Mae cadwynau bwyd a gweoedd bwyd yn dangos sut mae egni'n cael ei drosglwyddo rhwng organebau. Gallwn ni gynrychioli gwe fwyd fel pyramid rhifau neu fel pyramid biomas.
Mae egni’n cael ei drosglwyddo ar hyd cadwynau bwyd, ond mae swm yr egni sydd ar gael yn lleihau o un lefel droffig i’r nesaf. Y rheswm dros hyn yw mai dim ond tua 10 y cant o’r egni sy’n cael ei drosglwyddo i’r lefel droffig nesaf.
Mae gweddill yr egni yn gadael y gadwyn fwyd mewn sawl ffordd:
mae’n cael ei ryddhau fel egni gwres wrth resbiradu
mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer prosesau bywyd (ee symudiad)
mae’n cael ei garthu mewn ymgarthion a gweddillion organebau marw sy’n cael eu trosglwyddo i dadelfennyddOrganeb sy’n bwyta organebau marw neu tail anifeiliaid, ac yn eu hymddatod yn ddeunyddiau syml.
Mae llai o egni yn cael ei drosglwyddo ar bob lefel o’r gadwyn fwyd, felly mae’r biomasMàs sych organeb ydy biomas. yn lleihau.
Mae modd cyfrifo effeithlonrwydd canrannol trosglwyddo egni rhwng lefelau troffig gan ddefnyddio’r hafaliad hwn.
\(\text{effeithlonrwydd} = \frac{\text{egni sy'n cael ei drosglwyddo i'r lefel nesaf}}{\text{cyfanswm yr egni i mewn}} \times 100\)
Question
Faint o egni sydd gan A ar ddechrau’r gadwyn?
Faint o egni a drosglwyddir o A i B?
Cyfrifa effeithlonrwydd y trosglwyddiad hwn gan ddefnyddio’r hafaliad.