Mae cadwynau bwyd a gweoedd bwyd yn dangos sut mae egni'n cael ei drosglwyddo rhwng organebau. Gallwn ni gynrychioli gwe fwyd fel pyramid rhifau neu fel pyramid biomas.
Mae pyramid o rifau yn dangos nifer y boblogaeth ar bob cam mewn cadwyn fwydDilyniant (sy’n cael ei ddangos fel diagram fel arfer) o’r berthynas fwydo rhwng organebau, sy’n dangos pwy sy’n bwyta beth a symudiad egni drwy lefelau troffig.. Mae’n cael ei lunio fel siart bar, gyda’r barrau yn cael eu pentyrru ar ben ei gilydd. Y lletaf ydy’r bar, y mwyaf yw nifer yr organebau y mae’n ei gynrychioli. Mae’r cynhyrchyddOrganeb sy'n gwneud ei bwyd ei hun drwy drawsnewid egni golau yn egni cemegol (ffotosynthesis). bob amser ar waelod y pyramid.
Question
Beth alli di ei ddweud am nifer yr organebau wrth symud ar hyd y gadwyn fwyd o’r cynhyrchydd i fyny’r lefelau troffig?
Yn gyffredinol, mae nifer yr organebau’n lleihau, ond mae yna eithriadau i hyn.
Siapiau pyramid eraill
Yn aml, dydy pyramid o rifau ddim yn edrych fel pyramid o gwbl. Rydyn ni’n galw’r rhain yn byramidiau gwrthdro. Fe allai hyn ddigwydd os mai planhigyn mawr, megis coeden, ydy’r cynhyrchydd, neu os ydy un o’r anifeiliaid yn fach iawn. Dyma ddwy enghraifft.