´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth

Archifau Gorffennaf 2009

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 15:38, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Sylwadau (4)

id-card-front.jpg

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi'r lluniau cyntaf o'r cerdyn adnabod cenedlaethol. Does 'na ddim jac yr undeb- allan o barch at genedlaetholwyr Gogledd Iwerddon. Fe fydd fersiwn Cymru'n ddwyieithog wrth gwrs ac fe fydd... Arhoswch eiliad!!! Arhoswch un bly*i eiliad!!! Rwy'n gwastraffu geiriau yn fan hyn!

Dyw'r peth ddim yn mynd i ddigwydd. Mae'r parot yma'n gelain. Mae'n gyn-barot. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo hynny ym mêr ein hesgyrn. Mae'r pleidiau, ac eithrio Llafur, am sgrapio'r peth ac mewn cyfnod o doriadau gwariant mae 'na ddigon o fewn y blaid honno sy'n chwilio am esgus i roi'r gorau i'r cynllun.

Onid yw hi'n bryd i rywun ddweud wrth yr ymerawdwr ei fod e'n borcyn- nad yw ei ddillad ffansi, mewn gwirionedd, yn bodoli?

Ta beth os ydych chi eisiau gwybod mwy darllenwch y Times.

Yn y cyfamser mae'r Albanwyr am ddysgu gwersi o lwyddiant chwisgi "Penderyn"!

Glasgow Herald

Mae Eta wrthi eto. Diawch mae honna'n lein i'r Talwrn! Mae gan wefan Saesneg y ´óÏó´«Ã½ erthygl ddiddorol am gefndir y terfysgwyr.

´óÏó´«Ã½

Wyddoch chi fod yr eisteddfod yn cynnig y "". Wel nid ein heisteddfod ni efallai!

Mae am gynnal arbrawf diddorol yn ystod y brifwyl. Fe wna i adael iddyn nhw esbonio.

"Fel arbrawf bach, 'da ni wedi creu gwefan ar gyfer y 'steddfod o'r enw Stwnsh Steddfod, sy'n cymeryd gwybodaeth o Flickr, Twitter a Google a'i rhoi ar un dudalen cyfleus.
Y bwriad oedd i weld os oedd hi'n bosib i greu gwefan cyflym i ddangos defnydd o wefannau cymdeithasol gan y bobl sy'n mynd i ddigwyddiadau fel y 'Steddfod. Os bydd y wefan yn llwyddiant, fe wnawn ni ddatblygu y syniad yn bellach ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol ac ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2010."

Mae'r safle yn .




Rhagor o chwarae plant

Vaughan Roderick | 10:14, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Sylwadau (10)

Dioch i bawb wnaeth gynnig ar gêm Myrddin ddoe. Dyma'r atebion;

Geiriau Myrddin

Calf; croth coes , Broom; banhadlen, Leeches; gelen, Collar bone; pont yr ysgwydd, Curlew; gylfinir

Geiriau "Democratiaeth Fyw"

Ladle; lletwad, Jay; sgrech y coed, Moustache; trawswch (ar ddyn) swch ddu (ar fenyw) , Tuning Fork; trawfforch, Barrel Organ; organ gelwrn.

Mae Idris yn gofyn am gyfieithiadau i ddau derm gwleidyddol sef "turnout" (mewn etholiad) ac "engage" (ee the Assembly is seeking to engage with children). Fe fyddai cyfieithiad i'r cyntaf yn fendith mae "canran wnaeth bleidleisio" yn drwsgl tu hwnt!

Fe wna i ychwanegu un gair arall sef "swing" (ee swing of 10%). Mae rhai (gyda fi yn eu plith) yn defnyddio "gogwydd" ond dyw hynny ddim cweit yn golygu'r un peth!

Gair i gloi

Vaughan Roderick | 00:25, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Yn groes i "tweet" Bethan Jenkins does 'na ddim rhyfel rhwng Peter Black a finnau ynghylch sefyllfa Lembit er bod fy sylwadau ynghylch ei wedi denu sylw a.

Fe wna i ddim treulio gormod o amser ynghylch hyn ond mae un sylwad ar sy'n hynod ddiddorol os ydy'r post yn un ddilys. Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio mai ffug-bost yw'r peth. Fe wna i ffeindio allan fory! Fel oeddwn yn hanner amau ffug-bost oedd yr un yn enw un o ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol. Tric budr iawn ac un y dylai perchennog y blog ei gyweirio.

Fe wna i roi'r gair olaf i flogiwr gorau a mwyaf uchel ei barch y Democratiaid Rhyddfrydol, sy'n sgwennu ar safle hanner-swyddogol y blaid. Mae'n cyfeirio at Lembit, nid Peter, wrth gwrs!

"...the overall impression is of a bit of a joker, a wildcard eccentric, the type of guy you'd like to have a drink with, but not want in charge of anything that matters... Here we have a politician capable of inspiring the public, a terrific speaker, a passionate liberal, a clever guy. Yet he's also saddled at the moment with the label, 'A bit of an embarrassment'. Which is a real shame, but the truth."

Ydy'r geiriau yna yn llai personol na rhai Heledd Fychan?

Peter?

Chwarae Plant

Vaughan Roderick | 13:07, Dydd Iau, 30 Gorffennaf 2009

Sylwadau (13)

2202267.jpg

Dydw i ddim yn gweithio yn yr Eisteddfod. Ambell i drip diwrnod amdani felly!

Yn anffodus rwy'n colli cyfle felly i rannu "" gydag Owain Clarke a Gwyddno Dafydd. Am biti!

Oedd Tyddyn Llan a Phlas Coch yn llawn, dywedwch?

Dyw "awyrgylch diwedd tymor" ddim cweit yn cyfleu'r awyrgylch yn NhÅ· Hywel yw wythnos hon. Mae'n fwy pe bai'r athrawon i gyd wedi diflannu'n sydyn gan adael y plantos i redeg yn rhemp.

Myrddin Edwards, swyddog newyddion hoffus a golygus y Lib Dems wnaeth gyflwyno'r gêm ddiweddaraf i sgubo'r cynulliad. Y dasg yw canfod pum gair sy'n gyffredin yn Saesneg ond y mae Cymry Cymraeg yn methu'n lan eu cyfieithu

Rhain oedd awgrymiadau Myrddin;

Calf (y darn o'r coes nid llo!) , Broom (y planhigyn), Leeches, Collar bone, Curlew

Mae'r rhain gan staff "Democratiaeth Fyw";

Ladle, Jay (aderyn), Moustache (nid mwstas), Tuning Fork, Barrel Organ

Cewch chi feddwl am rheiny tra fy mod i yn nodi ffaith fach ryfeddol y gwnes i ddysgu o'r Times y bore 'ma. Perchennog cyntaf cerbyd "Porsche" yn y deyrnas unedig oedd... Cyngor Bwrdeistref Aberdâr! Mae'r papur yn ychwanegu mai bws- nid car oedd y Porsche arbennig yna!

I'r pant y rhed...

Vaughan Roderick | 11:41, Dydd Iau, 30 Gorffennaf 2009

Sylwadau (2)

Banc.jpg
Bob tro rwy'n cwrdd â phobol Plaid Cymru'r dyddiau 'ma rwy'n clywed am ryw swydd newydd neu'i gilydd sydd wedi ei chreu o fewn y blaid. Mae hwn neu'r llall yn mynd i ofalu am y "brand" neu mae hwnco mwnco (neu i bobol Rhos ene nene) yn mynd i weithio yn yr uned datblygu.

I unrhyw un sydd wedi arfer â Phlaid Cymru fel plaid llaw i geg yn byw o un apêl Gŵyl Ddewi i'r nesaf mae maint ei pheirianwaith canolog bellach yn rhyfeddol.

Y cwestiwn naturiol sy'n codi yw pwy sy'n talu- neu o ble mae'r arian yn dod?

Bant a fi felly i siop anoracs y lle mae cyfrifon y pleidiau'n cael eu cyhoeddi.

Heddiw cyhoeddwyd y wybodaeth bod incwm Plaid Cymru yn ganolog yn £998,571 yn 2008- rhyw dri chan mil yn fwy na'i gwariant. Roedd incwm y blaid yn sylweddol uwch nac incwm y Blaid Werdd (£546,406) ac UKIP (£602,003) trwy Brydain gyfan.

Yr hyn sy'n drawiadol yw faint o arian y mae'r blaid yn derbyn o ewyllysiau- dros £600,000 o dair ewyllys mewn cyfnod o bedwar mis y llynedd, er enghraifft. Efallai bod y blaid yn elwa o'r ffaith bod nifer o'r rheiny oedd yng nghanol berw gwleidyddol y chwedegau bellach yn tynnu at derfyn oes!

Yr hyn sy'n anoddach mesur o safle'r comisiwn yw faint o "arian meddal" y mae'r blaid yn ei dderbyn oherwydd ei bod bellach yn blaid fawr, lywodraethol.

Rwyf am ddewis fy ngeiriau yn ofalus iawn yn fan hyn. Dydw i ddim yn awgrymu am eiliad bod Plaid Cymru nac unrhyw blaid arall yn gwerthu dylanwad na mynediad i'w harweinwyr a'i gweinidogion. Serch hynny mae'n ffaith syml bod plaid sydd mewn grym yn ei chael yn haws i werthu byrddau mewn ciniawau, stondinau mewn cynadleddau ayb na phleidiau llai a gwrthbleidiau.

Mae digwyddiadau fel cynhadledd wanwyn y blaid, oedd arfer bod yn dipyn o boen tin i'w trefnwyr, bellach yn fychod godro ariannol. Dyna un rheswm dros y cynadleddau ychwanegol a chiniawau di-ri sy'n cael ei hychwanegu ar galendr y blaid y dyddiau hyn.

Er cymaint yr arian dyw e byth yn ddigon, wrth gwrs! Mae 'na gwestiwn strategol diddorol yn wynebu'r blaid hefyd, sef p'un ai i wario peth o'r gwarged yn yr etholiad cyffredinol neu gadw'r arian yn ôl tan etholiad cynulliad 2011. Cofiwch, mae ambell i broblem yn ddymunol ei chael!

Mae pethau'n ddu...

Vaughan Roderick | 18:19, Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

peter_black_commissioner.jpgBeth ar y ddaear sydd wedi cythruddo? Ar ei flog mae Peter yn taranu a tharanu ynghlych yr hyn mae fe'n gweld fel gan ymgeisydd Plaid Cymru ym Maldwyn, Heledd Fychan, ar yr aelod seneddol lleol Lembit Opik.

" A bitchy and judgemental rant worthy of the strictest puritan." yw disgrifiad Peter o sylwadau Heledd.

Beth wnaeth Heledd i ddweud i ddenu ymosodiad mor, um, bersonol?

"Lembit recently complained that the media was far too focused on his love life, but to be honest, it's his own fault. He poses for the most ridiculous photographs, pimps himself on every tv show going, gives interviews to celeb gossip magazines and has even in the past let a tv film crew film him proposing to a cheeky girl. Hardly the acts of a man who's desperate for the media to leave him alone so he can be taken seriously in politics."

Nawr yn bersonol dw i ddim yn meddwl bod y gair "pimps" yn un addas i wleidydd ond, yn wahanol i Heledd, dydw i ddim yn un o genhedlaeth MTV. Mae'r gair yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobol. Ta beth, ar wahan i'r gair arbennig yna rwy'n amau ei bod yn lleisio barn nifer o etholwyr Lembit. Mae gwleidyddion craff yn tueddu ail-adrodd yr hyn maen nhw'n clywed gan bleidlesiswyr.

Mae dau gwestiwn gen i.

Yn gyntaf ydy Lembit mewn lle i gwyno ar ol iddo ddweud yn ddiweddar- "I could be banging Adam Price and it wouldn't affect my ability to do my job"? Fe fyddai rhai yn gweld hynny yn fwy personol a llai derbyniol o lawer na sylwadau Heledd Fychan.

Mae'r ail yn gwestiwn i Peter. Pwy ddywedodd hyn?

I have held off announcing who I will be supporting for Party President... I have now made up my mind. This has nothing to do with Lembit's attitude and demeanor in Welsh Party Conference yesterday, which in my view was appalling...

Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda.

Ar ddiwedd y dydd pwynt Peter yw bod y cyfryngau yn anwybyddu gwaith caled a chydwybodol Lembit dros ei etholaeth. Mae hynny'n wir ond mae cyfryngau yn anwybyddu gwaith caled a chydwybodol bron pob gwleidydd arall hefyd.

Dyw'r straeon am fywyd personol Lembit ddim yn ymddangos ar drail straeon ynghylch ei waith etholaethol. Does dim dwy waith chwaith ei fod ar adegau wedi cydweithio a'r cyfryngau i greu rhai o'r straeon hynny.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 13:55, Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

llgc203.jpgDoes dim dwywaith yn fy meddwl i mai gwefan y yw un o'r safleoedd mwyaf difyr ar y we. Os oes gen i ychydig oriau i sbario rwy'n cael modd i fyw yn pori trwy'r cynnwys. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fy ffordd trwy'r "Llyfrau Gleision". P'un ai oedden nhw'n "frad" ai peidio maen nhw'n cyfleu portread byw iawn o Gymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cymerwch jyst y des i ar ei draws hi.

"The whole row of houses in which this is school is held...had not a single, not even a common, privy. The inhabitants resorted to a hedge-side in a field adjoining at the back, wholly unsheltered from sight... Not to pursue such a subject into further details I will merely add that the disregard of clenliness and decency is more observable in the purely Welsh than in the Anglicised districts..."

Mae'r frawddeg honno yn dweud mwy am Gymru oes Victoria ac am agweddau tuag at y Cymry na holl nofelau Alexander Corddell a Richard Llywelyn at ei gilydd!

Beth arall sydd 'w gweld ar y we, dywedwch? Dyma ragflas o un o ddigwyddidau'r Eisteddfod.

Golwg360

Cofiwch, os ydy'r adroddiadau'n gywir mae 'na gryn debygrwydd rhwng maes yr Eisteddfod a Chapel Celyn!

´óÏó´«Ã½

Os nad yw'r Bala'n apelio dyma ddewis arall...

Guardian

Ac os oes angen prawf, glaw ai peidio, bod dyddiau'r cŵn wedi cyrraedd yn newyddiadurol dyma ddau bennawd o fasged gopi ´óÏó´«Ã½ Cymru; "Car In Kitchen LATEST" a "COLA BOTTLES block road". Mae'r straeon yn llai diddorol na'r penawdau!



Rhif y Gwlith

Vaughan Roderick | 09:28, Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2009

Sylwadau (5)

gwynfor_evans.jpg
Dim ond wrth i mi ddarllen y rhifyn cyfredol o'r Dinesydd y gwnes i ddarganfod bod Nans Jones wedi marw. Digwyddodd hynny rhyw ddeufis yn ôl. Maddeuwch i mi felly bod yr ychydig eiriau yma ar ei hôl hi braidd!

"Trefnydd adran fenywod Plaid Cymru" oedd teitl swyddogol Nans am ddegawdau ond mewn gwirionedd hi oedd brenhines hen swyddfa'r Blaid yn Queen Street, Caerdydd.

Roedd ei swyddfa bersonol hi deirgwaith yn fwy nac un yr ysgrifennydd cyffredinol ac roedd popeth yn rhedeg yn unol â'i threfn hi. Oes oedd pethau yn "ddigon da i J.E" prin bod angen eu newid ar gyfer y wipyrsnapyrs ifanc ddaeth ar ei ôl!

Un agwedd o waith Nans oedd cadw trefn ar y gofrestr aelodaeth. Roedd y manylion wedi ei ffeilio mewn dwsweni o focsys gan ddefnyddio system yr oedd Nans yn unig yn ei deall.

Am flynyddoedd roedd Plaid Cymru yn honni mai hi oedd plaid fwyaf Cymru gyda deugain mil o aelodau. Nonsens pur oedd hynny- ffrwyth system ffeilio Nans.

Roedd y gofrestr yn llawn o'r meirwon a chyn aelodau. Clywais unwaith bod enw Elystan Morgan o hyd ar y system hyd yn oed ar ôl ei ethol fel aelod seneddol Llafur! Efallai bod hynny'n wir. Doedd neb ond Nans yn cael edrych er mwyn gwybod hyd sicrwydd! Yn ôl rhai roedd hi'n haws ddianc o Colditz nac o gofrestr Nans!

O bryd i gilydd fe fyddai rhyw un yn cynnig "chwynnu'r" ffeiliau a chyweirio'r camgymeriadau amlwg. Yr un oedd ateb Nans bob tro. "Mae'r deugain mil yn bwysicach na'r manylion!"

Go brin fod triciau fe' 'na'n cael eu caniatáu yn Nhŷ Gwynfor ond mae gen i un awgrym. Fe ddylai enw Nans aros ar y rhestr aelodaeth. Er cof.

Rennardiaeth*

Vaughan Roderick | 14:12, Dydd Mawrth, 28 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

rennard226bbc.jpgRoeddwn i ffwrdd o'r gwaith wythnos ddiwethaf. Mae cyfran helaeth o fy amser heddiw felly yn cael ei wario'n palu fy ffordd trwy e-byst. Ar ôl cael gwared ar hysbysebion am oriorau a Viagra ac ambell i gynnig busnes diddorol o Nigeria beth sy'n weddill?

Wel weithiau mae'n ddiddorol gweld pethau cefn wrth gefn.

Dyma i chi ddatganiad newyddion gan y Democratiaid Rhyddfrydol o ddydd Mawrth diwethaf pan oedd y blaid yn rhagweld cyhoeddiad ynghylch trydaneiddio'r lein rheilffordd o Lundain i Gaerdydd..

"The opportunity for electrification on to Swansea is here now but will not last for long. Electrification to Cardiff is welcome but would be an incomplete job... This would be a big snub to Ieuan Wyn Jones and his week old Transport plan. After the M4 fiasco, he was banking on a high speed route stretching across the country. This would be hugely embarrassing for him and his department."

Pedair awr ar hugain yn ddiweddarach, ar ôl y cyhoeddiad y byddai'r cynllun trydaneiddio yn ymestyn yr holl ffordd i Abertawe, cafwyd ail ddatganiad.

"The Liberal Democrats have asked been asking for electrification for years and it is good to see that we have been listened to."

Gadewch i fi ddeall yn iawn. Pe na bai'r lein i Abertawe wedi ei thrydaneiddio fe fyddai hynny'n "hugely embarrassing" i Ieuan Wyn Jones. Mae'r ffaith y bydd y lein yn cael ei thrydaneiddio yn fuddugoliaeth i bwy? Y Democratiaid Rhyddfrydol, wrth gwrs!

Fe ddylai bois y wasg yn swyddfa'r blaid gofalu nad yw eu hobsesiwn ynghylch y dirprwy brif weinidog yn eu dallu i'r angen am gysondeb!

*Rennardiaeth yw fy nghyfieithiad i o "Rennardism". Dyma ddiffiniad y "New Statesman" o'r gair; "the non-philosophy, pioneered by the party's campaigns chief, Lord Rennard, whereby first principles are routinely sacrificed to a cynical emphasis on dog mess and leisure-centre closures."

Chwalfa

Vaughan Roderick | 10:39, Dydd Mawrth, 28 Gorffennaf 2009

Sylwadau (3)

Norwich.jpgRwyf wedi bod yn pendroni ynghylch canlyniad is-etholiad Norwich North. Ydw, dw i mor drist â hynny! Mae'r peth wedi bod fel chwilen yn fy mhen ers dyddiau bellach. Chi'n gweld, mae 'na rywbeth od ar y naw ynghylch Norwich North. Fedra i ddim cofio canlyniad cweit mor rhyfedd mewn is-etholiad ac mae 'na ganlyniadau rhyfeddol wedi bod ar hyd y blynyddoedd.

Mae rhan gyntaf y fformiwla yn hen gyfarwydd- plaid lywodraethol yn wynebu llid yr etholwyr ac yn colli talp o bleidleisiau fel canlyniad. Dyna sydd wedi digwydd ym mron pob is-etholiad ers degawdau a dyna ddigwyddodd yn Norwich North. Yr hyn ddigwyddodd wedyn sy'n ddiddorol. Ail hanner y fformiwla yw bod un blaid (y Democratiaid Rhyddfrydol gan amlaf) yn llwyddo i gronni'r bleidlais brotest. Ni ddigwyddodd hynny yn Norwich.

Beth ddigwyddodd yn yr achos yma felly? Wel, fe arosodd y bleidlais Geidwadol yn gadarn gan sicrhau buddugoliaeth i'r blaid ond doedd 'na fawr o gynnydd ynddi. Yn lle hynny mae'n ymddangos bod y bleidlais Lafur wedi mynd ar chwâl gyda UKIP, y Blaid Werdd a'r ymgeisydd annibynnol, Craig Murray yn ennill cefnogaeth barchus iawn. Dydw i ddim wedi edrych yn fanwl ond rwy'n credu bod perfformiad UKIP a'r Gwyrddion ymhlith eu canlyniadau gorau erioed mewn gornestau seneddol.

Mae rhan o'r esboniad am hynny yn deillio o'r ffaith bod peiriant is-etholiad y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli ambell i olwyn yn ddiweddar. Fe ddefnyddiodd y blaid ei holl ddulliau ymgyrchu traddodiadol yn Norwich. Dosbarthwyd bron i hanner miliwn o daflenni yn llawn o'r "siartiau bar" defnyddiol yna yn profi bod y blaid yn "ennill yma". Nid am y tro cyntaf yn ddiweddar fe fethodd y dacteg. Mae 'na ddadl ddiddorol o fewn y blaid ynglŷn â'r rhesymau. Darllenwch mwy yn ac yn .

Mae hynny'n dod a fi at y chwilen. Rwyf wedi amau ers tro y gallai'r etholiad nesaf fod yr hyn y mae Americanwyr yn galw yn "wave election". Roeddwn i'n credu y byddai etholiad 2009/10 yn debyg i etholiadau fel 1997,1983 a 1966 gyda thon sylweddol o bleidleiswyr yn symud o un blaid fawr i'r llall. Erbyn hyd dydw i ddim mor sicr.

Beth pe na bai hynny'n digwydd? Beth pe bai Prydain gyfan fel Norwich North?

Beth pe bai'r bleidlais Lafur yn mynd ar chwâl ond bod y pleidleiswyr hynny yn amharod i gefnogi'r Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol? Gallai hynny ddigwydd yn sgil y llanast treuliau gyda chyfran helaeth o'r etholwyr yn dirmygu pob un o'r pleidiau sefydliadol. O dan y fath amgylchiad mae'n debyg y byddai'r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif seneddol sylweddol gyda sawl Norwich North yn troi'n las. Ond mae'n ddigon posib hefyd y byddai'r mwyafrif hwnnw (fel mwyafrif Gordon Brown) yn seiliedig ar gefnogaeth llai na thraean o'r etholwyr.

Ydy'r system etholiadol bresennol yn gallu parhau o dan y fath amgylchiad? Go brin. Yn y tymor hir fe fyddai'n amhosib cynnal system oedd wedi ei chynllunio ar gyfer dwy blaid mewn gwlad aml-bleidiol.

Ailgylchu+

Vaughan Roderick | 10:03, Dydd Mawrth, 28 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

santa_run_libdems340x255.jpgCyn i fi ddechrau ail-gylchu mae gen i dipyn o 'rwydweithio' i wneud. Mae fe wrthi eto!

Daily Mail

Efallai bod y "model newydd" yn disgwyl amser rhamantus dros yr Haf. Fe ddylai hi ddarllen colofn ddiweddara Lembit yn y Sport cyn cytuno ar drip i fwynhau mwynder Maldwyn.

"Recess" is time dedicated mainly to our constituencies. It's all about visiting nursing homes, opening summer fetes, dealing with blocked drains, meeting hospital bosses, , tackling refuse problems and dealing with all the other stuff people want MPs to fix.

Rwy'n gallu dychmygu'r olygfa;

"Katie annwyl, pasia'r 'drain rod' wnei di?"

"Wrth, gwrs, Lembit f'annwylyd. Hoffet ti'r sbaner hefyd?"

Ymlaen a ni at bethau amgenach. Fe roddodd ymddeoliad Tony Blair ym Mai 2007 gyfle i mi adrodd hanes un o brofiadau gwaethaf fy mywyd proffesiynol yn "Tony, y tacsis a fi". Gwnes i ddim enwi enw ar y pryd. Fe wna i nawr. Owen Smith.

Roeddwn yn ceisio meddwl ddoe am rywbeth y gallwn ychwanegu at y môr o eiriau ynglŷn â phenderfyniad Tony Blair i gamu o'r llwyfan. Dim ond y bore 'ma y cofiais i hanesyn am un o ddyddiau gwaethaf fy ngyrfa fel darlledwr. I ddweud y gwir dw i wedi bod yn ceisio anghofio am y digwyddiad!

Yn ystod etholiad 2001 fe drefnwyd i mi wneud rhaglen a Tony Blair ar gyfer Radio Wales yn fyw o westy yng nghanol Caerdydd. Y syniad oedd gwahodd gwrandawyr i ffonio mewn a'u cwestiynau i'r Prif Weinidog. Fe aeth y rhaglen yn iawn ond cefais i (a Tony dw i'n meddwl) ein synnu gan gyn lleied o alwadau a dderbyniwyd.

Dim ond ar ôl y rhaglen y gwnes i ddarganfod y gwir echrydus. Doedd bron neb wedi clywed gair yr oedd gan y Prif Weinidog i'w ddweud! Roedd swyddfa dacsis cyfagos wedi ymyrryd a'r signal radio ac yn hytrach na chlywed am "New Labour New Britain" roedd y gwrandawyr wedi cael llond clust o "first call- Grangetown, second call Splott"!

Fe gadwodd cynhyrchydd y rhaglen yn dawel am y broblem gan adael i Tony a finnau balu 'mlaen. Gwna i ddim enwi'r cynhyrchydd dim ond dweud bod profiad fel yna yn paratoi dyn ar gyfer siomedigaethau mawr bywyd - methu ac ennill isetholiad seneddol mewn cadarnle Llafur er enghraifft.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 20:29, Dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf 2009

Sylwadau (3)

Tywyn.jpg

Mae'n rhyfeddol bod sawl sinema o'r hen deip wedi goroesi yng Nghymru. Sinema Tywyn sydd yn y llun. Hyd y gwn i does na ddim enw arall ar y lle.

Mae 'na berlau i'w gweld hefyd yn Aberhonddu, Trefynwy, Porthmadog a Chaerfyrddin. Mae'n rhaid gobeithio y bydd addewidion yn cael eu cadw a na fydd y "Multiplex" yng Nghaerfyrddin yn tanseilio'r Lyric yn y tymor hir.

Fe wnawn ni gychwyn yr wythnos hon gyda'r hysbyseb ar gyfer ffilm sy'n gas gan bron pawb yng Nghymru. Serch hynny, mae'n werth cofio bod "How Green Was My Valley" wedi curo "Citizen Kane" yn yr Oscars. Do. Onest.

Mae "Proud Valley" wedi goroesi treigl amser yn well. Gwyliwch allan am y Rachel Thomas ifanc!

Roedd pethau'n wahanol iawn yn y Bae yn 1959! Dyma ddechrau "Tiger Bay"

Tipyn bach o Zulu i gloi....


Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 20:59, Dydd Gwener, 24 Gorffennaf 2009

Sylwadau (3)

Roedd canlyniad is-etholiad ddoe yn ddiddorol- yn enwedig oherwydd y gefnogaeth i bleidiau fel UKIP a'r Blaid Werdd. Ydy hi'n bosib i'r Gwyrddion ennill sedd yn yr etholiad cyffredinol? Efallai.

Natural Choices

Mwy gan Flogmenai

BlogMenai

Gyda llaw, beth ar y ddaear sydd wedi digwydd i'r is-etholiad arall y mae pawb yn disgwyl?
Scotsman

Dyw is-etholiadau difyr yn ddim byd newydd wrth gwrs!

Independent

Hefyd ar safle'r Independent mae Mabiblogion yn dirmygu rhai o'r syniadau ynghylch dyfodol y cyfryngau yng Nghymru- yn enwedig rhai Huw Lewis.

Independent Minds




Ailgylchu- Groeswen (Ebrill 2007)

Vaughan Roderick | 20:21, Dydd Iau, 23 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

groeswen.jpgRwyf wedi sgwennu ambell i ddarn ynghylch Cwm Aber a Mynydd Meio, un o filltiroedd sgwâr fy nheulu ers i'r blog gychwyn. Cyhoeddwyd y cyntaf "Mad Dog a'r Groeswen" ar drothwy etholiad cynulliad 2007.

Mae'n ddydd Sadwrn ac mae'n dawel - diolch byth. Mae'n gyfle i mi wneud y gwaith cartref ar gyfer y rhaglen ganlyniadau. Yn anffodus dwi newydd gofio fy mod wedi torri fy ngair i "Mad Dog".

Roeddwn i'n ffilmio yn Abertridwr Ddydd Iau ac yn gwneud hynny ar yr adeg fwyaf hunllefus i newyddiadurwyr teledu - y cyfnod pan mae'r ysgolion newydd droi mas. Yn ddieithriad ar yr adegau hynny mae pob un ymdrech i ffilmio yn dioddef wrth i'r "anwyliaid bach" chwifio'u dwylo at y camera neu darfu ar bethau mewn rhyw ffordd neu gilydd.

Penderfynodd "Mad Dog" ei fod am fod yn "feinder" i mi yn Abertridwr gan gadw ei fêts mas o'r ffordd a mynnu "this is the news butts..and we don't get much news in Abertridwr".

Addawais y byddai ei lysenw yn ymddangos ar wefan y ´óÏó´«Ã½ fel arwydd o ddiolch. Felly diolch "Mad Dog".

Dwi'n dal i boeni am ei eiriau olaf "I've just swallowed a raw pig's eye for a bet". Lle ddiawl maen nhw'n cael llygaid moch yng Nghaerffili?

Mae Cwm Aber a Mynydd Meio wedi bod yn llefydd rhyfedd erioed. Yn fanna mae gwreiddiau fy nheulu ac i bobol sy'n ymddiddori mewn hanes mae 'na newyddion da iawn o'r ardal. Un o berlau ein treftadaeth a aeth yn angof yw , yr adeilad cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yng Nghymru. Yn y fynwent y mae beddau mawrion Fictoraidd fel Ieuan Gwynedd a Caledfryn.

Roedd fy hen dad-cu yn weinidog am ddegawdau lawer yn y Groes ac yno y priodwyd fy chwaer, Sian. Y disgwyl oedd mai priodas Sian fyddai'r briodas olaf yn y Capel, ac mai angladd fy Anti Marjorie, un o selogion y capel, fyddai'r cynhebrwng olaf.

Diolch i ymdrechion anhygoel gan Gymdeithas Hanes Caerffili, y Cynghorydd Lindsay Whittle a phenderfyniadau Alun Pugh fel gweinidog diwylliant nid felly y bu pethau. Mae adeiladwyr wrthi ar hyn o bryd yn cyflawni gwaith i adfer y capel ar gost o gannoedd o filoedd o bunnau ac mae 'na ddyfodol disglair i'r lle fel canolfan i fywyd ysbrydol a diwylliannol yr ardal.

Serch hynny, dwi ddim yn gweld nhw'n denu Mad Dog i'r lle rywsut!

Mae'r gwaith o adfer y Capel (ond nid y fynwent) bellach wedi ei gwblhau. Mae 'na fwy am hanes yr achos yn(pdf).

Gyda llaw, rwy'n falch i ddweud ein bod wedi datrys ambell i broblem gyfrifiadurol a bod yr archif cyflawn ar gael unwaith yn rhagor.

Sioc Drydanol

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Iau, 23 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

beeching238.jpg

Un o'r cymeriadau hanesyddol hynny y mae pobol yn ei ddiawlio yw Dr Richard Beeching. Ei adroddiad ef ar ddechrau'r chwedegau wnaeth arwain at gau oddeutu hanner rheilffyrdd Prydain yn ystod y degawd dilynol.

Ychydig iawn o'r leiniau yr oedd Beeching yn dymuno eu cau wnaeth lwyddo i osgoi'r fwyell. Roedd dwy ohonyn nhw yng Nghymru sef lein y "Cambrian" i Bwllheli a lein y canolbarth neu "rheilffordd Calon Cymru" fel mae Arriva'n ei galw hi.

Anghyfleustra teithio o gwmpas aberoedd afonydd yn hytrach na'u croesi wnaeth achub y "Cambrian". Ffactorau gwleidyddol pur oedd yn gyfrifol am barhad lein y Canolbarth. Fe dynnodd George Thomas sylw'r cabinet at y ffaith bod y lein yn rhedeg trwy res o etholaethau ymylol ac am y rheswm hynny mae 'na drenau arni hyd heddiw.

Er bod llywodraethau'r chwedegau wedi cyflawni rhan gyntaf cynllun Beeching anwybyddwyd y gweddill. Roedd yr adroddiad wedi argymell cau hanner y rhwydwaith a defnyddio'r arbedion i wella'r hanner oedd yn weddill, yn bennaf trwy ei drydaneiddio. Gyda ambell i eithriad ni ddigwyddodd hynny.

Yn sydyn mae'r syniad wedi eto ynghylch y brif lein i Abertawe a hynny ar y diwrnod y mae cabinet Gordon Brown yn cwrdd yng Nghymru.

Tan yn ddiweddar iawn, er gwaethaf pwysau gan Lywodraeth y Cynulliad y cynllun oedd i drydaneiddio lein y Great Western i Fryste a dim pellach. Pam mae pethau wedi newid tybed?

Efallai fy mod yn sinig ond dyma'r etholaethau y mae'r brif lein i Abertawe yn teithio trwyddyn nhw; Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, De Caerdydd a Phenarth, Bro Morgannwg, Pen-y-bont, Aberafan, Castell Nedd a Gorllewin Abertawe.

Dyna i chi wyth etholaeth, pob un o nhw ac aelod seneddol Llafur. Yn etholiadau Ewrop roedd y Ceidwadwyr ar y brig yn y bedair etholaeth o Orllewin Casnewydd i Ben-y-bont. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y blaen o drwch blewyn yn Nwyrain Casnewydd. Dim ond tair etholaeth oedd yn ffyddlon i Lafur ac mae 'na lwyth o etholaeth tebyg o fewn dalgylch y lein.

Ydy llywodraeth Gordon Brown wedi deffro i'r ffaith mai gwlad o seddi ymylol yw Cymru bellach? Os felly fe fyddai George Thomas yn deall y rhesymeg y tu ôl i gyhoeddiad Andrew Adonis!

Pum munud o enwogrwydd

Vaughan Roderick | 23:00, Dydd Mercher, 22 Gorffennaf 2009

Sylwadau (4)

Mae gan bawb yr hawl i bum munud o enwogrwydd yn ôl Andy Warhol.

Fe gafodd Pedr Lewis ei bum munud pan heriodd Dafydd Elis Thomas am lywyddiaeth Plaid Cymru yn yr wythdegau. Roedd hi'n ddigon hawdd i bobol wneud sbort am ei ymgeisyddiaeth ond fe roddodd gyfle i bobol ei blaid gael trafodaeth agored am bynciau oedd yn poeni llawer.

Yn ôl fe fu farw Pedr heddiw yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont.

Fe fyddai Pedr wedi mwynhau'r eironi bod gweriniaethwr pybyr wedi gadael y byd yma mewn lle ac enw mor frenhinol!

Ailgylchu- Ebrill 2007

Vaughan Roderick | 13:59, Dydd Mawrth, 21 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

Gan fod 'na dros fil o erthyglau yn yr archif erbyn hyn (a chan nad yw rhan helaeth ohono ar gael ar hyn o bryd) fe wnes i addo ail gyhoeddi ambell i erthygl dros yr haf gan diweddaru ac ychwanegu esboniad lle bo angen.

Oce, mae'r ffordd fach ddiog i gadw pethau'n ffrwtian ond mae'n well na gadael y blog yn gwbwl hesb!

Fe wna i gychwyn gyda erthygl o Ebrill 2007 rhyw wythnos cyn etholiad y cynulliad. Y pennawd oedd " Coch a Gwyrdd- Llywodraeth Nesaf Cymru?". Hynod o graff os cai ddweud, Mr Roderick.

Dyma hi.

Buodd na briodfab a phriodferch fwy annhebyg erioed? Ar ôl treulio misoedd yn cyhuddo Plaid Cymru o gynllwynio i gefnogi clymblaid o dan arweinyddiaeth y Torïaid mae'n ymddangos bod Llafur nawr yn ystyried troi at y Blaid ei hun mewn ymdrech i barhau i lywodraethu.

Dwi'n cael ar ddeall bod Llafur Cymru yn ystyried ceisio dod i gytundeb â Phlaid Cymru os ydy hi'n colli ei mwyafrif. Mae ffynonellau sy'n uchel o fewn y Blaid wedi dweud wrtha i eu bod yn ystyried troi at Blaid Cymru am gefnogaeth yn hytrach nac at ei phartneriaid arfaethedig yn y Democratiaid Rhyddfrydol.

Deallaf fod Llafur wedi cael llond bol o'r hyn y maen nhw'n ystyried yn agwedd drahaus y Democratiaid Rhyddfrydol a'r ffordd y mae'r blaid honno yn cymryd yn ganiataol mae hi fyddai dewis cyntaf Llafur fel partner.

Yn ôl ffynonellau Llafur does 'na ddim posibilrwydd o glymblaid ffurfiol â Phlaid Cymru ond gallai rhyw fath o gytundeb rhwng y pleidiau fod ar yr agenda. Yn gyhoeddus mae Plaid Cymru yn mynnu ei bod yn fodlon trafod ac unrhyw un o'r pleidiau eraill ar ôl yr etholiadau a deallaf taw consesiynau polisi sylweddol ac nid seddi cabinet fyddai'r pris am gytundeb.

Collodd Rhodri ei limpyn ynghylch y stori yma gan ei bod yn tanseilio strategaeth etholiadol Llafur. Dyw e ddim yn gwybod hyd heddiw pwy oedd y ffynhonnell a dydw i ddim am ddweud.

"Opsiwn Seland Newydd" oedd ym meddwl y ffynhonnell- cytundeb nid clymblaid. Yn y diwedd, wrth gwrs fe gafwyd clymblaid lawn ond hwn oedd yr arwydd cyntaf fod unrhyw fath o ddêl yn bosib.

Barnu Sylw

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009

Sylwadau (3)

cylchgronau.jpgMae 'na broblemau sy'n boen tin ac eraill sy'n bleserus. Ar ôl problemau poenus lansiad Golwg360 mae'r Cyngor Llyfrau yn awr yn wynebu y dasg bleserus ond anodd o ddewis rhwng dau gylchgrawn safonol sy'n cystadlu am y grant i gynhyrchu misolyn materion cyfoes Cymraeg.

Rwyf wedi dweud fy nweud am Barn yn weddol ddiweddar. Mae'r cylchgrawn, yn fy marn i, wedi gwella'n aruthrol ers i'w dyfodol gael ei fygwth. Mae'r rhifyn dwbl cyfredol yn adlewyrchu hynny.

Mae gan Barn un fantais bwysig dros "Sylw" hefyd sef criw o sylwebwyr craff a chyhyrog sy'n asgwrn cefn i'r cylchgrawn. Wrth reswm, pe bai Sylw yn ennill y cytundeb mae'n ddigon posib y byddai pobol fel Richard Wyn Jones, Bethan Kilfoil a Ioan Roberts yn gyfranwyr ond doedden nhw ddim ar gael i'r rhifyn peilot ac i raddau mae hynny'n dangos.

Beth am Sylw felly? O safbwynt y ddelwedd, fel y byddai dyn yn disgwyl gan fois y Lolfa, mae'n gynhyrchiad cwbwl broffesiynol, lliw llawn ar bapur sgleiniog. Yn bersonol dydw i ddim yn hoffi'r ffurfdeip na'i maint ac mae'r tudalennau pedair colofn yn edrych braidd yn rhy brysur i'n llygad i. Mae'r tudalennau lle mae na ddwy neu dair colofn yn lanach ac yn haws eu darllen.

Y cynnwys sy'n cyfri, wrth gwrs. Mae'n amlwg mai bwriad golygyddion Sylw oedd cynhyrchu cylchgrawn fyddai'n apelio at gynulleidfa fwy eang na Barn heb fynd yn isel-ael ac heb golli y swmp a'r sylwedd angenrheidiol.

Mae 'na ddigon o bynciau difrifol yn cael eu trin yn Sylw ond mewn erthyglau sy'n fyrrach a mwy cryno na rhai Barn. Mae'n ymddangos bod y golygyddion wedi ymwrthod ac erthyglau hir mewn ymdrech i gynnwys "rhywbeth at ddant pawb". Mae'r unig erthygl hir yn ymwneud ac Angharad Mair. Hi hefyd sydd ar glawr y cylchgrawn. Mae'r erthygl ei hun yn ddigon diddorol ond oedd gwir angen cynnwys cymaint o luniau steil "Hello" ohoni?

A dyna yw'r broblem yn fy marn i. Mae erthyglau cryno a lluniau mawr o "sêr" Cymru yn nodweddion amlwg o gylchgrawn "Golwg" ac ar adegau mae darllen Sylw yn teimlo fel darllen fersiwn fwy sgleiniog o'r wythnosolyn.

Beth bynnag yw ffaeleddau Barn mae'n wahanol iawn i Golwg! Mae'n fater o chwaeth bersonol, wrth gwrs, ond i fi mae 'na fwy o ddeunydd darllen gafaelgar ar dudalennau Barn.

Ond pwy yw fi i ddweud? Wedi'r cyfan rwy'n dal i golli'r Faner!

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 10:10, Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Fe fyddai John Knox yn troi yn ei fedd, efallai, o weld yr hyn sy'n digwydd ar ynysoedd Heledd!

Mae ynyswyr Lewis nid yn unig yn gorfod dygymod a gwasanaeth fferi sabothol ond hefyd y partneriaeth sifil cyntaf ar yr ynys- a'r cyfan yn digwydd dros yr un penwythnos! Mae'n debyg mai'r gwasanaeth partneriaeth sifil oedd y cyntaf i'w gynnal yng Ngaeleg yr Alban.

Glasgow Herald

Scotland on Sunday

Mae'r stori nesaf yn ychwanegu at fy storfa o ffeithiau rhyfedd. Wyddoch chi bod yr "Hard Rock Cafe" yn eiddo i un o lwythau brodorol yr Unol Daleithiau? Na finnau chwaith!

Telegraph

Ar yr un cyfandir dyma hanes llwyth arall sydd yn llythrennol dan warchae gan lywodraeth Canada.

Indian Country Today

Yn ôl yng Nghymru fach mae 'na erthygl ddiddorol ar flog "Syniadau" ynghylch y syniad o "Oyster Card i Gymru.

Syniadau

Dydw i ddim wedi cael gair a Karl y bwci ers tro. Diolch byth bod BlogMenai wedi canfod prisiau Paddy Power!

Blog Menai

Mae ´óÏó´«Ã½ Cymru wedi dechrau ffilmio'r gyfres nesaf o yng Nghaerdydd. Ai'r fydd ei elynion nesaf?




Rialtwch

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Sul, 19 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

image.jpg

Sinema "art deco" deithiol yng nghefn tacsi yw . Cwmni o Gaerdydd sydd wedi ei chreu. Peidiwch gofyn pam! Dw i ond rwy'n gobeithio bod y ffilmiau'n dda! Dyma fy newis wythnosol i.

Mae amser gwleidydda ar ben ac amser cneifio ar gychwyn! Ydy mae'n wythnos y sioe!

Rhagor o gneifio.

Gan fod "Bruno" yn ein sinemâu beth am gofio beth barn Ali G am Gymru

A dyma ffilm Hip Hop yn cofleidio'r un stereoteip

Hirfelyn Tesog

Vaughan Roderick | 14:13, Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Mae'r cynulliad wedi cau ar gyfer gwyliau'r haf. Fe fydd y blogio'n ysgafnach nac arfer yn ystod yr wythnosau nesaf felly.

Serch hynny rwy'n gobeithio y bydd 'na ddigon o bethau i'ch difyrru yn ymddangos yn fan hyn yn ystod y dyddiau hesb. Fe fydd 'na "Rialtwch" a "Rhwydweithio" , ambell i sylw a detholiad o'r goreuon o'r 1,004 post sydd wedi ymddangos dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf.

Mae 'na bodlediad newydd ar gael. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Y Gwir Iforiaid

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Fel enwau bron pawb arall mae enwau'r rhan fwyaf o wleidyddion yn mynd yn angof yn hwyr neu'n hwyrach. Ychydig iawn sy'n fwy nac ôl-nodyn yn y llyfrau hanes. Ond mae ambell un yn sicrhau rhyw fath o gofeb wrth i'w enw gael ei gysylltu â rhyw ddatblygiad neu'i gilydd. Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn galw dyddiau hyfforddiant mewn swydd yn "Baker days" bellach ond mae goleuadau'r hen Leslie Hoare-Belisha yn dal i oleuo'n croesfannau sebra.

Mae Joel Barnett yn 86 erbyn hyn ac mae'n gwestiwn agored p'un ai y bydd y fformiwla sy'n dwyn ei enw yn ei oroesi ai peidio. Dyw Arglwydd Barnett ddim yn dymuno iddi wneud. Mae fe wedi bod yn galw am ei newid ers degawdau.

Mewn gwirionedd does neb wedi cynnig dadl ddeallusol nac egwyddorol o blaid y fformiwla ers blynyddoedd. Mater o gyfleustra oedd ei chadw. "Be careful what you wish for" oedd mantra Andrew Davies a Peter Hain wrth drafod y fformiwla. Roedd y mantra hwnnw'n seiliedig ar ofn cwbwl dealladwy sef y byddai cychwyn trafodaeth ynghylch y fformiwla yn arwain at ddrwgdeimlad yn Lloegr, drwgdeimlad a allai arwain at gwtogi gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Y peryg oedd y byddai dicter Seisnig tuag at setliad yr Alban yn esgor ar doriadau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon hefyd.

Mae'n ymddangos bod yr ofn hwnnw'n ddi-sail yn sgil cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Dethol yr Arglwyddi. Mae hwnnw'n datgan yn eglur bod Caeredin ar ei hennill a Bae Caerdydd a Belfast ar eu colled o dan y drefn bresennol a bod angen ei newid.

Pwy felly oedd yn gyfrifol am sicrhau nad oedd buddiannau Cymru cael eu hanwybyddu wrth i'r Saeson a'r Albanwyr glatsio ei gilydd?

Dyw e ddim yn gyd-ddigwyddiad yn fy marn i mai Arglwydd Ivor Richard (cadeirydd Comisiwn Richard) yw cadeirydd y Pwyllgor Dethol. Bois da yw bois Rhydaman!

Ar ôl glynu at ei fantra am flynyddoedd mae'n ddiddorol gweld bod Peter Hain bellach yn rhoi'r gorau i ganu ei dôn gron. " Mae'n bryd i ni edrych ar y fformiwla er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael chwarae teg yn y dyfodol" yw'r lein newydd.

Prif argymhelliad Pwyllgor Arglwydd Richard yw sefydlu comisiwn annibynnol i bennu lefelau gwariant cyhoeddus yn y gwledydd datganoledig. Yr "UK Finance Commision" yw'r enw trwsgl sy'n cael ei gynnig ar gyfer y corff hwnnw. Mae gen i well syniad. Yr "Ivor"!

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 16:25, Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Fel rhan o'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol mae'r Llywodraeth yn ystyried cyflwyno fersiwn Gymreig o'r . Y Cerdyn Cocos, efallai?

Fe fydd rhai yn credu bod yn ddoniol. Fe fydd eraill yn fwy croendenau. Fe wnes i chwerthin!

Stuff NZ

Agence Bretagne Presse




Mab annwyl dy fam

Vaughan Roderick | 11:59, Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

Wythnos fach dawel oedd hon i fod. Fe ddylwn i wybod yn well erbyn hyn. Mae stormydd Awst yn taro'r cynulliad cyn gweddill y wlad. Yn ddieithriad bron mae rhywbeth yn digwydd i darfu ar ein trefniadau diwedd tymor. Sigâr Rhodri Glyn oedd y broblem y llynedd, stranciau cynghorwyr Môn a chardiau credid gweision sifil oedd yn ein poeni eleni. Hei Ho.

Ces i ddim cyfle ddoe i ddweud fy nweud ynghylch trafferthion cyngor Môn ac rwy'n petruso braidd ynghylch mentro i bydew gwleidyddol yr ynys. Mae Rhun ap Iorwerth a John Stevenson wedi ceisio esbonio "miri Môn" i mi sawl tro ond dydw i ddim yn gallu hawlio fy mod yn ei ddeall. Fe fedra i ddweud hyn. Dydw i erioed wedi darllen adroddiad gan yr archwilydd cyffredinol oedd cweit mor ddamniol a di-flewyn ar dafod.

Y cwestiwn mawr yw hwn. Beth sydd wrth wraidd problemau Môn ac eithrio ffaeleddau cynghorwyr unigol? Beth sy'n gwneud Môn yn wahanol i gynghorau eraill lle mae 'na nifer fawr o aelodau annibynnol ond sy'n gweithio'n effeithlon- cynghorau fel Cerdeigion, Sir Benfro a Phowys?

Mae'n bosib bod y broblem yn deillio o'r arfer o ffurfio carfannau ac egin-bleidiau yn sgil cynnal yr etholiadau lleol. Does dim modd i etholwyr wybod o flaen llaw wrth fwrw eu pleidleisiau pa garfannau fydd yn cael eu ffurfio na phwy fydd yn rheoli am y pedair blynedd nesaf.

Mae pleidleisiwr yng Ngheredigion a Sir Benfro yn gwybod y bydd ymgeisydd annibynnol yn aelod o'r garfan annibynnol. Does dim clem gan etholwyr Môn i ba garfan y maen nhw'n pleidleisio ac mae'n ddigon posib nad oes 'na fawr o glem gan yr ymgeiswyr chwaith!

Fe fyddai'r system yn gweithio'n iawn pe bai 'na garfan annibynnol sefydlog neu pe bai'r cyngor yn hepgor grwpiau'n gyfan gwbwl a mabwysiadu system bwrdd.

Dyna oedd yn digwydd ym Mhowys tan yn ddiweddar. Yn y sir honno ar ôl etholiad 2008 penderfynwyd ffurfio grwpiau annibynnol am y tro cyntaf. Mae 'na ddau ohonyn nhw! Nawr mae 'na son am fabwysiadu system gabinet yn y sir. Efelychu Cyngor Môn mewn geiriau eraill. Am esiampl i ddilyn!

Rhydd i bawb...

Vaughan Roderick | 16:19, Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Pethau peryg yw'r ceisiadau rhyddid gwybodaeth yma! Gofynnwch i Rhodri Morgan.

Mae'r Prif Weinidog wedi gorfod ymddiheuro heddiw am gyhuddo'r Democratiaid Rhyddfrydol o balu celwyddau ynghylch treuliau gweision sifil. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod celwydd wedi ei ddweud...ond nid gan Kirsty Williams! Cerwch draw i flog Betsan am y manylion.

Yn y cyfamser fe ddefnyddiodd Cymdeithas yr Iaith y ddeddf i ofyn pa gyngor cyfreithiol yr oedd y Pwyllgor Dethol Cymreig wedi derbyn wrth baratoi ei adroddiad ynghylch yr LCO iaith. Efallai eich bod yn cofio bod y pwyllgor yn poeni y gallai'r LCO, neu fesur yn seiliedig arno, fod yn agored i sialens gyfreithiol. "Pwy roddodd y cyngor hwnnw?" oedd y cwestiwn digon rhesymol gan y Gymdeithas.

"Nid oes dogfen yn ymateb i'r disgrifiad hwn" oedd yr ymateb gan y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth i'r cais.

"Pwy roddodd y cyngor hwnnw?"

Neb neu felly mae'n ymddangos.

Fel dywedais i, peth peryg yw'r busnes rhyddid gwybodaeth yma.

Trysor Plas Llanwernen

Vaughan Roderick | 15:20, Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009

Sylwadau (2)

Blydi gwangod. Ugain mlynedd yn ôl fe es i gyfarfod gyda swyddogion adran ffyrdd yr hen Swyddfa Gymreig i drafod y problemau traffig yng Nghasnewydd. Yr unig ateb i'r broblem yn ôl y swyddogion oedd codi traffordd newydd i'r de o 'r dref. Fe fyddai methu gwneud hynny yn andwyol i holl economi De Cymru.

Heddiw, a thref Casnewydd bellach yn ddinas, fe es i gyfarfod digon tebyg a swyddogion trafnidiaeth y cynulliad. Y neges y tro hwn oedd bod y cynllun yn gelain. Y rheswm penna am hynny yw'r gost. Amcangyfrifir erbyn hyn y byddai codi traffordd newydd yn costio oddeutu biliwn o bunnau yn rhannol oherwydd y gost o sicrhau nad oedd pysgod Afon Wysg, yn arbennig y gwangod, yn cael eu haflonyddu. Blydi gwangod.

Dyw'r broblem ddim wedi diflannu, wrth gwrs. Sut mae ei datrys, felly? Wel mewn nofel i blant, rhywbeth gan T Llew Jones neu JK Rowling, fe fyddai un o'r plant yn darganfod ateb syml, hwylus, rhywbeth nad oedd yr holl oedolion peniog wedi sylwi arni. Rhywbeth fel ffordd ddeuol, gyflym oedd eisoes yn bodoli yn rhedeg yn gyfochrog a'r draffordd arfaethedig.

Coeliwch neu beidio dyna'n union sydd wedi digwydd. Mae'r fath ffordd yn bodoli, ffordd a adeiladwyd gan y gorfforaeth ddur i gyflenwi gwaith Llanwern. Fe fydd hi'n costi ugain miliwn o bunnau i'w haddasu a'i chysylltu â'r rhwydwaith ffyrdd. Anhygoel. Pam na wnaethpwyd hynny yn y lle cyntaf?

Un peth bach arall sy'n werth eu nodi yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol yw'r bwriad i gynnal arbrawf trwy ymestyn un o leiniau rheilffyrdd y cymoedd trwy adeiladu system tram. Mae 'na nifer o lefydd lle y gellid gwneud hynny. Ymhlith y rhai amlwg mae ymestyn lein Maesteg er mwyn cyrraedd Caerau a chysylltu Abertyleri a lein Cwm Ebwy. Ond, o gofio mai Simon Thomas a Rhuanedd Richards yw cynghorwyr arbennig Ieuan Wyn Jones, a bod y ddau yn dod o Gwm Cynon, rwy'n fodlon mentro y bydd gwasanaeth rhwng Hirwaun ac Aberdâr yn uchel ar y rhestr fer!

Ebbwdale

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Mae Alun Davies wedi llwyddo yn ei ymdrech i gael ei ddewis fel ymgeisydd cynulliad Llafur Blaenau Gwent. Doedd hynny ddim yn dasg hawdd. Roedd Alun yn wynebu hen ddigon o gystadleuaeth. Dyw pobol Llafur ddim yn meddwl y bydd brwydr y Blaenau yn un hawdd ond roedd 'na ddigon o ramant a "kudos" yn perthyn i hen etholaeth Bevan a Foot i ddenu llwyth o ymgeiswyr credadwy.

Nid hwn fydd y tro cyntaf i Alun sefyll yn etholaeth ei febyd. Fe safodd yno i Blaid Cymru yn ôl yn y nawdegau. David Melding oedd yr ymgeisydd Ceidwadol ar y pryd ond bo brin y bydd hwnnw yn mentro yn ôl i gymoedd Gwent yn 2011! Un peth sydd yn debygol yn sgil y dewisiad yw y bydd Trish Law yn sefyll unwaith yn rhagor. Mae Trish yn wleidydd trwy hap a damwain. Dyw hi ddim yn berson cyhoeddus o'i hanian. Serch hynny, mae ymosodiadau Alun arni wedi ei brifo'n bersonol a go brin y bydd hi'n fodlon rhoi rhwydd hynt iddo etifeddu sedd ei diweddar ŵr.

Cyn yr etholiad cynulliad wrth gwrs fe gynhelir yr ornest seneddol gyda Dai Davies yn cario baner "Llais y Bobol". Nick Smith fydd yn sefyll i Lafur yn yr etholiad hwnnw ac mae'n anodd meddwl am ddau gymeriad mwy gwahanol i'w gilydd na Nick ac Alun. Mae Nick yn dipyn o "charmer" i ddefnyddio term hen ffasiwn- y fath o ddyn y byddai'ch Nain yn dwli cynnig paned o de a darn o fara brith iddo fe. Mae Alun, ar y llaw arall, yn fwy o baffiwr gwleidyddol, yn ddyn sy'n mwynhau colbio ei wrthwynebwyr.

Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae'r ddau yn cydweithio a'i gilydd a pha dacteg sydd fwyaf effeithiol. Un fantais sydd gan y ddau yw canlyniadau'r etholiadau lleol diwethaf. Roedd ymosod ar gyngor Llafur amhoblogaidd yn arf effeithiol iawn yn nwylo "Llais y Bobol". Erbyn hyn mae'r cyngor yn cael ei redeg gan ryw "licrish all-sorts" o glymblaid gwrth-Lafur- clymblaid sy'n cynnwys "Llais y Bobol". Mae 'na beryg y gallai rebeliaid "Llais y Bobol" gael eu gweld fel rhan o'r sefydliad lleol pan ddaw'r etholiadau nesaf.

Ar y sbot

Vaughan Roderick | 15:35, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn gwybod y cefndir i'r stori "" sydd wedi ymddangos yn yr Evening Standard heddiw. Serch hynny rwy'n dwli ar y frawddeg; " It is not clear why Mr Harri has been interviewed. He was unavailable for comment last night"!

Fe wna i gadw llygad ar y stori yna yn y cyfamser beth am ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer ein hopera sebon dyddiol "Ebbwdale" a stranciau diddiwedd y Pwyllgor Cyllid.

Y tro diwethaf i ni ymweld â'r pwyllgor roedd aelod Llafur yn sgrechain ar aelod Plaid Cymru "It's not this committee that's undermining the government it's your ** Minister" gan gyfeirio at y Dirprwy Prif Weinidog. Dyw e ddim yn ymddangos bod y drwg deimlad tuag at Ieuan wedi gostegu ers hynny.

Wrth wraidd yr helynt mae cyhuddiadau gan ddau aelod o'r pwyllgor Alun Davies a Huw Lewis bod arian wedi ei arallgyfeirio o wella ffordd Blanau'r Cymoedd i wella cysylltiadau rhwng y De a 'r Gogledd. Mae Ieuan yn gwadu hynny gan fynnu ei fod yn glynu at yr amserlen a luniwyd gan y llywodraeth ddiwethaf. Roedd Huw yn aelod o'r llywodraeth honno wrth gwrs.

Yfory mae'r Ceidwadwyr wedi clustnodi peth o'u hamser yn y siambr i gynnal dadl ynghylch y pwnc. Mae gwelliant y llywodraeth yn cynnwys y cymal hwn.

"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru... yn cadarnhau nad yw'r Llywodraeth Cynulliad hon wedi gohirio'r gwaith o ddatblygu llwybrau prifwythiennol allweddol"

Sut fydd Huw ac Alun yn pleidleisio, tybed ac a fydd canlyniad cynhadledd ddewis Llafur ym Mlaenau Gwent heno yn effeithio ar benderfynniad Alun?
.

Iaith Gwaith

Vaughan Roderick | 14:30, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

Yn ôl yn nyddiau cynnar y cynulliad roedd Cymdeithas yr Iaith yn monitro'r defnydd o Gymraeg yn siambr y Cynulliad mewn ymdrech i gymell aelodau i ddefnyddio'r iaith. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un wedi gwneud ymchwil o'r fath yn ddiweddar ond fy nheimlad i yw bod 'na fwy o Gymraeg yn nhrafodaethau'r trydydd cynulliad nac yn y ddau flaenorol.

Yn rhannol mae'r newid oherwydd bod gweinidogion Plaid Cymru yn tueddu gwneud datganiadau yn Gymraeg. Mae hynny'n gosod y cywair ieithyddol ar gyfer y ddadl sy'n dilyn. Mae presenoldeb nifer o aelodau sydd byth, neu bron byth, yn defnyddio Saesneg, pobol fel Gareth Jones, Nerys Evans a Paul Davies hefyd yn gwneud gwahaniaeth.

Heddiw roedd rhan helaeth o sesiwn gwestiynau Rhodri Morgan yn Gymraeg er bod un cwestiwn arbennig wedi achosi tipyn o grafu pen.

Poeni oedd Eleanor Burnham ynghylch y "perfformiad amrywiol brenhinol". Beth ar y ddaear oedd hynny'n golygu? Ai cyfeirio at fywyd carwriaethol y Tywysog Harri oedd Eleanor neu dreuliau Dug Efrog, efallai? Y naill na'r llall. Cyfeirio at y "Royal Variety Performance" oedd hi. Eleanor annwyl, mae croeso i ti fenthyg Geiriadur yr Academi unrhyw bryd!

Yn ddiweddarach wrth amlinellu'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf cafwyd rhagflas o beth fydd yn y Mesur Iaith arfethedig. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'r LCO iaith o hyd yn ymlwybro'n araf tuag at y llyfr statud. Serch hynny mae'n ymddangos bod y llywodraeth yn ddigon hyderus yn ei gylch i gynnwys y mesur ei hun yn y rhaglen waith.

Yn ôl Rhodri fe fydd y mesur yn cynnwys sefydlu'r swydd o gomisiynydd iaith , statws swyddogol i'r Gymraeg a'r Saesneg ac ymestyn yr hawl i gael gwasanaeth Cymraeg gan gyrff "o fath cyhoeddus". Ystyr "o fath cyhoeddus" sydd wrth wraidd y trafferthion gyda'r LCO, wrth gwrs.


Dyna ddiwedd ein rhaglenni am heno...

Vaughan Roderick | 13:42, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009

Sylwadau (2)

Rwyf newydd ymddangos ar S4C2 i sgyrsio am yr wythnos wleidyddol o'n blaenau. Hwn oedd y tro olaf i mi wneud hynny. Fe fydd yn ein sianel fach sydd wedi bod yn darlledu gweithgareddau'r cynulliad dros y degawd diwethaf yn dirwyn i ben Ddydd Gwener.

Penderfyniad y ´óÏó´«Ã½ yw hwn ond fe fydd yn galluogi S4C i fwrw ymlaen a'i chynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth i blant. Am bob pensiynwr sy'n hiraethu am Alun Davies a Peter Black rwy'n siŵr y bydd 'na blentyn yn falch o'r cyfle i wylio "Un Tro"!

Mae cau'r sianel yn rhan o'r paratoadau ar gyfer lansio gwasanaethau gwleidyddol ar-lein Cymraeg a Saesneg newydd y ´óÏó´«Ã½ yn yr Hydref. Fe fydd gan Ddemocratiaeth Fyw a Democracy Live eu staff newyddiadurol eu hun ond fe fydd y safleoedd hefyd yn dwyn ynghyd holl gynnyrch gwleidyddol ´óÏó´«Ã½ Cymru a gwasanaeth archif gyflawn gyda system "llais i destun" arloesol.

Fe fydd 'na ddigon o amser i drafod y datblygiadau hynny yn y man ond am y tro fe wna i godi gwydred bach i ffarwelio a sianel fach y Bae a'i "ffan club" bychan ond ffyddlon.

Diolch am wylio.

Blogail-syllu

Vaughan Roderick | 10:18, Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2009

Sylwadau (3)

Mae'n ddiwedd tymor yn y Bae. Rhyw wythnos o bwyllgorau'n cau pen y mwdwl fydd hon. Cafwyd yr adroddiadau pwysig a'r cyhoeddiadau mawr wythnos ddiwethaf. Wedi'r cyfan fe fydd pawb yn awyddus i ymlacio a mwynhau'r partïon diwedd tymor. Pawb, ac eithrio'r cyn-weinidog treftadaeth, efallai!

Rhywbryd yn ystod yr wythnos fe fydd post rhif 1,000 yn ymddangos ar y blog yma. Mae hynny'n rhyw 300,000 o eiriau i gyd ers i'r peth gychwyn dwy flynedd a hanner yn ôl. Mae'r cyfanswm yna'n ddwy-waith hyd y Testament Newydd a phedair gwaith hyd y Koran. Dydw i ddim yn disgwyl i fy ngwirioneddau mawr i bara cyhyd!

Ar hyn o bryd dyw rhannau helaeth o'r archif ddim ar gael oherwydd problem dechnegol. Fe fydd y broblem yn cael ei chywiro cyn bo hir, gobeithio! Rhag i ambell berl fynd yn angof, dros yr haf yn lle cau'r blog i lawr fel y gwnes i llynedd a'r flwyddyn gynt rwy'n bwriadu diweddaru ac ail-gyhoeddi ambell i erthygl o'r gorffennol. Fe fydd hynny'n dechrau wythnos nesaf. Mae 'na wythnos o flogio i fynd cyn hynny. Bant a ni felly.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 10:10, Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

carlton2.jpgI ble'r awn am y ffilmiau'r wythnos hon? Beth am siop Waterstone's yn Abertawe? Mae'n siop lyfrau yn awr ond sylwch beth sydd uwchben y drws. Dyma un o drysorau art-deco Cymru ac un o'r ychydig o berlau pensaernïol Abertawe i oroesi bomio'r ddinas. Sinema'r Carlton oedd hon. Mae'r adeilad wedi rhestri ond does dim ffilmiau wedi cael eu dangos ers y saithdegau. Tan heddiw, hynny yw! Gafaeliwch yn eich Kia-Ora a bant a ni!

Alwyn wnaeth awgrymu'r wers addysg rhyw yma.

Mae gan Myrdd obsesiwn ynghylch gwaith Elmo5242. Dyma Elmo yr athro Cymraeg.

A dyma Elmo yn canu deuawd... gyda fe'i hun!

Awgrym "O bell" yw'r ffilm olaf sy ein hatgoffa o'r dyddiau pan oedd newyddiadurwyr yn dangos y parch dyledus tuag at wleidyddion.

Ieuan ac Ivor

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009

Sylwadau (4)

ivor.jpgDoes gen i ddim anorac a dydw i ddim yn "trainspotter". Serch hynny, ar y cyfan mae'n well gen i deithio ar drên nac mewn car neu fws. Rwy'n digwydd meddwl hefyd bod ail-agor leiniau rheilffyrdd Bro Morgannwg a * i deithwyr yn ddau o lwyddiannau mawr Llywodraeth y Cynulliad.

Wythnos nesaf fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei chynllun trafnidiaeth cenedlaethol. A fydd hwnnw tybed yn cynnwys ail-agor rhagor o reilffyrdd? Fe gyhoeddodd Ieuan Wyn Jones dro yn ôl bod y llywodraeth yn ystyried y posibilrwydd o wneud hynny. At ba wasanaethau yr oedd e'n cyfeirio tybed?

Y peth cyntaf i ddweud yn fan hyn yw y byddai hi bron yn amhosib ail-agor leiniau hir sydd wedi eu hen golli Aberystwyth i Gaerfyrddin, er enghraifft neu Riwabon i Fermo.

Y cynlluniau mwyaf realistig yw'r rheiny (fel yn achosion Bro Morgannwg a Glynebwy) lle mae'r rheilffordd wedi parhau mewn bodolaeth ar gyfer gwasanaethau nwyddau. Fe fyddai ail agor gwasnaethau rhwng Aberdâr a Hirwaun a Beddau a Phontyclun yn gynlluniau amlwg a chymharol hawdd. Ond mae'n anodd credu y byddai 'na ddigon o deithwyr i gyfiawnhau ail-agor rhai o'r leiniau eraill yn y dosbarth yma, y rheilffordd o Ddowlais i Ystrad Mynach, er enghraifft neu'r un o Flaengarw i Dondu.

Mae'n bosib y byddai na ddigon o deithwyr ar y llaw arall i gyfiawnhau ail-agor lein Dyffryn Aman pe bai modd ail-gysylltu lein y Canolbarth ac Abertawe yn hytrach na Llanelli. Yn yr un modd gallai gwasanaethau rhwng Bryn Mawr a Chasnewydd dalu eu ffordd. Mae'r llywodraeth eisoes yn buddsoddi rhai cannoedd o filoedd o bunnau mewn ar ran o'r lein honno. Croesi ffyrdd newydd yn ardal Pont-y-pŵl fyddai'r broblem yn yr achos yma.

Y tu allan i'r de diwydiannol ychydig iawn o bosibiliadau sy' na. Mae'n debyg y byddai rheolwyr yn dymuno ymestyn y lein i Gorwen a Rhiwabon ac mae 'na wasanaethau'n ail-gychwyn yn ardal ond gwasanaethau treftadaeth yw'r rheiny.

Ac eithrio gwasanaethau Hirwaun a Beddau felly mae'n anodd gweld pa gyfleoedd sy 'na ar gyfer gwasanaethau newydd. Mae'n debyg mai ar wella'r ddarpariaeth ar y rhwydwaith presennol y bydd y pwyslais

*Fel arwydd o undod rhwng blogwyr y ´óÏó´«Ã½ rwy'n derbyn dadl Glyn Evans draw ar flog Cylchgrawn mai Glynebwy nid Glyn Ebwy sy'n gywir.

Rhywdweithio

Vaughan Roderick | 10:47, Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn ddyn syn poeni am fagiau plastig. Mae rhai yn obsesiynol yn eu cylch ac mae'r Cynulliad yn bwrw ymlaen a chynlluniau i'w gwahardd. Wrth gwrs gyda'r coffrau'n wag a dim ceiniog i wario ar blesio'r etholwyr mae gwahardd pethau yn ffordd rhad i ennill ambell i bennawd ffafriol!

Rwyn tueddu cytuno a sylwadau y llynedd;

Mae bagiau plastig yn cyfrif am lai nag 1 y cant o'r hyn sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.
Yn wir, nid ydynt ond yn cynrychioli 1 y cant o'r sbwriel a welir ar y strydoedd. Nid yw
hynny'n golygu nad yw'r mater yn bwysig, ond gadewch inni ei roi yn ei wir oleuni.

Ar y llaw arall rwy'n credu bod gan lywodraeth New South Wales bwynt wrth wahardd dŵr potel.

SMH

Gyda marwolaethau milwyr yn Afghanistan prin yn haeddu pennawd y dyddiau hyn mae'n werth cofio bod pob ystadegyn yn berson.

Guardian

Mae Paul Flynn yn sgwennu'n dda am hyn ar ei flog.

Paul Flynn

Digwyddiadau mewn rhan arall o'r byd sy'n poeni Amnest Rhyngwladol.

Amnest

Mae'r post hwnnw wedi esgor ar drafodaeth fywiog ar

I'r rheiny, fel fi, sy ddim yn gwybod llawer am Xinjiang mae'r erthygl yma'n werth ei darllen.

Washington Post

Tomos Livingstone, gohebydd seneddol y "Western Mail" yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon.

Ac yn olaf ni allaf ddianc rhag hon.

Times




... fel cana'r aderyn

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009

Sylwadau (3)

Dydw i ddim gan amlaf yn nodi dewis darpar ymgeiswyr seneddol ond fe fydd y cyhoeddiad hwn yn achosi ambell i ochenaid mewn mwy nac un blaid. Fe fydd Paul Starling, gynt o'r Welsh Mirror, yn sefyll i "People's Voice" yn Nhorfaen. Cyn-ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy yw'r aelod presennol wrth gwrs.

Mae Paul (S) yn un o'r cymeriadau hynny sy'n mwynhau tynnu blew o drwynau ei wrthwynebwyr a gallwch chi fod yn gwbwl sicr na fydd ornest y mae'n rhan ohoni yn ddi-liw. Fe fydd Paul (M) ar y llaw arall yn gorfod dibynnu ar ei amynedd diarhebol.

Fe fyddai'n gamgymeriad i Lafur gredu na allai'r hyn ddigwyddodd ym Mlaenau Gwent ddigwydd yn Nhorfaen hefyd, er y byswn yn tybio bod gan ymgeisydd annibynnol well cyfle mewn etholiad cynulliad nac etholiad seneddol.

Etholiad 2007

Lynne Neagle (Llaf) 9,921 (42.7%)
Graham Smith (Ceid) 4,525 (19.5%)
Ian Williams (PV) 3,348 (14.4%)
Rhys Ab Ellis (PC) 2,762 (11.9%)
Patrick Legg (DR) 2,659 (11.4%)

Etholiad 2005

Paul Murphy (Llaf) 20,472 (56.9%)
Nick Ramsay (Ceid) 5,681 (15.8%)
V Watkins (DR) 5,678 (15.8%)
Aneurin Preece (PC) 2,242 (6.2%)
D Rowlands (UKIP) 1,145 (3.2%)

Ffair Haf

Vaughan Roderick | 11:52, Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

Os os oes 'na opera sebon yn y cynulliad ar hyn o bryd y berthynas rhwng Ieuan Wyn Jones a'r Pwyllgor Cyllid yw hwnnw. Teg yw dweud nad yw'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn ffans mawr o'r gweinidog

Ers tro byd mae'r pwyllgor wedi bod yn ceisio cael gafael ar gopi o gyngor swyddogion i'r Gweinidog ynghylch Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Aeth yr hwch trwy'r siop heddiw pan glywodd y pwyllgor y byddai Ieuan yn cyhoeddi'r cyngor bnawn dydd Mercher nesaf. Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Angela Burns, fe fyddai hynny'n rhy hwyr i ganiatáu i'r pwyllgor ei drafod cyn gwyliau'r haf. Er mwyn cynyddu'r pwysau ar Ieuan fe benderfynodd Angela fygwth cynnal cyfarfod yn ystod y gwyliau.

Roedd hynny i gyd yn ystod sesiwn gyhoeddus y pwyllgor. Fe ddechreuodd y sbort go iawn mewn cyfarfod preifat wedyn wrth i gynrychiolwyr Plaid Cymru gyhuddo rhai o aelodau eraill y pwyllgor o hogi cyllyll gwleidyddol. Fe'u cyhuddwyd o geisio tanseilio Ieuan fel gweinidog a'r glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Erbyn y diwedd yn ôl y son roedd yr aelodau mwy neu yn sgrechain ar ei gilydd. Honnir i un aelod waeddu "It's not this committee that's undermining the government it's your ** Minister".

Oedden nhw mewn gwirionedd yn disgwyl gallu cadw honna'n dawel? Mae gen i sbeis ym mhobman!

Diolch, Syr Les

Vaughan Roderick | 16:28, Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2009

Sylwadau (2)

lp.jpgDydw i i ddim yn gwneud hyn i fyny!

Roeddwn yn disgwyl dweud fy nweud ar Radio Wales ychydig funudau yn ôl gan wrando ar gyfweliad ac Uchel Gomisiynydd Awstralia ym Mhrydain. Roedd e'n trafod yr hyn oedd yn gyffredin rhwng Cymru ac Awstralia gan gynnwys y nifer o ddefaid gan ychwanegu "we don't do the same things with them perhaps".

Cyfeirio at goginio ar y "barbie" yn hytrach nac yn y ffwrn oedd e, mae'n rhaid. Gobeithio. Efallai.

Ateb Emyr

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Hyd y gwn i mae 'na ddau Emyr Lewis o bwys yn y Gymru sydd ohoni. Un yw'r cyn-gapten rygbi a'r llall yw un o fy nghyfeillion bore oes sy'n un o ddynion mawr byd y gyfraith. Rwy'n cymryd mai hwnnw wnaeth adael sylw hynod ddiddorol ar y blog ddoe! Fe dynnodd Emyr fy sylw at gymal arbennig yn adroddiad y pwyllgor dethol ynghylch yr LCO iaith sy'n dweud hyn;

"One way to achieve this would be for the Welsh Assembly Government to insert in this draft Order tests that have to be met by any Measure subsequent to this LCO, rather than trying to insert definitions themselves in the text. These might include a test of reasonableness, a test of proportionality, and a consideration of the cost to demonstrate that the application of any Measure to particular bodies or organisations will, in the long term, provide a cost-effective benefit to the public in terms of the use of the Welsh language."

Mae Emyr yn poeni'n ddirfawr am y cymal hwn. Gallwch ddarllen y sylw yn llawn yn fan hyn ond dyma hanfod ei ddadl;

Ymddengys hyn yn awgrym mwy chwyldroadol hyd yn oed na'r awgrym yn yr ELCO tai fforddiadwy y byddai angen cyd-syniad Ysgrifennydd Cymru ar gyfer caniatáu rhai mathau o Fesurau... Os cynhwysir geiriau o'r fath a awgrymir, yna bydd modd herio Mesur mewn Llys Barn ar y sail nad yw'n rhesymol, a'i fod felly tu hwnt i rym deddfu (neu gymhwysedd deddfwriaethol) y Cynulliad. Mewn geiriau eraill, byddai penderfyniad Barnwr o'r hyn sydd yn rhesymol yng nghyd-destun deddfu mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yn drech na barn Cynulliad etholedig Cymru.

Nawr Emyr yw'r pen bandit cyfreithiol nid fi, ond dwi'n meddwl ei fod yn llygad ei le. Mae'r geiriau "reasonable" a "proportianate" a'u gwreiddiau yn Neddf Iaith 1993. Y bwriad wrth eu cynnwys, os gofia i'n iawn, oedd sicrhau y byddai'r Bwrdd Iaith yn ystyried ffactorau daearyddol ac ariannol wrth arolygu cynlluniau iaith cyrff cyhoeddus. Roedd y Bwrdd Iaith yn atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol ac yn ddiweddarach i'r Cynulliad. Rheiny felly, fyddai wedi barnu a oedd y Bwrdd yn ymddwyn yn rhesymol pe bai 'na anghytundeb ynghylch cynllun iaith. Dydw i ddim yn meddwl bod achos o'r fath erioed wedi codi.

Mae 'na fyd o wahaniaeth rhwng gosod cyfyngiad ar gwango gyda gwleidyddion yn ymddwyn fel dyfarnwyr a gosod cyfyngiad tebyg ar gorff deddfwriaethol gyda barnwyr yn llechu yn y cefndir. Y broblem yw nad oes na ddiffiniad gwrthrychol o ystyr geiriau fel "reasonable" a "proportinate" yn bodoli. Mae'n rhaid i rywun yn rhywle gymryd penderfyniad sydd yn ei hanfod yn oddrychol. Fel mae Emyr yn awgrymu, yn yr achos yma dim ond y llysoedd fyddai'n gallu gwneud.

A fydd y llywodraethau yn y Bae a San Steffan yn derbyn cyngor y Pwyllgor Dethol, felly? Dim ffiars o beryg.

Glyn Cwac Cwac

Vaughan Roderick | 19:19, Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009

Sylwadau (2)

wilcwac-3.jpgYdych chi'n cofio ynys yr hwyaid- yr addurn aeth yn symbol o'r holl helynt ynghylch treuliau? Ydych? Wel, dyma i chi ddatblygiad cyffrous.

Fe fedra i ddatgelu ffaith ysgytwol. Mae gan Glyn Davies nid un, ond dwy o'r ynysoedd hyfryd hyn yn ei ardd ym Maldwyn.

Peidiwch a phoeni. Does dim awgrym o gwbwl bod Glyn wedi ceisio hawlio'u cost o'r trethdalwyr! Gyda chylch yr orsedd hefyd mae'n rhaid bod ganddo gythraul o ardd! Owain Clarke oedd y Capten Cook wnaeth ddarganfod yr ynysoedd hudolus hyn wrth baratoi ffilm ynghylch treuliau i CF99. Mae'n rhaid i chi syllu'n ofalus ar y cefndir y tu ôl i Glyn i'w gweld!

Fe fydd y rhaglen am ddeg ar S4C ac fe fydd Dafydd Elis Thomas ymhlith y gwesteion. Fi sy'n chwarae rhan Dic Pen Moel a Bethan yw Ifan Twrci Tenau'r noson!

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 16:43, Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Roeddwn i'n gwybod bod sefyllfa trigolion brodorol Awstralia yn druenus. Serch hynny mae'r erthygl yma ynghylch cymdeithas trydydd byd yn byw o fewn canllath i un o eiconau cenedlaethol y wlad yn frawychus.

Sydney Morning Herald

Mae gan Gymru ei heisteddfod ond beth sy 'na i Albanwyr wneud ym Mis Awst?

Scotsman

Irish Independent

Ai Lembit yw ein gwleidydd mwyaf gwylaidd?

"As you might expect from Britain's most outspoken MP, I won the award for "Alternative Parliamentarian of the Year" in 2008." Daily Sport (Dim dolen- mae angen tanysgrifiad!)

Mae'r Times yn cynnig i'w darllewnwyr - diolch i Huw Eic.

Mae blog rhagorol "" yn dehonglu yr ystadegau diweddara ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae yn colbio Tesco, Peter Hain sy'n ei chael hi gan .




Boddi mewn geiriau

Vaughan Roderick | 13:44, Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009

Sylwadau (4)

Mae 'na ormod i ddarllen yn job yma weithiau! Cyhoeddwyd argymhellion Comisiwn Holtham ynghylch dyfodol fformiwla Barnet ac ymateb y Pwyllgor Dethol i'r LCO iaith o fewn munudau i'w gilydd.

Yn achos Holtham mae'r fethodoleg yn gymhleth. "Out of my pay bracket" fel y byddai'r Arlywydd Obama yn dweud! Serch hynny mae'r casgliadau yn ddigon hawdd eu deall. Yn ol Holtham mae 'na beryg y bydd Cymru yn derbyn llawer llai o arian o ddefnyddio fformiwla Barnett na phe bai'n cael ei thrin fel un o ranbarthau Lloegr. Faint yn llai? £8.5 biliwn, sef £2,900 y pen, dros y ddegawd nesaf.

Sefydlwyd y Comisiwn o ganlyniad i Gytundeb Cymru'n Un er gwaethaf ofnau rhai gweinidogion Llafur y gallai'r cynulliad dynnu nyth cacwn ar ei ben trwy ail-agor y ddadl ynghylch Barnett. Mae'n ymddangos y gallai'r gwrthwyneb bod yn wir.

O safbwynt yr LCO iaith mae adroddiad y Pwyllgor Dethol yn ddamniol. Mae aelodau'r pwyllgor yn ddigon parod i drosglwyddo pwerau deddfu ynghylch yr iaith i'r cynulliad ond maen nhw o'r farn bod y gorchymyn presennol yn afresymegol a mympwyol. Mae'r pwyllgor yn gofyn, er enghraifft, pam fod cwmnïau telathrebu yn cael eu cynnwys yn yr LCO ac nid banciau?

Mae'r ateb i'r cwestiwn yna a rhai o gwestiynau eraill y pwyllgor yn ddigon syml. Ffrwyth cyfaddawdu'r yw'r LCO, cyfaddawdu yn gyntaf rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Bae ac yna cyfaddawdu pellach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Paul Murphy yn Swyddfa Cymru. Ta beth, mae'r pwyllgor am i'r gorchymyn gael ei ail-ddrafftio'n llwyr ac yn dymuno cael cyfle i'w ystyried eto ar ei newydd wedd.

Digon teg, efallai. Ond mae'r cloc yn tician. Un mis ar ddeg man pellaf sy 'na cyn yr Etholiad Cyffredinol ac os nad yw'r senedd wedi cymeradwyo'r cais cyn hynny fe fydd yn rhaid mynd yn ôl a dechrau'r holl broses eto.

Snogio

Vaughan Roderick | 18:09, Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009

Sylwadau (2)

Doeddwn i ddim yn y Bae heddiw. Dydw i ddim felly wedi cael llawer o amser i ystyried ond o gael cip olwg sydyn mae'n ymddangos yn ddarn trylwyr iawn o waith.

Rwy'n arbennig o falch bod Syr Roger a'i dîm wedi rhoi sylw i'r ffordd y mae rhai aelodau'n rhenti swyddfeydd gan eu pleidiau, stori gafodd gryn sylw gan y ´óÏó´«Ã½ wythnos ddiwethaf. Mae eu hargymhellion yn gwneud synnwyr. Fe fyddai'n hurt i wahardd aelodau rhag defnyddio swyddfeydd canolog a chyfleus sy'n adnabyddus i'w hetholwyr. Ar y llaw arall mae angen sicrhau nad yw'r rhent yn rhyw fath o gymhorthdal cudd i'r blaid. Mae ateb Syr Roger yn un syml. Fe ddylai rhent teg gael ei bennu gan syrfewr annibynnol wedi ei benodi gan y cynulliad. Call iawn.

Lle'r oeddwn i heddiw? Yn snogio gyda Elin Jones! Nid yn llythrennol, wrth gwrs. Roeddwn i mewn cynhadledd a drefnwyd gan Sefydliad Bevan i drafod dwy flynedd o lywodraeth Cymru'n Un lle wnaeth Elin y sylw yma "os ydych chi eisiau clymblaid lwyddiannus mae'n rhaid i chi snogio pob partner posib".

Brinle hyd yn oed, Elin? Fe wna i brynu tocyn!

Diweddaru'r Deg

Vaughan Roderick | 08:40, Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009

Sylwadau (6)

Yn ôl ym Mis Ionawr sgwennais i ddarn bach o'r enw "Deg i dragwyddoldeb" yn rhestri'r deg sedd yr oeddwn yn credu y byddai'n fwyaf diddorol yn yr etholiad cyffredinol. Fe wnes i sgwennu erthyglau mwy manwl am rai ohonyn nhw. Cewch chi chwilio am rheiny!

Ar ôl hanner blwyddyn mae'n werth achub ar y cyfle i gael cipolwg arall ar y deg a cheisio mesur beth sydd wedi newid a beth sy ddim. Rhain oedd y "deg uchaf" ym Mis Ionawr;

Aberconwy
Gogledd Caerdydd
Ceredigion
Bro Morgannwg
Arfon
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Dyffryn Clwyd
Ynys Môn
Maldwyn
Pen-y-bont

Pe bawn i'n llunio'r rhestr nawr ni fyddai Arfon, Gogledd Caerdydd na Bro Morgannwg yn cael eu cynnwys. Pe bai'r etholiad yn cael ei gynnal heddiw dwi o'r farn y byddai 'na fwyafrif teilwng iawn i Blaid Cymru yn Arfon a rhai cysurus i'r Ceidwadwyr yn y ddwy sedd arall. Yn eu lle byswn yn cynnwys Delyn, Gwyr a Llanelli ar y rhestr. Roeddwn i'n credu bod yr etholaethau hynny yn ddiogel yn y golofn Lafur. Erbyn hyn dydw i ddim mor sicr.

Mae gen i ambell i beth i ddweud hefyd am rai o'r etholaethau sydd o hyd ar y rhestr. Yn ôl ym Mis Ionawr fe wnes i ddarogan mai brwydr rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru fyddai un Aberconwy ac fy mod yn meddwl mai'r Tori, Guto Bebb, oedd y ffefryn. Rwy'n ddigon parod i gadw'r ffydd o safbwynt hanner cynta'r broffwydoliaeth. Rwy'n llai sicr ynghylch yr ail ran. Mae 'na fwy a mwy o sïon wedi fy nghyrraedd ynghylch rhaniadau mewnol o fewn y blaid Geidwadol yn yr etholaeth. Ar ben hynny mae 'na rai o fewn y blaid yn ganolog sy'n dymuno gweld ei hadnoddau yn cael eu canolbwyntio ar rasys dau geffyl yn erbyn Llafur mewn etholaethau megis Delyn a De Clwyd. Rwyf bellach o'r farn fod gan y Pleidiwr Phil Edwards gystal cyfle a Guto i gipio'r sedd.

Gan fod gwleidyddiaeth Ynys Môn yn ddryslyd i bawb o'r tir mawr fe ges i sgwrs dros beint gyda fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth sy'n gwybod a deall popeth am y fam ynys. Mae Rhun yn gallu rhestri rhesymau i esbonio pam na fydd hwn neu'r llall yn ennill ond yn ei chael hi'n anodd llunio achos cryf dros fuddugoliaeth i unrhyw un o'r ymgeiswyr. Ar ddiwedd y dydd gallai trefniadaeth Plaid Cymru ynghyd a'i phleidlais graidd soled fod yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i ymgeisydd nad yw'n tanio dychymyg yr etholwyr ar hyn o bryd.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 10:14, Dydd Sul, 5 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Rialto.jpgFe wnes i ddewis y teitl "Rialtwch" ar gyfer y gyfres yma am fod y gair, yn ôl rhai, yn deillio o "Rialto", enw cyffredin ar sinemau cynnar.

"Rialto" yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yw'r un yn y llun. Rwy'n cymryd mai "flea-pit" nid "picture palace" yw'r disgrifiad addas ar gyfer y "Rialto" arbennig yma.

Ta beth, dyma ffilmiau'r penwythnos. Fe wnawn ni gychwyn yn Seland Newydd gyda ffilm ddoniol iawn am gymhlethdod israddoldeb y wlad honno tuag at Loegr.

Cymhlethdod israddoldeb yn cael ei leddfu gan obsesiwn am rygbi? Mae hynny'n swnio'n gyfarwydd rhywsut!

Mae 'na ddewis arall wrth gwrs sef llyncu'r stereoteip!

Mae hyd yn oed y Newyddion yn gallu bod yn ddoniol weithiau. Pam ar y ddaear y mae'r gohebydd yma ar RTE wedi ei amgylchynu gan gorachod swrth? Ble mae "Snow White", dywedwch?

Gyda llaw, mae'r sach awgrymiadau braidd yn wag ar hyn o bryd. Danfonwch eich dolenni trwy'r sylwadau.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 20:16, Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)


Mae'n ymddangos bod yn gweithio o'r diwedd, i fi, o leiaf! Mae'r diwyg hefyd wedi ei foderneiddio. Hwre! Dwi'n edrych ymlaen at y ffeit! Mae cystadleuaeth yn beth da!

Mae yn sgwennu ynghylch yr union bwnc yn y "Western Mail". Fel bron pawb arall mae Lefi yn parhau i gyfeirio at wasanaeth arlein Cymraeg y ´óÏó´«Ã½ fel "Cymru'r Byd". Mae'r enw hwnnw wedi diflannu o'r safle am ryw reswm. Nid myfi yw'r un i ofyn pam... o na!

Hefyd yn y "Western Mail" mae 'na ynghylch gwahodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ymuno a'r llywodraeth yn y Bae. Twt lol yn fy marn i. Gan fy mod wedi gwylltio Plaid Cymru gyda ambell i bost yn ddiweddar gadewch i mi ddweud fy mod yn credu bod y sylw yma gan lefarydd y blaid yn llygaid ei le.

""There are some in the Labour Party who are out to undermine the Labour-Plaid agreement and are trying to damage Ieuan for their own ends, helped by the Liberal Democrats."

Pwy yw'r "some" 'na? Fe fedra i ddyfalu!

Mae 'na flog sosialaidd newydd wedi ymddangos yn y gogledd ddwyrain- un da hefyd. "" yw'r enw. Rhyfedd. Roeddwn i'n meddwl mai rhan o dafodiaith Saesneg Caerdydd oedd y term hwnnw.



Porffor ac Oren a Glas

Vaughan Roderick | 10:17, Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

Mae'r blogio wedi bod yn gymharol ysgafn yw wythnos hon a hynny am reswm. Rwyf wedi bod yn defnyddio'r munudau sbâr hynny sy gan amlaf yn amser blogio i baratoi cyflwyniad ar gyfer cynhadledd Sefydliad Bevan wythnos nesaf.

Nid fi wnaeth ddewis y testun ac mae'n un rhyfeddol o anodd sef ceisio darogan pa liw neu liwiau y bydd llywodraeth Cymru ar ôl 2011. Mae'n dasg amhosib bron. Gallaf ddychmygu am sefyllfaoedd a fyddai'n arwain at bron pob un cyfuniad posib. Serch hynny mae 'na ddau gyfuniad sy'n hynod o annhebyg. Un o'r rheiny, wrth reswm yw clymblaid rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr. Y llall yw'n hen gyfaill o 2007- yr "enfys".

Os gofiwch chi fe ddaeth yr "enfys" (sef clymblaid o Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol) o fewn y dim i ffurfio Llywodraeth y Cynulliad. Oni bai am y tebot siocled o gyfansoddiad sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol y glymblaid honno fyddai'n llywodraethu heddiw.

Roedd yr enfys yn opsiwn pwysig yn 2007 oherwydd cyfuniad o ddau ffactor. Y cyntaf oedd y ffaith nad oedd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr a digon seddi rhwngddyn nhw i ffurfio llywodraeth. Yr ail ffactor oedd amharodrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio clymblaid a Llafur. Yr enfys a chlymblaid "coch-gwyrdd" (fel yr oeddwn yn ei galw ar y pryd) oedd y dewisiadau posib yn 2007 felly.

Fe fydd 'na wahaniaeth pwysig yn 2011. I'r Democratiaid Rhyddfrydol roedd y profiad o wrthod clymblaid a Llafur yn ddigon tebyg i brofiad crwt yn gwlychu ei drowsus. Roedd hi'n gynnes a phleserus am ychydig funudau ond yn hynod o amhleserus ar ôl hynny. Dyw'r blaid ddim yn mynd i wneud yr un camgymeriad eto.

Pa ddewisiadau fydd ar y bwrdd yn 2011 felly? Wel, fe fydd coch-gwyrdd ar gael o dan bob amgylchiad tebygol. Os ydy cyfanswm aelodau'r Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy na thrideg cyfuniad rhwng y pleidiau hynny yw'r dewis arall. Os ydy'r cyfanswm hwnnw yn llai na thrideg clymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yw'r ail opsiwn.

Dim "enfys" felly. Mae hynny'n pery loes calon i mi. Nid cymhellion gwleidyddol sy gen i dros ddweud hynny. Yn nyddiau cynnar y blog yma fe ges i lot o sbort yn llunio penawdau ynghylch yr enfys; "enfys yw fy mywyd", "pot o aur", "Draw dros yr enfys" ayb.
Roedd y posibiliadau'n ddiddiwedd ac roeddwn yn gobeithio eu hail-gylchu nhw i gyd yn 2011! Damnia!

Peiriant Pres y Pleidiau

Vaughan Roderick | 08:07, Dydd Iau, 2 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

_45999435_partyoffices282bbc.jpgErs i'r holl fusnes treuliau 'ma gychwyn rwyf wedi derbyn ambell i e-bost yn tynnu sylw at gamweddau honedig hwn a'r llall. Yn ddieithriad rwyf wedi gwneud ymholiadau ynghylch y cyhuddiad, ac rwyf wedi cynnwys ambell i un sydd wedi ei brofi mewn adroddiadau'n crynhoi'r holl helbulon.

Mae'n ddigon hawdd i unrhyw un sydd a'r amser, yr ewyllys a gallu i ganfod straeon o'r fath wrth fynd trwy fanylion y treuliau sydd wedi eu cyhoeddi. Mae'n ddilys i wneud hynny er fy mod yn synhwyro mai cymhellion gwleidyddol sy'n sbarduno rhai i wneud y gwaith.

Yn bersonol, mae gen i fwy o ddiddordeb mewn gwendidau strwythurol a phatrymau o weithredu nac mewn achosion o drachwant personol. Dros y pythefnos diwethaf mae fy nghydweithwyr wedi treulio cannoedd o oriau yn ymchwilio i union y fath yna o batrwm.

Yr hyn oedd yn ein diddori oedd nid unigolion yn cyfoethogi eu hun trwy eu treuliau ond tystiolaeth bod pleidiau'n ariannu eu hun o bwrs y wlad. Rydym wedi casglu ynghylch y ffordd y mae aelodau seneddol a chynulliad yn rhenti swyddfeydd o'u pleidiau. Mewn rhai achosion mae'n ymddangos bod yr aelodau yn talu pris ymhell dros bris y farchnad am swyddfa mewn adeilad sy'n eiddo i'w plaid. Rydym wedi cyhoeddi rhai o'n canfyddiadau'r bore 'ma ac mae 'na fwy oi ddod.

Mae 'na ddadl ddilys i gael dros ariannu pleidiau (yn rhannol o leiaf) o'r coffrau cyhoeddus. Mae hynny'n digwydd mewn sawl gwlad. Hyd yn oed yn y wlad yma mae'r gwrthbleidiau yn derbyn cymorth ariannol i dalu am ymchwil ac wrth gwrs mae gan Aelodau Seneddol eu lwfansau cyfathrebu. Mae'r rheiny yn ddadleuol ond o leiaf fe gafodd y system ei mabwysiadu'n ddemocrataidd ac mae'r rheolau yn eglur. Mae sefyllfa'r swyddfeydd yn fwy amwys. Heb os mae 'na achosion lle nad yw'r blaid yn elwa o'r trefniant ond mae 'na eraill lle mae'n ymddangos bod y gwrthwyneb yn wir. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld beth sy' gan Roger Jones a'i banel i ddweud am yr arfer yn eu hargymhellion wythnos nesaf.

Anweledig

Vaughan Roderick | 15:54, Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2009

Sylwadau (3)

Sori, os oeddech chi'n disgwyl post am "Sombreros yn y Glaw"! Politics sy gen i eto mae gen i ofn.

Mae aelodau'r cynulliad, yn enwedig y Torïaid ac ambell i aelod Llafur, mewn tymer gwael y prynhawn yma. Wel, lle anghyffyrddus o boeth yw'r siambr yn y tywydd 'ma ond ni dyna'r unig beth sy'n corddi'r aelodau.

Mae Ieuan Wyn Jones yn mynd dan groen mwy a mwy o aelodau'r dyddiau hyn. Yn ystod ei sesiwn gwestiynau fe fu'n rhaid galw am drefn droeon wrth i aelodau gwyno am oedi yn y cynllun i wella Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Mae aelodau fel Huw Lewis ac Alun Davies wedi bod yn colbio Ieuan yn gyson ynghylch y pwnc a heddiw roedd Ieuan o'r farn bod Huw wedi dod yn agos iawn at ei gyhuddo o ddweud celwydd.

Roedd Ieuan yr un mor ymosodol wrth ymateb gan hawlio am y canfed tro (neu o leiaf mae'n teimlo fel y canfed tro) ei fod yn glynu at yr amserlen a luniwyd gan y llywodraeth Lafur diwethaf. Roedd Huw, wrth gwrs yn is-weinidog yn y llywodraeth honno. Hwyrach y bydd y ffrae yma'n tawelu ar ôl cynhadledd ddewis Llafur Blaenau Gwent ac ethol arweinydd newydd Llafur Cymru! Mae'n anodd osgoi'r teimlad weithiau bod Huw ac Alun (a Leighton Andrews efallai) yn cystadlu a'i gilydd am y teitl "Mistar Blaenau'r Cymoedd,2009"!

Roeddwn i'n cymryd y byddai pethau'n tawelu ar ôl i Ieuan adael y siambr. Trafod adroddiad gan y Pwyllgor Menter ynghylch ymateb y llywodraeth i'r argyfwng economaidd oedd y pwnc nesaf ar yr agenda. Os oedd presenoldeb ac atebion Ieuan wedi gwylltio rhai roedd ei absenoldeb o'r ddadl hon yn cynddeiriogi eraill. "Busnes pwysig" oedd esboniad John Griffiths o feinciau'r llywodraeth.

"Anghwrtais", "gwarthus", "pathetig". Roedd y cwynion o feinciau'r gwrthbleidiau bron yn ddiddiwedd. Mae cadeirydd y pwyllgor, Gareth Jones, yn aelod o Blaid Cymru ac yn ddyn hynod gwrtais ond cyfaddefodd ei fod wedi "synnu braidd".

Ydy'r gwrthbleidiau yn targedu Ieuan? Wrth gwrs eu bod nhw. Oedd hi'n gamgymeriad i Ieuan golli'r ddadl? Oedd, mwy na thebyg. Ydy Ieuan yn stryglo i ddelio a phortffolio mor enfawr? Efallai.

Gyda llaw roedd y Dirprwy Brif Weinidog mewn cynhadledd ynglŷn â'r argyfwng ariannol yn ystod y ddadl- mewn gwesty sydd a'r "Air Conditioning" mwyaf modern! Yn fwy diddorol efallai yn yr agenda gwreiddiol roedd Ieuan i fod i siarad am 4.15. toc wedi'r ddadl yn y Cynulliad. Am ryw reswm cafodd yr agenda ei newid gan ei gwneud hi'n amhosib iddo fynychu'r ddadl. Neu dyna mae rhai yn dweud,ta beth*!

* Mae pobol eraill yn dweud pethau eraill, wrth gwrs, gan nodi nad y llywodraeth wnaeth lunio agenda'r gynhadledd (er siawns ei bod wedi cytuno) a chan hawlio na fyddai chwarter awr y naill ffordd neu'r llall wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o safbwynt mynychu'r ddadl.
.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.