´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Aberdaron 'Priodas' dau o'r un rhyw
Gwrthod hawl i ficer fendithio uniad un rhyw
Dywedodd arbenigwr ar faterion eglwysig fod yr helynt a gododd yn dilyn bendithio 'priodas' rhwng dwy ferch ym Mhen LlÅ·n yn adlewyrchiad o'r hyn digwydd yn yr eglwys Anglicanaidd yn gyffredinol.

Eglurodd Lyn Lewis Dafis ar y rhaglen radio Bwrw Golwg fod y ddadl yn crogi ar y cwestiwn gan bwy mae'r hawl i benderfynu ynglŷn â phethau o'r fath:

"[Hynny yw a] oes hawl gan gyngor plwyf eglwysi neu gyngor yr eglwys yn Aberdaron i benderfynu eu bod nhw'n mynd i wneud hyn neu a oes raid mynd drwy drefniadaeth fwy ffurfiol," meddai Mr Dafis mewn trafodaeth gyda John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg ddydd Sul Medi 28, 2008.

Dim hawl
"Yn yr Eglwys yng Nghymru does gan y cynghorau plwyfi eglwysig ddim hawl i benderfynu ar newid litwrgi ac ar newid athrawiaeth ac ar newid trefn yr eglwys ac wrth gwrs y dadleuon mawr sydd yn digwydd ar hyn o bryd yw a oes gan [hyd yn oed] yr Eglwys yng Nghymru ar ei phen ei hun hawl i awdurdodi bendithio uniad pobl o'r un rhyw," meddai.

Dywedodd fod hyn yn un o dri phwnc - fel ethol esgobion sy'n byw bywyd hoyw llawn - sydd yn achos trafodaeth o fewn yr eglwys ar hyn o bryd.

"Mae'n un o'r pethau y mae'r Cyfamod yn drafod; sut mae'r eglwysi Anglicanaidd yn mynd i barhau mewn cymundeb a'i gilydd a phenderfynu ar bethau fel hyn," meddai.

"Wrth gwrs mae Archesgob Cymru wedi dweud nad yw e' cytuno gyda'r syniad yma o awdurdod canolog ac mai'r Eglwys yng Nghymru ddylai benderfynu pethau fel hyn dros ei hunan."

Anghytunodd a'r hyn a ddywedodd ficer Aberdaron fod y mater o fendithio uniad dau o'r un rhyw yn fater sy'n amwys fel ag y ame pethau ar hyn o bryd:

"Dydw i ddim yn credu ei fod yn amwys," meddai. "Mae'r drafodaeth ar fendithio uniad rhwng dau berson hoyw yn rhywbeth sydd wedi bod yn cael ei drafod yn eang iawn ac mae'n amlwg nad yw'r peth wedi ei dderbyn ar hyn o bryd yn gyffredinol gan eglwysi Anglicanaidd nac ychwaith yn yr Eglwys yng Nghymru.

"Mae'r Eglwys yng Nghymru yn trafod sut maen nhw'n ymwneud â phynciau o'r fath ond does yna ddim amwysedd a yw'r peth yn cael ei dderbyn ai peidio."

Ychwanegodd nad oes ar hyn o bryd litwrgi sydd wedi ei addasu i fendithio uniad pobl o'r un rhyw a bod y litwrgi priodasol yn ei gwneud yn eglur mai uniad rhwng gŵr a gwraig sydd dan sylw yno.

Ychwanegodd:

" Mae yna ymgyrchu yn digwydd ar y ddwy ochr . Yr ydym wedi gweld hynny yn yr ymgyrchu yn erbyn enwebiad Geoffrey John ar gyfer esgobaeth Bangor ac rydym yn ei wld fan hyn. Mae yna wrthdaro, mae yna frwydro, mae yna ymgyrchu cryf iawn yn digwydd o fewn yr Eglwys yng Nghymru ac o fewn y cymundeb Anglicanaidd ac un digwyddiad yw hyn ymhlith llawer ," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý