´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Capel Denu'r bobl yn ôl
Dim ond 12 y cant yn mynychu lle o addoliad yng Nghymru
Yn dilyn ystadegau gan Fudiad Tearfund, mai dim ond 12 y cant o bobl Cymru sy'n mynychu lle o addoliad, bu Gwilym Owen yn holi y Parchedigion Pryderi Llwyd Jones, W J Edwards, Emlyn Richards a Nia Morris ynghyd ag Alun Lenny sydd newydd ei benodi yn "ysgogydd" crefyddol yn Sir Gaerfyrddin.

Eglurodd Gwilym Owen fod arolwg Tearfund yn dangos hefyd fod 53% o bobl Prydain yn honni eu bod yn Gristnogion ac y gallai cymaint â thair miliwn ychwanegol fod yn mynychu lle o addoliad pe bydden nhw'n cael y "gwahoddiad cywir".

Dywedodd fod y 12% o bobl Cymru sy'n mynychu lle o addoliad yn cymharu â 14% yn Lloegr ac yn arwydd o fod bwlch wedi agor rhwng pobl sy'n mynd i gapel a'r rhai sydd ddim.

Cyfrifoldeb ar y capeli a'r eglwysi
Yn ystod y drafodaeth honno dywedodd Alun Lenny fod cyfrifoldeb ar y capeli â'r eglwysi i ddenu'r rhai sy'n cadw draw.


"Mae'n rhaid inni esbonio - cyfathrebu yw'r peth - wrth y bobl yma.

"Falle newid y ffyrdd o bregethu ac esbonio mewn iaith bob dydd iddyn nhw a pheidio defnyddio'r cliches yma rydym ni wedi bod yn eu defnyddio fel pregethwyr," meddai Alun Lenny.

"Fe ddôn nhw os can nhw wahoddiad a dyna ran o ngwaith i fydd gwneud yn siŵr fod eglwysi yn rhoi gwahoddiad i'r bobl sy'n byw o'u cwmpas," ychwanegodd.

Gwelodd Pryderi Llwyd Jones hefyd yr angen i dorri'r muriau a chodi pontydd i fynd allan at y bobl.

Holi eu hunain
Ond pwysleisiodd y Parchedig Nia Morris o'r Bala fod angen i weinidogion ac offeiriaid holi eu hunain at beth maent yn gwahodd pobl.

"Dwi'n eu gwahodd nhw i ddod i eglwys draddodiadol a gwasanaethau traddodiadol. Y cwestiwn sylfaenol i mi ydi at be rydan ni'n eu gwahodd nhw?

"Ydym, ryda ni'n fod i fynd allan [a'u gwahodd] ond ai i eglwys draddodiadol i eistedd yn draddodiadol yn dilyn litwrgi sydd ddim yn gwneud dim synnwyr iddyn nhw, sydd ddim yn ymateb iddyn nhw, sydd ddim yn rhoi unrhyw her iddyn nhw, sydd ddim yn rhoi unrhyw ddiddordeb iddyn nhw?

"Ynteu a ydym ni i newid yn radical ein ffordd ni o gyfathrebu ac o be yr ydym ni am gyflwyno iddyn nhw?" holodd.

"Rydw i yn ei weld o fel her fawr inni fel capeli ac eglwysi i edrych o ddifrif, i edrych beth sydd gennym ni, beth ydan ni'n i gynnig."

Mwy na bod mewn eglwys
Dywedodd hefyd fod ei gweinidogaeth hi yn ymwneud â llawer mwy na bod mewn eglwys am awr ar y Sul.

"Yr ydw i'n gweld fy mod i'n gweithio llawer iawn, iawn, ac yn gweinidogaethu gyda phobl na ddôn nhw ddim i'r eglwys efallai oherwydd nad ydi beth sydd ar gynnig iddyn nhw o ddiddordeb."

"Hefyd mae'n hen bryd inni fel offeiriaid a gweinidogion - a phwy bynnag arall sydd eisiau denu pobl i'n sefydliadau ni i addoli - i wneud rhywbeth mwy radical nag eistedd a chwyno."

Soniodd am gynlluniau uno a chau eglwysi yn ei hardal hi gan gynnwys troi'r fam eglwys yn ganolfan.

"Achos dydw i ddim yn rhagweld mai dod i'r eglwys a sbïo tuag at y tu blaen, at allor sydd yn bell gyrhaeddol ac offeiriad sydd wedi gwisgo'n grand a bod neb yn deall beth yn union sy'n digwydd ydi'r dyfodo," meddai.

Gweinidogaeth yn mynd i newid
"Dwi'n meddwl fod gweinidogaeth yn mynd i newid. Mae dod am banad a siarad efo offeiriad a chael gweddi fach ddistaw yn mynd i fod efallai yn rhywbeth sydd ar y cyd.

"Ac un o'r pethau faswn i'n lecio'i weld yn digwydd ydi'n bod ni yn uno enwadau achos os ydym ni yn cwyno ac yn cecru ac yn addoli ar wahân pa arwydd mae hwnna'n i roi i bobl ifainc - pa arwydd ydi hynna o Gristnogaeth?

"Ac mae hynny yn loes i nghalon i achos dydw i ddim yn gwybod sut i ddod dros honna ond fe fuaswn wrth fy modd mewn lle fel Y Bala yn gweld un gweinidog [i bawb]," meddai.

"Beth ydym ni'n i wneud yn hysbysebu rhywbeth marw pan fo ffydd i fod yn rhywbeth byw?" holodd.

  • Cliciwch YMA i wrando ar y sgwrs rhwng Gwilym Owen ac Alun Lenny.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý