大象传媒

Walkers' Wood gan Myrddin ap DafyddThem芒u a mesur

Rydym yn byw mewn gwlad brydferth dros ben ac mae鈥檙 prydferthwch hwn yn denu twristiaid lu. Trafod dylanwad twristiaeth ar ein gwlad a鈥檔 hiaith a wna Myrddin ap Dafydd yn y gerdd hon.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Them芒u a mesur

Un o brif them芒u鈥檙 gerdd hon yw bygythiad i鈥檔 hetifeddiaeth. Mae ein gwlad a鈥檙 iaith Gymraeg dan fygythiad oherwydd dylanwadau estron. Dim ond at rai enghreifftiau y mae鈥檙 bardd yn cyfeirio, fel y llyfr Saesneg i ymwelwyr, y 鈥楤etws Guide鈥 a鈥檙 pecyn o 鈥榃alkers鈥 Crisps鈥.

Daw鈥檙 bygythiadau hyn ar ffurf ymwelwyr yn ogystal 芒 mewnfudwyr oherwydd bod enwau Saesneg lleoliadau yn aml yn disodli鈥檙 enwau Cymraeg gwreiddiol. Pryder y bardd yw y bydd enw Cymraeg y coed, sef 鈥楥oed Llugwy鈥, yn araf ddiflannu oherwydd y defnydd cyson o 鈥榃alkers鈥 Wood鈥. Mae鈥檙 enw Cymraeg yn gyfoethocach na鈥檙 enw Saesneg am ei fod yn cyfeirio at yr afon Llugwy ac yn cyfleu perthynas agos y goedwig a鈥檙 ardal.

Darlunnir perthynas agos tad a mab yn y gerdd hon yn ogystal, wrth i鈥檙 tad fynd 芒鈥檌 fab am dro yn y goedwig. Gwelwn gefn gwlad Cymru ar ei orau hefyd a chyfeiriadau lu at hyfrydwch naturiol byd natur gyda鈥檙 cyfeiriadau at liwiau鈥檙 hydref:

Mae popty鈥檙 hydref wedi鈥檜 rhostio, was, / A鈥檜 taenu鈥檔 wledd ar hyd y llawr.

Darlun o gogydd gyda'r enw 'HYDREF' ar ei het, yn cymryd hambwrdd llawn dail aur, disglair, crychlyd allan o'r popty.

Mesur

Cerdd rydd mewn mydr ac odl yw hon.

Mae鈥檙 llinellau yn amrywio o ran sillafau ond mae dau guriad ymhob llinell. Mae llinell 2 a 4 yn odli ymhob pennill.

Mae Myrddin ap Dafydd yn odli geiriau Cymraeg a geiriau Saesneg ar ddau achlysur 鈥 鈥楾aid鈥 a 鈥楪uide鈥; 鈥榤wd鈥 a 鈥榃ood鈥 er mwyn pwysleisio dylanwad y Saesneg ar yr ardal.