Mae cadwynau bwyd a gweoedd bwyd yn dangos sut mae egni'n cael ei drosglwyddo rhwng organebau. Gallwn ni gynrychioli gwe fwyd fel pyramid rhifau neu fel pyramid biomas.
Rhwydwaith o cadwyn fwydDilyniant (sy’n cael ei ddangos fel diagram fel arfer) o’r berthynas fwydo rhwng organebau, sy’n dangos pwy sy’n bwyta beth a symudiad egni drwy lefelau troffig. ydy gwe fwydDiagram o’r berthynas fwydo rhwng organebau mewn amgylchedd.. Mae’n dangos yr egni sy’n llifo drwy ran o ecosystemY rhyngweithiadau rhwng cymunedau o organebau byw a'r amgylchedd anfyw mewn ardal benodol..
Mewn gwe fwyd, mae newidiadau i boblogaeth un organeb yn effeithio ar boblogaethau organebau eraill. Cyd-ddibyniaeth yw hyn.
Beth fyddai’n digwydd i niferoedd y lindys pe bai poblogaeth llygod y maes yn lleihau?
Bydden nhw’n cynyddu. Byddai’r tylluanod yn bwyta mwy o chwistlod gan fod llai o lygod y maes yno. Mae hyn yn golygu y byddai llai o chwistlod i fwyta’r lindys a byddai eu niferoedd yn cynyddu oherwydd diffyg ysglyfaethu.
Gwylia’r fideo hwn i gael gwell dealltwriaeth o gyd-ddibyniaeth mewn gweoedd bwyd (cynnwys Saesneg).