´óÏó´«Ã½

µþ²¹³óá'í

Y ddaear

22 Ebrill 2010

Tuag at un bryd

Omid Behi yn sôn am hanfodion ffydd µþ²¹³óá'í.

Y mae'r Ffydd µþ²¹³óá'í yn un o'r prif grefyddau ieuengaf yn y byd. Fe'i sefydlwyd yn Iran ym 1863 gan µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó (1817-1892).

Mae enw µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó yn cyfieithu o'r Arabeg i Gogoniant Duw ac mae'r dilynwyr yn credu mai ef yw'r negeseuwr, neu'r amlygiad, diweddaraf o Dduw - ond ddim y negeseuwr terfynol.

Mae'r Ffydd µþ²¹³óá'í yn derbyn Abraham, Krishna, Moses, Zoroaster, Buddha, Iesu, Muhammad a'r Pab fel negeseuwyr Duw cyn µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó.

Dysgodd µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó bod negeswyr Duw yn ymddangos ac yn datgelu o'r newydd ei ewyllys a'i bwrpas i ni pryd bynnag y mae dynoliaeth yn symud ymaith oddi wrth Dduw ac yn anghofio ei ddysgeidiaethau.

Byd newydd

Mae'r µþ²¹³óá'í yn credu y bydd ddysgeidiaethau µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó yn galluogi'r ddynoliaeth i lunio byd newydd a chyflawni ein pwrpas trwy sefydlu undod ar y ddaear.

Dysgodd µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó mai dynoliaeth megis fel un genedl yw'r cyflwr terfynol o esblygiad dynioliaeth.

Credir fod yr amser wedi cyrraedd y mae rhaid i ddynoliaeth symud ymlaen i aeddfedrwydd byd-eang ar ffurf un teulu dynol.

Meddai µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó: "Un wlad yw y byd a dynolryw yw ei dinasyddion."

Mae dysgeidiaethau'r µþ²¹³óá'í yn sôn am bwysigrwydd cydraddoldeb gan ymwrthod ag unrhyw fath o ragfarn gan weithio yn y gwahanol wledydd i ddileu ffafriaeth ac anghytgord.

Credir ym mhwysigrwydd 'undod mewn amrywiaeth' i ddatblygiad dynoliaeth

Fel gardd

Mab µþ²¹³óá'³Ü'±ô±ôá³ó yw 'Abdu'l-Bahá ac mae ef yn sôn am ardd enfawr lle mae blodau o bob lliw, llun ac arogl yn tyfu gyda'i gilydd ac yn amrywiaeth yr ardd hon y mae ei harddwch a'i phleser

Mae'r Bahá'i heddiw yn brysur mewn proses o ddysgedigaeth byd-eang gan annog pawb i weithio â'i gilydd i wella cydlyniad cymdeithasol trwy weithredoedd a fydd yn gwella cymunedau.

Mae yna chwe miliwn yn dilyn y ffydd mewn 235 o wahanol wledydd gyda rhyw 6,000 ym Mhrydain.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.