Cymeriad – ô
Mae ô yn fachgen pedair ar ddeg oed. Mae ganddo wallt tywyll a llygaid mawr glas. Mae’n denau iawn ac mae ei ddannedd blaen yn gam. Mae’n byw mewn pentref o’r enw Nebo gyda’i fam Rowenna a’i hanner chwaer fach, Dwynwen. Dydy tad ô ddim wedi bod yn rhan o’i fywyd o gwbl. Dechreuodd proses 'Y Terfyn’ pan oedd ô ond yn chwech oed. Mae cymeriad ô wedi trawsnewid yn llwyr ers dechrau ‘Y Terfyn’ ac mae’n gwneud llawer iawn i helpu ei fam i sicrhau bod y teulu’n goroesiLlwyddo i fyw drwy ddigwyddiad neu gyfnod. a’u bod yn hunangynhaliolY gallu i fyw heb orfod dibynnu ar rywun neu rywbeth arall..
Fel hyn mae Rowenna yn disgrifio ei mab:
“Doedd o ddim fel y plant eraill... Roedd rhywbeth yn betrus amdano... Roedd o’n rhywun newydd ar ôl Y Terfyn.”
“...aeth o fod yn hogyn bach ansicr i fod yn hogyn mawr a chanddo bwrpas a swyddogaeth i'w fywyd.”
“[yn] gryf ond yn addfwyn, yn ddoeth ac yn wydn.”
Gwylia’r fideo yma lle mae’r awdur yn trafod cymeriad ô yn y nofel -
Ymarferol
Mae ô yn gymeriad sy’n mwynhau gwneud tasgau ymarferol. Mae wrth ei fodd yn garddio ac yn adeiladu.
Meddai ei fam amdano:
“Rhwng chwarae ceir bach yn yr ardd a chwarae clai wrth fwrdd y gegin, byddai fy mab yn chwynnu ac yn hel priciau ac yn chwilio’r caeau am fadarch...”
Ar ôl i'r cymdogion, Mr a Mrs Thorpe adael, does yna neb arall ar ôl yn Nebo heblaw am ô a’i deulu bach. Mae ô yn cymryd neu’n ‘benthyg’ pethau (fel mae Rowenna’n galw’r peth) o gartrefi’r cymdogion sydd bellach wedi marw neu wedi gadael. Mae ô yn adeiladu pethau gyda’r hyn mae’n ei ‘fenthyg’ - pethau mawr fel tai gwydr, ystafell haul a thwnnel tyfu llysiau.
“Ac mi adawodd [Mam] i fi wneud y rhan fwya o’r gwaith, hyd yn oed y pethau peryglus.”
Mae ô yn arddwr ardderchog.
Wrth i'r nofel ddatblygu fel welwn fod ô yn teimlo fel dyn ac nid fel bachgen:
“Weithia... mi fydda i'n sefyll ar waelod yr ardd yn edrych ar yr holl bethau yma dwi wedi eu creu – yr adeiladau a’r planhigion a’r bwyd – a dwi’n teimlo fel taswn i'n ddyn, ddim yn hogyn.”
Deallus
“Roedd ô yn darllen popeth ac yn gallu edrych ar ôl ei hun erbyn yr un oed y byddai wedi dechrau yn yr ysgol uwchradd yn yr hen fyd.”
Mae'r nofel yn dangos i ni fod ô yn fachgen deallus:
- mae wedi dysgu nifer o eiriau Cymraeg newydd am fyd natur - geiriau fel ‘madfall y dŵr’, ‘malwod y llyn’ a ‘morgrug cochion’
- mae'n gallu cymharu cymeriad Gwdig â chymeriad Melangell o Chwedlau Gwerin Cymru 2
- mae'n ymchwilio i ystyr geiriau nad yw'n eu deall - er enghraifft mae'n dod o hyd i ystyr atgenhedluCreu baban drwy broses rywiol. drwy ddarllen llyfr adolygu TGAU Bioleg
- mae wedi darllen nifer fawr o nofelau gan gynnwys Cysgod y Cryman a Mochyn Gwydr ar ôl i Rowenna achub y llyfrau o'r Llyfrgell
“Dwi’n darllen yn araf, ac yn eu darllen nhw i gyd dro ar ôl tro, yn syth ar ôl ei gilydd nes ‘mod i'n eu gwybod nhw ar fy nghof.”
Gofalgar a meddylgar
Mae ô yn cydymdeimlo gydag anifeiliaid a phlanhigion, ac mae’n siarad gyda’r llysiau mae’n eu tyfu gan deimlo fel tad iddyn nhw. Mae’n teimlo’n euog wrth fwyta’r llysiau mae wedi eu tyfu:
“Mi ddaeth y dagrau pan wnaethon ni fwyta’r tatws yna”.
“Dwi ddim yn licio lladd pethau.”
Gofala’n dyner am Gwdig, yr ysgyfarnog, ac mae’n ei fwydo a’i fwytho’n ddyddiol.
Fe welwn ochr ofalgar cymeriad ô yn yr hanes am enedigaeth Dwynwen, ei hanner chwaer. Yn ystod yr enedigaeth, gwnaeth yn siŵr fod ei fam yn gyfforddus a phan gyrhaeddodd y babi fe gusanodd ô ei phen. Gadawodd hynny waed ar ei geg. Yn dilyn yr enedigaeth aeth ô ati i goginio’r brychOrgan yng nghroth mamaliaid sy’n gofalu am y ffoetws. er mwyn gwneud cawl.
Mae ô hefyd yn gofalu am Dwynwen. Dyma sut y mae’n disgrifio ei chario:
“Mae’n braf ei theimlo hi yna, yn gynnes arna i wrth i mi weithio, a dwi’n siarad efo hi o hyd...”
Wrth iddo dyfu’n hŷn mae Rowenna’n poeni y bydd ô yn ei gadael er ei bod yn dweud ei fod yn “rhy ffeind” i wneud hynny.
Mae ô yn gymeriad meddylgar. Mae’n crio wrth gofio am Dwynwen a Gwdig ar ôl iddyn nhw farw, ond mae’n gofalu nad yw ei fam yn ei glywed. Nid yw am ddangos i Rowenna ei fod yn drist oherwydd mae’n poeni am y galarTeimlad o dristwch ar ôl i rhywun farw. mawr mae hi’n ei deimlo:
“...weithia dwi’n crio nes ‘mod i eisiau bod yn sâl....ond wastad yn dawel, rhag ofn i Mam glywed.”
Crefyddol
Mae’n amlwg fod ô yn meddwl am grefydd. Mae’n dangos hynny mewn nifer o ffyrdd yn y nofel:
- Mae ô wrth ei fodd gyda’r Beibl. Mae darllen y Beibl yn ei helpu i ymdopi gyda ‘Y Terfyn’, ac mae’n rhoi cysur iddo: “Mae o’n teimlo fel petai Iesu Grist yn sôn am Mam a fi, a dim ond ni”
- I ô, mae Iesu Grist yn berson y mae’n gallu uniaethu ag ef. Mae’r disgrifiad yn y Testament Newydd o Iesu fel person annwyl sydd hefyd yn gallu colli ei dymer yn cael argraff arno.
- Mae’n canu ac yn darllen darnau o’r EfengylCofnodion a dysgeidiaeth am fywyd Iesu Grist ym mhedwar llyfr cyntaf y Testament Newydd. i Dwynwen yn aml.
- Mae ô yn claddu Dwynwen ac mae’n awyddus i gerfio carreg fedd iddi gyda geiriau o Efengyl Ioan arni; “ac i ba le yr wyf yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch”.
Ar ei ben ei hun
Ers cychwyn ‘Y Terfyn’ nid yw ô wedi gallu mynd i'r ysgol na chwrdd â phlant eraill. Mae o wedi gorfod byw bywyd heb ffrindiau o’r un oed. Mae Rowenna yn cofio amdano yn chwarae yn yr ysgol ac yn gallu mwynhau bywyd plentyn cyn ‘Y Terfyn’ - mae’r atgof yma yn dangos gymaint mae bywyd wedi newid i ô:
“Roedd plant yr ysgol allan yn chwarae, ac mi wnes i sefyll yna am chydig yn gwylio ô. Roedd o’n smalio bod yn awyren, a dau o’i ffrindiau fo’n gwneud yr un fath.”
Gan ei fod yn darllen gymaint, mae ô yn ymwybodol fod ei fywyd yn wahanol iawn i fywydau’r cymeriadau yn y nofelau mae’n eu darllen:
“Dwi ddim yn siŵr pam fod y bobl yn y llyfra’n siarad efo’i gilydd o hyd ac yn mynd allan ac yn cael ffrindia a chariadon, ond ‘mod i a Mam a Dwynwen ‘mond yn gweld ein gilydd.”
Mae’r teimlad fod rhywbeth ar goll o’i fywyd yn amlwg iawn pan ddyweda ô rai dyddiau ar ôl marwolaeth Dwynwen:
“Mae gen i hiraeth ofnadwy am rywbeth, ond dwi ddim yn siŵr be ydi o.”