´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Tweli Côd Cristnogaeth
Rhufain, Moscow, Nevada, Istanbul, Treffynnon, Lithwania, Ynysoedd y Philipino . . . Detholiad o ddyddiadur Tweli Griffiths.
  • Dros gyfnod o chwech wythnos yn cychwyn Mehefin 17 2008 bydd y newyddiadurwr Tweli Griffiths yn cyflwyno cyfres deledu ar S4C yn edrych o'r newydd ar wahanol agweddau o Gristnogaeth.

    Ar Côd Cristnogaeth bydd yn darlunio ac yn dadansoddi arwyddocâd celfyddyd, eiconau, defodau, mythau a gwyrthiau sy'n ganolog i'r ffydd ers dros ddwy fil o flynyddoedd.

    Golygodd hyn deithio i sawl rhan o'r byd a gweld pob math o bethau rhyfeddol. Yn ystod y cyfnod bu'n cadw dyddiadur a chyhoeddwn yma ddetholiad o'r dyddiadur hwnnw.

  • Ynysoedd y Philipinos

  • Dyma'r Pasg mwyaf rhyfedd gefais erioed.
    Gwylio naw o ddynion ifanc yn cael eu croeshoelio mewn pentref bychan ar ddydd Gwener y Groglith.

    Croeshoelio Naw dyn sy'n credu mai dim ond trwy brofi dioddefaint Crist ar y Groes y mae ennill gwir faddeuant.

    Eu ffrindiau a pherthnasau yn dal eu hanadl wrth i'r hoelion fynd drwy'r dwylo.

    Dim niwed parhaol - un o'r naw'n diodde'r ddefod am y trydydd tro ar ddeg! Un arall ar ei fotobeic i fynd adre gwta hanner awr wedi'r profiad.

    Trefi cyfagos yn llawn gorymdeithiau gwaedlyd o fechgyn ifanc yn fflangellu eu hunain - chwipio'u cefnau â darnau o fambŵ a gwydr wedi ei dorri.

    Un ohonyn nhw'n esbonio ei fod yn ceisio dangos esiampl i ffrindiau sy'n gaeth i gyffuriau.

    Sul y Pasg, ac ymuno a gorymdaith arall wrth iddi wawrio yn Santo Tomas.
    Delw o Iesu ar un lori, a'r Forwyn Fair ar un arall.

    Delw o Jiwdas yn cael ei losgi yn arddull Guto Ffowc.
    Rocedi'n gwneud iddo sbinio i bob cyfeiriad cyn i'w ben ffrwydro fel bom a'r dorf wrth ei bodd.

    Sul y Pasg yn dipyn mwy o sbort na dydd Gwener y Groglith ar ynysoedd y Philipinos!

    Ymlaen i Angeles City - y peth agosaf i'r uffern a ddisgrifir yn y Beibl.

    Tomen sbwriel anferth sy'n gartref i dlodion sy'n byw dan gynfas.

    Loriau'n cyrraedd yn gyson i arllwys eu llwythi a'r Philipinos yn crafu drwy'r budreddi i ganfod unrhyw beth o werth - gan gynnwys bwyd.

    Hyd yn oed fan hyn, mae yna fechgyn ifanc yn fflangellu eu hunain.

  • Eglwys y Drindod, Moscow

  • Defosiwn lle bu disgo
    Ymuno mewn gwasanaeth Uniongred.
    Y canu a'r llefaru yn yr hanner tywyllwch wedi dychwelyd i'r adeilad hwn a gafodd ei droi'n ddisgo dan y gyfundrefn Sofietaidd.

    Y Tad Mikhail Prokopenko'n dweud fod Eglwys Uniongred Rwsia nawr yn mynd o nerth i nerth - defosiwn y dorf yn yr eglwys yn sicr yn dyst i gryfder Cristnogaeth yn Rwsia.

  • Eglwys Garmelaidd Whitefriars, Dulyn

  • Ffoli ar Ffolant
    Y cyfan wyddwn i gynt am Ffolant oedd y cerdyn oedd byth yn cyrraedd!
    Rhyfedd felly, oedd sefyll wrth gist fechan yn yr Eglwys Garmelaidd hon yn Iwerddon, sydd, yn ôl yr Eglwys, yn cynnwys esgyrn Sant y Cariadon ei hunan.

    Creiriau'r seintiau yn bwysig i Babyddion, a'r eglwys yn llawn ar Chwefror 14.

  • Kulubi, Ethiopia

  • Y cleifion ynghyd
    Dros dri diwrnod, pentref bychan Kulubi yn nwyrain Ethiopia yn cael ei foddi gan ugain mil o bobl yn tyrru i eglwys Sant Gabriel.

    Welais i erioed y fath gasgliad o gleifion a thlodion - o'r dall i'r gwahanglwyfus -na chwaith y fath anhrefn dynol wrth i replica o Arch y Cyfamod gael ei gario o gwmpas yr Eglwys.

    Mae'r pererinion yma i ofyn i'r Sant am wyrth.

    Gabriel yw'r angel dorrodd y newyddion i'r Forwyn Fair y byddai'n rhoi genedigaeth i Iesu ac yn ystod y dathlu yn Kulubi mae mil o fabanod yn cael eu bedyddio, - a'r rhan fwyaf yn cael yr enw Gabriel!

  • Ffynnon Gwenfrewi, Treffynnon.

  • Rhywbeth i'r teulu
    Nid yw Ffynnon y Santes Gwenfrewi mor ddramatig a rhai o'r lleoliadau eraill yn y gyfres - nes i'r teulu gyrraedd.

    Un teulu estynedig o bymtheg o drafaelwyr Gwyddelig, pob un ohonyn nhw, o'r fam-gu i'r plentyn lleiaf, yn gorymdeithio yn eu dillad, dros eu pennau, i mewn i'r ffynnon oerllyd.

    Eu gweddïau gwlybion yn dyst i'r gred mewn gwyrthiau o hyd, yng Nghristnogaeth.

  • Catacwmau Rhufain

  • Olion dan ddaear
    O bosib y fynwent fwyaf - a'r fwyaf rhyfedd - yn y byd.

    Dan ddaear yn Rhufain, ar sawl llawr ac am ddegau o filltiroedd, y mae'r catacwmau.

    Yn yr ail a'r drydedd ganrif, dyma ble'r oedd Cristnogion yn claddu eu meirw - ac mae yna sgerbydau o hyd ar y silffoedd sy wedi eu naddu yn waliau'r twnelau tywyll.

    Dyma hefyd ble'r oedd Cristnogion yn cuddio rhag erledigaeth yr Ymerodraeth Rufeinig - a symbolau eu ffydd, a'u negeseuon cyfrin, yma o hyd; y pysgodyn, yr angor, y golomen, y winwydden.

  • Pont Milvia, Rhufain

  • Pontio dau gyfnod
    Dwi wedi gweld pontydd llawer mwy mawreddog - ond ddim mor hanesyddol a hon.

    Fan hyn, yn dilyn gweledigaeth wyrthiol, yn 312, yr aeth Cystennin i ryfel dan faner Crist.

    Fel diolch am ei fuddugoliaeth, daeth Cristnogaeth nid yn unig yn gyfreithlon, ond mewn amser hefyd, yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig.

    Trobwynt hollbwysig yn hanes y ffydd.

  • San Gimignano, yr Eidal

  • Celfyddyd dychryn
    Wedi rhyfeddu at y ffordd y mae Cristnogaeth wedi ysbrydoli cymaint o waith celf - ond yn San Gimignano y cefais y blas mwyaf arno.

    Ar waliau Eglwys y Collegiata mae ffresco a baentiwyd gan Tadeo di Bartolo sy'n dangos shwt y mae'r gosb yn uffern yn ateb y pechod ar y ddaear.

    Yn eu mysg, mae'r dyn oedd yn rhy hoff o arian yn gorwedd ar ei gefn ar y llawr a'r diafol yn carthu ceiniogau i mewn i'w geg.

    Roedd artistiaid Cristnogol yn llawn dychymyg pan oedd angen codi ofn ar bobl am uffern!

  • Capel Cildwrn, Ynys Môn

  • Beibl i bawb
    Yr Athro Densil Morgan yn esbonio shwt y mae'r capel ei hun yn dangos un o'r gwahaniaethau sylfaenol rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth.

    Dim delweddau na cherfluniau. Y canolbwynt yw'r pulpud a Beibl mawr arno.

    Dyma ble'r oedd Christmas Evans yn dod â'r Beibl yn fyw trwy ei bregethau tanllyd.

    Yn dilyn Diwygiad Martin Luther, gair Duw, yn yr ysgrythurau, oedd canolbwynt y ffydd Brotestannaidd.

  • Nevada, UDA

  • Neges yr angel
    Wedi dysgu am hanes cymhleth angylion yn un o'r eglwysi harddaf yn y byd - Santa Maria Maggiore yn Rhufain, dw'i yn Reno, Nevada sy'n rhyw fersiwn llai o Vegas.

    Ond mae yna ochr ysbrydol i'r dre bellach, diolch i Rona Hermann.
    Mae hi'n honni ei bod hi'n siarad ag un o'r angylion pwysicaf - Mihangel - ac yn cyhoeddi bwletin rheolaidd ganddo ar y we i filoedd o ddilynwyr.

    Caeodd ei llygaid a throsglwyddo neges bersonol imi gan y Sant ei hun...

  • Bryn y Groes, Lithwania

  • Mewn gwlad sy mor wastad - does dim llawer o fryniau yn Lithwania - mae rheswm arall pam y gallwch chi weld y bryn yma o bell.

    Arno mae miloedd ar filoedd o groesau o bob math - rhai wedi eu gwneud o blatiau rhifau ceir hyd yn oed.

    Tweli Griffiths Yn y Chwedegau roedd yr awdurdodau comiwnyddol yn chwalu'r croesau yn rheolaidd ond fe fydden nhw wastad yn dychwelyd.

    Mae'r symbol o wrthryfel yn erbyn gorthrwm bellach yn symbol o ddiolch am weddïau gafodd eu hateb.

    Ac ynghanol y goedwig hon o groesau mae tad a mam yn gosod un arall fel gweddi am iachâd i'w mab, sy'n dioddef o lwcemia.

  • Yr Hagia Sophia, Istanbul

  • Adeilad anhygoel fu unwaith yn eglwys Gristnogol, wedyn yn fosg, nawr yn amgueddfa, ac yn dyst, yn y flwyddyn 1054, i'r rhwyg fawr gyntaf yn yr Eglwys Gristnogol.

    Y drysau anferth yn sgubo ar agor wrth i dri o lysgenhadon y Pab ddod i mewn a thaflu gorchymyn wrth yr allor - yn taflu holl boblogaeth y ddinas allan o'r Eglwys, gan selio'r rhwyg rhwng y Catholigion yn y gorllewin a'r Eglwys Uniongred yn y Dwyrain.


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý