|
Rhannau o ail oedfa tymor yr Adfent 2007 gan John ac Eluned Rowlands - darlledwyd 9 Rhagfyr 2007 ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.
Darlleniad
(Luc 2: 1-7)
Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstws i gofrestru'r holl Ymerodraeth. Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwnnw pan oedd Cyrenius yn llywodraethu ar Syria.
Aeth pawb felly i'w gofrestru, pob un i'w dref ei hun. Oherwydd ei fod yn perthyn i dy a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem, i ymgofrestru ynghyd â Mair ei ddyweddi: ac yr oedd hi'n feichiog.
Pan oeddent yno, cyflawnodd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a'i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty.
Cyflwyniad - John Camgymeriad gŵr y llety
A dyna ni wedi clywed am gamgymeriad mawr Gŵr y Llety ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Ef - a'i wraig, os ydan ni i gredu'r hanesion sydd wedi tyfu o'u cwmpas - wrthododd roi stafell gysurus i ddau o Nasareth ar noson bwysig yn hanes y byd.
Yn ystod cyfnod y Cofrestru, roedd Bethlehem yn berwi o bobol, ac roedd ei westy'n llawn. Roedd pob llofft wedi ei llogi. Roedd ganddo lond tŷ o bobol i'w bwydo a'u tendio. Ac asynnod i'w dyfrio, yn siŵr o fod. Petai'n cadw gwesty heddiw, buasai wedi gorfod gosod arwydd 'No vacancies' yn y ffenest ffrynt, ac wedi rhoi'r gorau i dderbyn bwcings dros y we.
Gallasai fod wedi codi crocbris am bob ystafell, ac yna eistedd yn ôl a chyfri'r elw. Fyddai dim ots, wedyn, petai hi'n gwneud ha' gwlyb - buasai ar ben ei ddigon, wedi derbyn ei gyfle mawr gyda dwylo agored. A phwy allai ei feio?
Neu, yn hytrach, pwy sydd yn beio Gŵr y Llety?
Dydi Gŵr y Llety ddim yn cael ei enwi na'i ddisgrifio na'i feirniadu yn y stori gan Luc. "Am nad oedd lle iddynt yn y gwesty," - dyna mae'r efengyl yn ei ddweud.
O gwmpas hynny y tyfodd y stori am y gŵr blin sy'n dod i'r drws yn hwyr y nos ac yn dweud wrth y cwpwl blinedig y byddai'n rhaid iddyn nhw fynd i chwilio am lety i rywle arall.
Mae'n bosibl iawn fod yna sawl Gŵr y Llety ym Methlehem wedi dweud yr un peth wrth Mair a Joseff 0- ac ambell un wedi gwrthod codi o'i wely ac agor y drws iddyn nhw, hyd yn oed.
A ydi hi'n bosibl ein bod ni wedi bod yn llawer rhy negyddol a llawdrwm wrth feddwl am Å´r y Llety?
Wedi'r cyfan, nid dweud 'Na' pendant a dideimlad wnaeth hwn wrth Mair a Joseff.
Dweud yn ddigon onest ac agored na fedrai wneud dim ynglŷn â rhoi ystafell iddyn nhw - ond dweud hefyd ei fod yn fodlon gwneud y nesa' peth at hynny, sef rhoi ei stabal neu ei feudy neu ei gwt allan iddyn nhw. A hynny heb wybod pwy oedd y rhain, na mawredd y babi bach yng nghroth y ferch ifanc.
Mae hi'n hawdd - yn rhy hawdd - i ni, wrth edrych yn ôl a gweld cyfanrwydd y stori, i feirniadu Gŵr y Llety. Os rhywbeth, mae o i'w ganmol am roi to o gwbwl i'r teulu bach ar noson oer. Am wneud yr hyn oedd yn bosib dan yr amgylchiadau.
Am weld angen cwpwl ifanc. Am drugarhau. A gododd o rent arnyn nhw y noson honno?
Mae'n amhosibl i ni wybod hynny, ond dychmygwch ei ymateb pan ddechreuodd yr ymwelwyr gyrraedd - y bugeiliaid, y seryddion o'r Dwyrain, angylion ... a beth am y seren honno fu'n hongian yn yr awyr uwchben ei racsyn o adeilad tlawd?
Petai'n rhedeg gwesty heddiw, dyna beth fyddai hysbyseb gwerth ei gael. Oherwydd, pan wrthododd pawb arall roi llety i rieni Iesu Grist, roedd yna un - dim ond un - yn fodlon codi o'i wely a'u tywys i'r unig le oedd ganddo. A fyddech chi wedi gwneud hynny?
Darlleniad - Eluned Y Geni gan I D Hooson
Gweddi - Eluned
Mae hi mor hawdd edrych yn ôl a gweld yr hyn ddylid fod wedi ei wneud.
Mae hi'n llawer anos gweld yn glir pan ydan ni yn ei chanol hi, yn wynebu penderfyniadau ar y pryd, a rhai o'r rheiny ymhell o fod yn hawdd.
Wrth bwyso a mesur sefyllfa, gadewch i ni bob amser chwilio am gyfle i weithredu er lles ac yn anhunanol, fel Gŵr y Llety.
Amen.
John:
Wrth gwrs, petai Gŵr y Llety wedi rhoi ystafell orau'r ty i Mair a Joseff ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, fyddai neges y stori ddim yr un.
Mae'r ffaith fod Mab Duw wedi ei eni mewn stabal tlawd, yng nghanol yr anifeiliaid, heb ddillad crand na theganau na chrud, yn ddarlun trawiadol a phwysig iawn.
Fe ddaeth i'r byd yn dlawd - nid efo llwy arian yn ei geg. Nid i balas, ond i ganol gwair. Ac yn fwy na hynny, fe ddaeth pobol o bob haen o gymdeithas yno ynghyd i'w weld o - yn fugeiliaid gwladaidd ac yn wyr doeth a chyfoethog.
Nid gwneud cam â Iesu Grist wnaeth Gwr y Llety, ond rhoi sylfaen i'w holl weinidogaeth.
Darlleniad - Eluned
(Rhufeiniaid 12: 9-17)
Darlleniad - John
Y Geni - Sion Aled
.
Gweddi - Eluned
Wyddom ni ddim pwy ddaw i guro ar y drws, na phryd y dôn' nhw. Weithiau, fe ddônt â newyddion da liw dydd; dro arall dônt yn llaw gwewyr a gwae liw nos.
Y gamp ydi cofleidio'r cyfle sy'n dod yn sgîl y ddwy gnoc. Gobeithio fod yna ddeunydd Gwr y Llety ynom ni, bob un.
Amen.
|
|