Ecosystemau – trosglwyddo egni Pyramidiau o fiomas
Mae cadwynau bwyd a gweoedd bwyd yn dangos sut mae egni'n cael ei drosglwyddo rhwng organebau. Gallwn ni gynrychioli gwe fwyd fel pyramid rhifau neu fel pyramid biomas.
biomasMàs sych organeb ydy biomas. yw màs sychMàs organeb ar ôl cael gwared ar ei dŵr. yr organebau byw mewn ardal (cynefin) ar adeg benodol. Mae pyramid o fiomas yn cynrychioli màs yr organebau ar bob lefel droffigSafle organeb mewn cadwyn fwyd, gweoedd bwyd neu byramid..
Question
Dyma gadwyn fwyd yn yr Arctig.
ffytoplancton → swoplancton → morfil yr Arctig
Mae’r biomasau yn y gadwyn hon wedi’u dangos isod, ond ddim yn y drefn gywir.
75 tunnell
750 tunnell
200 tunnell
Rho’r organebau a’u biomasau yn y pyramid biomas isod.