Y Gadair Ddu
Daeth y Rhyfel i ganol llwyfan y Brifwyl yn Birkenhead ym 1917. Awdl Fleur
de Lis oedd yr awdl orau yng nghystadleuaeth y gadair, ond pan ofynnwyd i'r
bardd buddugol sefyll ar ei draed, ni safodd neb.'Roedd yr enillydd wedi
cwympo ym mrwydr Cefn Pilkem, ar y ffin rhwng Ffrainc a Fflandrys, bum
wythnos cyn diwrnod y cadeirio. Hedd Wyn o Drawsfynydd oedd bardd y Gadair,
ond 'doedd dim Hedd na Heddwch yn y 'Steddfod honno. Pan lefarodd Dyfed, yr
Archdderwydd, ei benillion coffa i Hedd Wyn, 'roedd y dorf yn ei dagrau.
I gylch yr Eisteddfod o gynnwrf y byd,
I gwrdd 芒'r awenydd daeth cenedl ynghyd;
Fe ganwyd yr utgorn a threfnwyd y cledd,
Ond gwag ydyw'r Gadair a'r Bardd yn ei fedd.
Trannoeth y Drin
Daeth y Rhyfel i ben ym 1918 wedi i 40,000 o Gymru gwympo yn ystod y pedair
blynedd. Prifwyl 1918 oedd Prifwyl olaf cyfnod y Rhyfel. 'Doedd dim arwydd fod y Rhyfel wedi dylanwadu ar lenyddiaeth y 'Steddfod. 'Doedd dim awgrym
fod y rhyfel wedi digwydd yn nwy brif gystadleuaeth lenyddol Castell-nedd.
ymlaen...
|
|
|