Pob clod i Wrecsam a'r Fro. Bron i 18,000 ar y maes ddoe - 3000 yn fwy na'r llynedd, ac ond ychydig gannoedd yn llai nac yn Y Bala yn 2009 - a chanmol mawr yn gyffredinol ar ddiwrnod cynta'r eisteddfod.
Ond beth am heddiw? Y llynedd, diolch i gynllun tocynnau-am-ddim i bobl leol, daeth trigolion Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn eu miloedd i'r maes yng Nglyn Ebwy ar y dydd Sul. Roedd yn bleser clywed cymaint o acenion cymoedd Gwent yno.
Eleni, 2 docyn am 1 oedd y cynnig i bobl leol ar y penwythnos cyntaf, ond o gerdded o gwmpas y maes tua amser cinio, yr argraff gefais i oedd ei bod yn dawelach yn gyffredinol, a bod llai o acenion lleol i'w clywed.
Cefais sgwrs gyda'r Prifardd Tudur Dylan bryd hynny, a'r ddau ohonom yn gweld yr eironi o fod yn siomedig braidd o glywed cyn lleied o Saesneg ar y maes!
Wedi dweud hynny, roedd un o hoelion wyth Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud wrtha' i ar eu stondin gyferbyn â'r pafiliwn, nad oedd modd dal fyny â'r galw am baneidiau y bore 'ma, ac mai pobl ardal Wrecsam oedd llawer o'r rheiny oedd eisiau torri'u syched.
Erbyn ganol y prynhawn, fe sylwais innau ei bod wedi llenwi. Efallai bod pawb yn y pafiliwn pan es i am dro yn gynharach - da o beth!
Uchafbwynt yr eisteddfod i fi hyd yma oedd gweld y barnwr Nic Parri, tra'n westai i fi neithiwr yn ein rhaglen uchafbwyntiau ar S4C, yn ail-greu ei ran ym mhasiant y plant eisteddfod Y Fflint 1969.
Beth oedd y rhan honno? Awyren. "Sut mae actio awyren?" gofynnais i.
"Fel hyn," meddai yntau, "a gwneud lot o sŵn", gan ledu ei freichiau nes bron â tharo fy ngwestai arall, Prydwen Elfed Owens, Llywydd Llys yr Eisteddfod yn ei hwyneb! Allwn i ddim peidio â dychmygu ei weld yn gwiso wig barnwr yn 'hedfan' o gwmpas Llys y Goron.
Roedd hi'n bleser cael ei gwmni o a Prydwen ar y rhaglen neithiwr, a dwi'n edrych 'mlaen yn fawr am sgwrs efo pennaeth cyfathrebu Maer Llundain, Guto Harri ac ennillydd y goron y llynedd, Glenys Roberts, ar y soffa heno. Mi ddylai fod yn raglen ddifyr. Digon o sgwrs a holl uchafbwyntiau'r cystadlu a'r maes.