大象传媒

DilyniannauDilyniannau rhif

Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu鈥檔 ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.

Part of MathemategAlgebra

Dilyniannau rhif

Setiau o rifau sy鈥檔 dilyn patrwm neu reol yw dilyniannau rhif. Y patrwm weithiau yw adio neu dynnu rhif bob tro, neu luosi neu rannu 芒 rhif bob tro.

Yr enw ar bob rhif mewn dilyniant yw .

Yr enw a roddir ar ddilyniant sy鈥檔 cynyddu neu鈥檔 lleihau yn 么l yr un swm bob amser yw dilyniant llinol.

Rheolau term i derm

Mae rheol term i derm unrhyw ddilyniant yn disgrifio sut i fynd o un term i鈥檙 nesaf.

Enghraifft un

Cyfrifa beth yw鈥檙 ddau derm nesaf yn y dilyniant canlynol ac ysgrifenna鈥檙 rheol term i derm:

3, 7, 11, 15, ...

Yn gyntaf, cyfrifa鈥檙 rhwng y termau.

Dilyniant rhif gyda鈥檙 termau 3, 7, 11, 15. Y gwahaniaeth rhwng y termau yw 4

Mae鈥檙 dilyniant hwn yn mynd 4 yn fwy bob tro, felly adia 4 at y term diwethaf er mwyn canfod y term nesaf yn y dilyniant.

3, 7, 11, 15, 19, 23, ...

Er mwyn canfod y rheol term i derm, rho rif cyntaf y dilyniant ac yna disgrifia batrwm y rhifau.

Y rhif cyntaf yw 3. Y rheol term i derm yw 鈥榓dio 4鈥.

Unwaith y byddi鈥檔 gwybod y term cyntaf a鈥檙 rheol term i derm, gelli ganfod yr holl dermau yn y dilyniant.

Enghraifft dau

Cyfrifa鈥檙 ddau derm nesaf yn y dilyniant canlynol ac ysgrifenna鈥檙 rheol term i derm:

-1, -0.5, 0, 0.5, ...

Y term cyntaf yw -1. Y rheol term i derm yw 鈥榓dio 0.5鈥.

Dilyniant rhif gyda鈥檙 termau -1, -0.5, 0. 0.5, 1, 1.5. Y gwahaniaeth rhwng y termau yw +0.5

Question

Beth yw鈥檙 rheol term i derm a鈥檙 ddau derm nesaf yn y dilyniant hwn: 17, 14, 11, 8, ...?

Question

Beth yw鈥檙 tri therm nesaf mewn dilyniant lle mae鈥檙 term cyntaf yn 1, a鈥檙 rheol term i derm yw lluosi 芒 2?