´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Guto Prys ap Gwynfor Dirywiad cymanfaoedd canu
Beio'r dosbarth canol caws a gwin
Cyhuddwyd y dosbarth canol uwch Cymraeg - yn athrawon, yn feddygon, cyfreithwyr a'u tebyg o fod yn ddifrïol o gymanfaoedd canu a thrwy hynny brysuro eu dirywiad.

Adleisio pryderon yr oedd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a fynegodd ddwy flynedd yn ôl gan ddweud ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen 24 Mawrth 2008, fod y dirywiad mewn cymanfaoedd canu gymaint fod ansicrwydd ynglŷn â'u dyfodol.


Ond disgrifiodd un o brif arweinyddion cymanfaoedd canu Cymru, Alun Guy, ei gyhuddiadau am ran y dosbarth canol yn y dirywiad hwnnw fel "chwerthinllyd"

Lleisiodd Guto Prys ap Gwynfor ei bryderon gyntaf am ddyfodol cymanfaoedd canu ddwy flynedd yn ôl ac meddai ar Wythnos Gwilym Owen:

"Mae'r dirywiad yn gwaethygu o flwyddyn i flwyddyn ac maen nhw' i'w gweld yn diflannu mewn rhai mannau ac adroddiadau o fannau eraill eu bod yn gwanhau ond mewn ambell i fan fel gorllewin Caerfyrddin mae e'n dal yn gryf iawn ac yn ne Ceredigion ac mae hynny yn arwydd gobaith," meddai.

Priodolodd y dirywiad i'r dirywiad sy'n digwydd yn gyffredinol mewn capeli gan ychwanegu bod "rhyw fath o ddirmyg gan y Cymry eu hunain tuag at eu traddodiadau eu hunain".

Agwedd, meddai, sy'n ei boeni'n fawr.

"Mae'n cael ei fynegi yn aml iawn gan y dosbarth canol a'r dosbarth uwch ac yn fy mhrofiad i pobl y dosbarth canol - athrawon a meddygon a chyfreithwyr a phobl felly - sydd yn perthyn i'n heglwysi ni ond yn gwneud dim i helpu'r gymanfa ganu [ond yn ei] hystyried yn rhywbeth hen-ffasiwn, diwerth," meddai.

"Ond yn rhyfedd iawn mae'r bobl yma - ac fe allai sôn am un teulu yn arbennig; a fy nhrafodaeth i gyda'r teulu yma wnaeth ysgogi fy sylwadau cychwynnol i.

"Fe aethon nhw i'r Cyfandir, i Lydaw, ac yn dirmygu'r gymanfa ganu yma yng Nghymru ac fe aethon nhw Lydaw a dod nôl wedi rhyfeddu ac yn dweud pa mor wych oedd e fod y gymdeithas yn dod at ei gilydd i ganu ac i foli gyda'i gilydd - pam na allem ni wneud rhywbeth fel yna yng Nghymru.

"Wel rydym ni yn gwneud rhywbeth fel yna yng Nghymru ond rydym ni'n ei ddirmygu ac mae eisiau i ni ddatblygu'r peth ," meddai.

Ychwanegodd:
"Nid dadlau ydw i fod angen eu cadw nhw fel maen nhw ond bod angen eu datblygu nhw a'u defnyddio nhw i fod yn ddathliad ac yn ŵyl ac i fod yn sylfaen i ddathliad Cristnogol lle mae'r gymanfa ganu yn rhan o rywbeth mwy - dyna beth garwn i weld yn digwydd," meddai.

Dywedodd fod elfennau cymdeithasol hefyd yn rhwystr a phobl heb yr awydd mwyach i ddod at ei gilydd ac ymarfer a pharatoi.

"Fy mhle i yw ei fod yn beth adeiladol, yn greadigol ac yn beth all fod yn orfoleddus ond inni ei ddatblygu fe'n iawn. Yn rhan o ŵyl ac o ddathliad," meddai.

Disgrifiodd y gymanfa hefyd fel rhywbeth sy'n werinol ac yn ddemocrataidd yn ei hanfod gyda hawl i bawb i'w ran ond o'r herwydd yn rhywbeth nad yw'n apelio at y yr haen o gymdeithas gyfoes sy'n ffoli ar nosweithiau caws a gwin a'u tebyg.

"Dydy pobl ddim yn lico'r peth gwerinol 'ma. Maen nhw'n ei ddirmygu ac mae hynny yn poeni dyn," meddai.

"Yr ydym yn colli un o'n traddodiadau cynhennid sydd wedi datblygu ar dir Cymru ei hunan," meddai.

Yr ymateb
Cafwyd ymateb i sylwadau Guto Prys ap Gwynfor gan:

  • Y Dr Katherine Jenkins, llywydd Cymdeithas Emynau Cymru.
  • Cedric Jones o Gwmni Andante sy'n cynhyrchu Caniadaeth y Cysegr.
  • Trystan Lewis o Ddeganwy ac
  • Alun Guy o Gaerdydd, dau sy'n arwain cymanfaoedd.


    Katherine Jenkins: "Mae'n rhaid inni dderbyn bod yna ddirywiad mawr yn rhai o'n traddodiadau Cymreig ni sy'n gysylltiedig â hanes Anghydffurfiaeth ac mae hynny yn drasiedi ac rwy'n dweud hynny gyda chwithdod mawr oherwydd yr emyn Cymraeg a chaniadaeth y cysger ydi un o gyfraniadau mwyaf Cymru i ddiwylliant y byd."

    Ond ychwanegodd; os yw'r gymanfa enwadol draddodiadol yn dirywio dywedodd bod dadeni hefyd gyda'r gymanfa fodern.

    Cedric Jones: Dywedodd fodpethau'n gwanhau bedair neu bum mlynedd yn ôl "ond dydw i'n cael dim trafferth rŵan [ac] yn gweld y gymanfa un ai'n dal ei thir neu yn cynyddu.

    Dywedodd fod rhai ardaloedd yn well na'i gilydd.

    Trystan Lewis: Bu'n brysur dros y Pasg. Yng Nghwm Gwaun "roedden nhw'n dweud fod y gymanfa wedi gwella ers rhyw bum mlynedd ac roedd y capel yn llythrennol yn llawn i'r ymylon."

    Ychwanegodd mai "cyffredinoli" yw dweud fod y gymanfa yn dirywio ond ei fod yn destun pryder yn y gogledd.

    Alun Guy: "Yn sicr mae edwino wedi bod dros gyfnod y Pasg.

    "Ond mae ardaloedd yng Nghymru lle mae'r gymanfa yn da l yn gryf iawn."

    Cyhuddodd Guto Prys ap Gwynfor o fod yn "besimistaidd" a'i ddadansoddiad dosbarth o fod yn "chwerthinllyd".


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý