Ymarfer ymateb i ddarn darllen
Darllena y darn [tud. 55鈥57: Daethant at yr Wylan Wen a pharciodd Richard y car o flaen y drws 鈥 teimlodd mai鈥檙 peth gorau i鈥檞 wneud oedd mynd i鈥檙 cefn am ychydig.
] a cheisia ateb y cwestiynau sy鈥檔 dilyn.
Question
Ysgrifenna hanes un olygfa arall yn y nofel lle mae Richard Jones yn chwarae rhan bwysig. Dylet ysgrifennu tua hanner tudalen A4.
- Ar ddechrau鈥檙 nofel mae Richard Jones yn claddu鈥檙 gemau yng nghornel un o gaeau Tan Ceris.
- Tynnu鈥檙 tywyrch yn ofalus a鈥檜 gosod 芒鈥檜 pennau i lawr cyn tyllu a rhoi鈥檙 pridd ar ddarn o bapur.
- Codi carreg ar si芒p pyramid a鈥檌 rhoi ar y papur.
- Mesur y twll 鈥 dwy droedfedd a hanner.
- Bodlon ar hyn oherwydd mae鈥檔 gwybod y bydd dwy droedfedd o bridd ar ben y blwch gemau yn ddigon i鈥檞 ddiogelu.
- Cerdded at y clawdd lle mae wedi cuddio鈥檙 blwch a cheisio clywed s诺n y m么r.
- Gosod y blwch ar waelod y twll, rhoi pridd ar ei ben gyda鈥檌 ddwylo a gwasgu鈥檙 pridd a鈥檙 garreg gyda gordd.
- Tywallt y glaw.
- Ofn gadael y mymryn lleiaf o bridd ar y glaswellt felly ei gario at y gwrych.
- Bodlon iawn ar ei waith taclus.
- I gyrraedd y car yr oedd yn rhaid iddo ddringo dros dri gwrych a cherdded ar draws dau gae ac roedd yn wlyb at ei groen.
Question
Sut gymeriad ydy Richard Jones? Rho enghreifftiau o鈥檙 ffordd mae鈥檔 ymddwyn.
- Dyn slei a chyfrwys iawn.
- Darganfod bod Harri Evans yn yr ysbyty.
- Eisiau gwybod ydy e wedi marw.
- Ffonio a dweud ei fod yn perthyn.
- Ofn i Harri ddweud hanes y dwyn wrth yr heddlu.
- Gofalus a thrylwyr fel pan mae鈥檔 claddu鈥檙 gemau ac yn cloddio amdanyn nhw yn sied Gladys.
- Dydy Meredydd ac Einir ddim yn ei hoffi 鈥 mae鈥檔 rhy fusneslyd.
- Penderfynol o gael y gemau.
Question
Sut mae鈥檙 darn yn cyfleu cymeriad Now Tan Ceris?
Cyn mynd i Dan Ceris yr oedd Richard Jones wedi meddwl y gallai gael unrhyw wybodaeth allan o Now ond sylweddolodd gyda siom fod y dyn gyferbyn ag ef yn rhy gymhleth iddo allu ei drin fel y dymunai; nid gwladwr syml llyncu popeth a eisteddai o鈥檌 flaen ond dyn 芒 thafod a meddwl fel rasel.
Caiff hyn ei gadarnhau yn y darn dan sylw oherwydd mae鈥檔 amau bod Richard Jones ar 么l ei arian. Digon cyfrwys i adael i Richard Jones dalu am ei ddiod 鈥 wedi鈥檙 cyfan, cael ei wadd yno roedd ef,
meddyliodd!
Cyferbyniad llwyr rhyngddo fe a Richard o ran ymddangosiad a dyna pam mae鈥檔 wfftio at daclusrwydd sid锚t a pharchus ei nai 鈥 y streipen wen yn ei wallt a鈥檌 sgidiau sgleiniog. Mae sain yr 鈥榮鈥 yn cyfleu ei falais.
Adnabod pobl yn dda. Y trosiad un cwestiwn mawr
yn cyfleu pa mor ymholgar ydy Richard. Sylweddola fod Richard yn groendenau a manteisia ar hynny trwy ei bryfocio am Gladys Drofa Ganol. Caiff lawer iawn o hwyl yn gwneud hyn.
Pryfocia Gareth Hughes trwy ddweud wrtho am dynnu鈥檙 peth dal wya 鈥檔a
sydd ganddo ar ei ben, trosiad sy鈥檔 cyfleu si芒p helmed plismon. Defnyddia Now ddywediadau gwreiddiol fel hyn yn gyson.
Yn y darn darllen mae鈥檔 rhegi, gwyllt ar y diawl,
ond does dim yn gas yn ei regfeydd. Mae ganddo dafodiaith Pen Ll欧n, ee mi sodra Gladys di
a chymreigia eiriau Saesneg, ee 别苍迟测谤迟锚苍.
Question
Dychmyga mai ti ydy Richard Jones. Ysgrifenna ymson Richard Jones wedi gadael Yr Wylan Wen y noson honno. Dylet ysgrifennu tua 戮 tudalen A4.
Dyma enghraifft o ateb da:
Un dogn arall o wisgi ac un sigar茅t arall ac mi 芒 i i ngwely. Dw i鈥檔 haeddu hyn! Mi agorodd yr Owen Jones 鈥檔a ei geg o鈥檙 diwedd! Roedd hi鈥檔 werth llenwi ei fol gyda chwrw. Go simsan oedd o ar ei draed pan ollyngais i o lawr wrth gi芒t Tan Ceris. Diolch byth doedd dim rhaid i mi fynd i鈥檙 t欧 afiach 鈥檔a eto! Oelcloth ar lawr yn yr oes hon! Ond o leia mae 鈥檔a dd诺r tap yno erbyn hyn. A鈥檙 ci 鈥檔a! Mi allwn i ladd y diawl am fod mor ffyrnig! A sut enw ydy Dwalad ar gi? Dydy鈥檙 dyn 鈥檔a ddim yn gall. Pawb yn y dafarn ceiniog a dima yr un fath! Josgins go iawn yn gwneud j么cs plentynnaidd ac yn gwneud i mi edrych fel ff诺l. Ond mi ges i鈥檙 wybodaeth r么n i isio.
I feddwl fod y gemau yng ngardd y ddynes 鈥檔a fu bron i mi ei lladd 鈥 Gladys Drofa Ganol neu rywbeth a drws nesa i鈥檙 dyn digroeso hwnnw welais i yn y bar amser cinio. Fedra i ddim deall be mae鈥檙 ferch rywiol tu 么l i鈥檙 bar yn ei weld ynddo fo a fedrwn i gael dim gwybodaeth am y stad ganddo fo.
Mi 芒 i i chwilio am fap ben bore fory. Ond oes angen map arna i? Mi fydd gan y penseiri gynlluniodd y tai blan o鈥檙 lle fel yr oedd cyn dechrau adeiladu. Taswn i鈥檔 cael gafael ar hwnnw mi fedrwn i gymharu鈥檙 mesuriadau 芒鈥檙 rhai gymerais i bum mlynedd yn 么l 鈥 gan obeithio bod y goeden a鈥檙 polyn trydan ar y plan. Wedyn dim ond cael plan gorffenedig o鈥檙 stad ac mi fydda i鈥檔 gwybod ble mae鈥檙 diemwntau! Diolch Yncl Now!
Bydd yn rhaid i mi fod yn ofalus wrth gael gafael ar y planiau. Ble ca i nhw? Y penseiri? (Ond rhaid cofio bod y boi sych 鈥檔a鈥檔 gweithio iddyn nhw). Y Cyngor Dosbarth? Y Cyngor Sir? Y Bwrdd Trydan?
A sut? Gofyn yn gwrtais ynteu eu dwyn? Mi fydd yn rhaid i mi feddwl yn ofalus am hyn ond cwsg amdani r诺an! Mae wedi bod yn noson broffidiol!