|
|
Cynhaliwyd Eisteddfod Bangor 1914 ym 1915, flwyddyn union ar 么l i Brydain
gyhoeddi rhyfel yn erbyn Yr Almaen. Eisteddfod filitaraidd oedd honno.
Ceisiodd y Brigadydd Owen Thomas o F么n gorddi ysbryd gwladgarol y dorf, ac
annog bechgyn ifanc Cymru i lenwi'r rhengoedd. Y tu allan i'r pafiliwn,
'roedd y swyddogion recriwtio yn barod i dderbyn y gwirfoddolwyr. Awgrymodd
Owen Thomas fod angen i'r 'Steddfod drefnu cystadlaethau newydd sbon ar
gyfer milwyr, fel saethu at dargedau a hedfan.
Ar ddiwrnod y cadeirio, traddododd y gweinidog Arfau newydd ei araith
flynyddol yn y 'Steddfod: 'There was a time when it seemed as if the military spirit of Wales had vanished into the mists of the past. Our Welsh
martial spirit was not dead. It was not even slumbering. It was simply
hiding in its caves amongst the hills until the call came from above'.
Er i Lloyd George achub rhywfaint ar Eisteddfod Bangor, 'Steddfod ddi-hwyl
dan gysgod rhyfel oedd hi.
ymlaen...
|
|
|
Cynhaliwyd Eisteddfod 1916 yn Aberystwyth dan gysgod brwydr y
Somme, y frwydr fwyaf colledus o bob un o frwydrau'r Rhyfel Mawr. Erbyn
diwedd y frwydr 'roedd 650,000 o filwyr y Cynghrair wedi eu lladd. Rhan o
frwydr fawr y Somme oedd y frwydr i ennill Coed Mametz oddi ar yr Almaenwyr. Ymladdwyd y frwydr gan bum bataliwn Gymreig, a chollwyd 4,000 0
Gymry, er iddyn nhw ennill y frwydr. Daeth y frwydr i ennill Coed mametz 芒
chlod i'r Cymry, ac arhosodd y fuddugoliaeth yn rhan o'r fytholeg Gymreig am
y Rhyfel Mawr.
Brwydr y Coed
'Chwi fechgyn o Gymru,'medd swyddog y gadlu,
'Rhaid heddiw ymdrechu yn fwy nag erioed;
Aed pob un i weddi ar Dduw ei rieni:
Rhaid ymladd hyd farw - rhaid cymryd y coed.'
Ar hyn dyma'r bechgyn yn taro hen emyn,
A'r alaw Gymreigiadd mor bur ag erioed,
A'r canu rhyfeddaf, ie'r canu dwyfolaf,
Oedd canu y bechgyn cyn cymryd yr oed.
Ar 么l brwydro gwaedlyd ac ymladd dychrynllyd
Enillwyd y frwydr galetaf erioed:
Ond rhwygwyd ein rhengoedd, a llanwyd yn lluoedd
Y beddau dienw wrth odre y coed.
Credai llawer mai ffolineb oedd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yng
nghanol y Rhyfel. 'Doedd Lloyd George ddim yn cytuno. Dyma oedd ei eiriau
yn ei araith lywyddol yn Eisteddfod 1916:
'There is a bird in our villages who can beat the best of them. He is
called a 'Cymro'. He sings in joy, he also sings in sorrow; he sings in
prosperity, he sings also in adversity; he sings at play, he sings at work;
he sings in the sunshine, he sings in the storms; he sings in peace, why
should he not sing in war?'
ymlaen...
|
|