn pensil oherwydd mae pensil yn anhydawdd mewn d诺r ac felly fydd y llinell ddim yn symud wrth i鈥檙 gromatograffaeth ddigwydd. Yna, rydyn ni鈥檔 rhoi鈥檙 papur ar i fyny mewn addas, fel d诺r.

Wrth i鈥檙 hydoddydd fwydo i fyny鈥檙 papur, mae鈥檔 cludo鈥檙 cymysgeddau gydag ef. Bydd gwahanol gydrannau o鈥檙 cymysgedd yn symud ar wahanol gyfraddau. Mae hyn yn gwahanu鈥檙 cymysgedd.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 3, Tynnu llinell 芒 phensil ar draws dalen o bapur cromatograffaeth a gosod smotiau o inc neu lifyn planhigol ar y llinell. Dal y papur uwchben basn sy'n cynnwys hydoddydd., 1. Rhoi smotiau o inc neu lifyn planhigyn ar linell bensil

Gwerthoedd Rf

Gallwn ni adnabod gwahanol a chydrannau鈥檙 cymysgeddau wedi鈥檜 gwahanu drwy gyfrifo鈥檙 (Rf). Rydyn ni鈥檔 defnyddio鈥檙 hafaliad canlynol i gyfrifo gwerth Rf:

Mae鈥檙 gwerth Rf yn mesur pa mor hydawdd yw sylwedd penodol mewn hydoddydd penodol. Y pellaf mae鈥檙 sylwedd yn symud, y mwyaf yw gwerth Rf y sylwedd hwnnw, ac felly y mwyaf hydawdd ydyw yn yr hydoddydd rwyt ti鈥檔 ei ddefnyddio.

Mae gwerth Rf cyfansoddyn penodol yr un fath bob amser cyn belled 芒 bod y gromatograffaeth wedi鈥檌 gwneud yn yr un ffordd. Mae hyn yn galluogi diwydiannau i ddefnyddio cromatograffaeth i adnabod cyfansoddion mewn cymysgeddau.

Gallwn ni hefyd ddefnyddio cromatograffaeth pan mae鈥檙 gwahanol sylweddau yn y cymysgedd yn ddi-liw. Gallwn ni ddefnyddio ar y cromatogram, sy鈥檔 adweithio 芒鈥檙 cemegion anweladwy fel ein bod ni鈥檔 gallu eu gweld nhw.

Papur cromatograffaeth wrth raddfa fesur sy'n dangos y pellter mae'r hydoddydd yn ei deithio, a smotyn lliw sy'n dangos y pellter mae'r sylwedd yn ei deithio.
Figure caption,
Papur cromatograffaeth wrth raddfa fesur sy鈥檔 dangos y pellteroedd mae鈥檙 hydoddydd a鈥檙 sylwedd yn ei deithio