Algebra
Hafaliadau llinellau
Edrycha sut i blotio ym mhedwar pedrant graff a sut i lunio llinellau syth. Gallwn gasglu gwybodaeth am raddiant a safle’r llinellau, er enghraifft, a ydyn nhw’n baralel neu berpendicwlar ai peidio.
Hafaliadau cromliniau - Canolradd ac Uwch
Mae graffiau cwadratig, ciwbig ac esbonyddol yn dri gwahanol fath o graffiau crwm. Gallwn eu defnyddio i ddatrys hafaliadau sy’n gysylltiedig â’r graff.
Algebra sylfaenol
Mae algebra’n ddefnyddiol iawn yn ein byd modern lle mae mathemateg yn cael ei ddefnyddio’n eang iawn. Mae hyn yn cynnwys ehangu cromfachau, casglu termau ac amnewid mewn fformiwlâu.
Hafaliadau a fformiwlâu
Dysga sut i ddatrys, ffurfio a thrin mynegiadau algebraidd gan gynnwys symleiddio ac ad-drefnu hafaliadau. Dysga sut i ddatrys drwy ddefnyddio dull profi a gwella.
Ffactorio - Canolradd ac Uwch
Mae ffactorio’n ffordd o ysgrifennu mynegiad fel lluoswm o’i ffactorau gan ddefnyddio cromfachau. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gael gwared ag unrhyw ffactorau sy’n gyffredin i bob term yn y mynegiad.
Mynegiadau cwadratig - Canolradd ac Uwch
Defnyddir hafaliadau cwadratig yn aml yn algebra, er enghraifft wrth ddisgrifio mudiant taflegryn. Dysga sut i ffurfio a thrin hafaliadau cwadratig a sut i’w datrys gydag amryw o ddulliau gwahanol.
Dilyniannau
Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu’n ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.
Ffwythiannau - Uwch yn unig
Gallwn drawsffurfio ffwythiannau graffiau i ddangos symudiadau ac adlewyrchiadau. Mae dylunwyr graffeg a modelwyr 3D yn defnyddio trawsffurfiadau graffiau i ddylunio gwrthrychau a delweddau.
Anhafaleddau - Canolradd ac Uwch
Algebra yw un o’r arfau mwyaf pwerus ym myd mathemateg – hebddo, ni fyddai gennyn ni dechnoleg gyfrifadurol fodern, datblygiadau meddygol na theithiau awyren fel y gwyddwn ni amdanyn nhw heddiw.
Hafaliadau cydamserol - Canolradd ac Uwch
Mae angen defnyddio sgiliau algebraidd wrth ymdrin â hafaliadau cydamserol er mwyn canfod gwerth yr anhysbysion mewn dau hafaliad neu fwy, sy’n wir ar yr un pryd.
Links
- External linkExternal link
- External linkExternal link
- SubscriptionSubscription