罢丑别尘芒耻
Thema cariad
Wrth drafod y them芒u cofia ddyfynnu a defnyddio tystiolaeth o鈥檙 nofel.
Trwy鈥檙 nofel mae perthynas Einir a Meredydd yn blodeuo. Mae鈥檙 naill yn gefn i鈥檙 llall wedi鈥檙 cyfnodau anodd maen nhw wedi bod trwyddynt 鈥 tor dywedd茂ad Einir a鈥檙 cyhuddiad yn erbyn Meredydd. O fewn pedair wythnos o gyfarfod yn Yr Erddig roedd Meredydd dros ei ben a鈥檌 glustiau mewn cariad.
Einir ydy鈥檙 unig ferch y mae鈥檔 gallu rhannu popeth, pob teimlad, pob profiad 芒 hi.
Mae鈥檙 nofel yn gorffen gyda Meredydd yn gofyn i Einir fynd i siop fodrwyau gydag ef.
Thema rhagrith
Mae llawer o鈥檙 cymeriadau鈥檔 rhagrithio, ee:
- Mae鈥檙 Barnwr wedi diflasu yn y Llys ac eisiau mynd adref. Dywed Meredydd,
Wnest ti ddim dadlau fy achos o gwbl, dim ond defnyddio dy glyfrwch cyfoglyd i ddangos dy hun i鈥檙 holl bobl yma.
Nid ydy鈥檙 bargyfreithiwr yn credu bod Meredydd yn ddieuog er ei fod yn ei amddiffyn. - Nid ydy Harri J么s,
yn rhy gyfeillgar
pan aiff Meredydd i鈥檞 siop ond erbyn i鈥檞 fil fod yn anferth,Ni fu neb erioed yn fwy dieuog.
- Mynd i angladd Gladys o ran dyletswydd mae pawb a does neb yn drist.
- Mae鈥檙 plismyn yn dwp,
Dim ond blydi plismyn fyddai鈥檔 ddigon dwl i chwilio ochre mynydd am ddyn wedi boddi yn y m么r,
meddai Meredydd. - Cael dyrchafiad sydd ar feddwl y dyn teledu,
efallai y c芒i fynd yn bennaeth rhaglenni.
Fedri di brofi鈥檙 them芒u a ganlyn gyda dyfyniadau a chynnig tystiolaeth o鈥檙 nofel?
Thema cyfraith a threfn
Ar wah芒n i Gareth Hughes mae鈥檙 plismyn yn cael eu darlunio鈥檔 negyddol. Cafodd Meredydd ei gyhuddo ar gam a鈥檌 drin yn ffiaidd gan yr heddlu ac mae鈥檙 heddlu yn hunan bwysig pan f么nt yn chwilio am gorff Richard Jones.
Thema gwrthdaro
Ceir gwrthdaro rhwng Cymry a Saeson, Meredydd a鈥檙 heddlu a phobl y pentref a Huw, Meredydd ac Einir a Richard Jones, Gladys a phawb, teulu Gwastad Hir, Now a Richard Jones.
Thema gwerth cymdeithas
Cymdeithas gl貌s, gefnogol sydd yn y nofel, ee Gwyndaf a鈥檌 wraig, criw鈥檙 Wylan Wen, Wil y garej, Gareth Hughes 鈥 y rhai sy鈥檔 helpu Meredydd i ddod dros y profiadau a gafodd.