´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Capel yn awr yn siop yng nghanol Llanberis Diogelu capeli Cymru
Llanw'r capeli wedi troi yn drai
Er mwyn cyfleu nerth a grym y twf crefyddol yng Nghymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif daeth yn beth poblogaidd i ddweud bod capel newydd yn cael ei agor bob wythnos.

Erbyn heddiw y mae'r un mor wir dweud fod capel yn cau yn rhywle bob wythnos yng Nghymru.

Dyna un o'r arwyddion mwyaf gweledol o'r trai crefyddol a fu y pum mlynedd ar hugain ddiwethaf - hynny, a'r ffaith mai ond megis dyrnaid o bobl sy'n mynychu llawer o'r capeli sy'n dal yn agored.

Gostyngiad parhaus
"Ers yr Ail Ryfel Byd, mae sefyllfa capeli anghydffurfiol yng Nghymru wedi newid yn aruthrol. Mae gostyngiad parhaus yn y nifer sy'n mynychu, a lleihad ym maint y cynulleidfaoedd yn sgil hynny," meddai CADW ar ei gwefan.

"Gwerthir capeli ychwanegol i'r rheiny sy'n gallu ac sy'n barod i'w prynu, neu cefnir arnynt a chânt eu gadael i bydru a graddol chwalu nes eu bod yn troi'n adfeilion peryglus a diflas yr olwg," ychwanegir.

Erbyn heddiw mae sawl hen gapel yn dÅ· preifat - mae eraill yn cael eu defnyddio i ddibenion eraill yn amrywio o siopau i dai bwyta.

Yng Nghaernarfon mae un o eglwysi'r dref yn ganolfan hamdden erbyn hyn ac heb fod yn bell i ffwrdd, yn Llanrug, mae capel arall yn stiwdio deledu. Rhwng y ddau, trowyd capel ym Mhontrug yn ffatri trin motobeics.

Yng nghanoi Llanberis mae capel yn siop defnyddiau awyr agored.
Y cyfan mewn cylch o ychydig filltiroedd!

I'r gwrthwyneb yn llwyr
"Mae'r sefyllfa anffodus bresennol, yn wir, i'r gwrthwyneb yn llwyr i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg pan arweiniai ton o frwdfrydedd crefyddol at agor capel newydd bob wythnos drwy gydol y rhan fwyaf o'r ganrif," meddai Cadw.

Cymaint y twf yr oedd yna ar un adeg bedwar capel ar gyfer pob eglwys yn y wlad a hynny yn effeithio ar natur y gymdeithas drwyddi draw.

"Ar un adeg mynychwyr capeli oedd yn ffurfio'r rhan helaethaf o'r gymdeithas Gymreig, gan ddylanwadu ar lawer o syniadau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol yr oes," meddai Cadw.

Mae dwy wedd i'r trai a ddaeth wedyn gyda'r bylchau a adawyd yn ddiwylliannol, yn grefyddol ac yn bensaernïol.

Y golled bensaerniol
Wrth sôn am y golled bensaernïol meddai Cadw:
"Mewn nifer o bentrefi a chymunedau yng Nghymru, yn y trefi yn enwedig, y capel yw, neu oedd, yr adeilad amlycaf.

"Mae capeli eraill, yn enwedig yng nghefn gwlad, yn llai amlwg ond mae ganddynt du mewn syml ond ysgytwol sy'n ein hatgoffa o ddyddiau cynnar Anghydffurfiaeth.

"Mae nifer o gapeli yn enghreifftiau gwych o arddulliau pensaernïol eu cyfnod, gan ddefnyddio - ar y cyfan - garreg leol, a dorrwyd â llaw, a'u haddurno ag elfennau Clasurol neu Gothig.

"Ychydig iawn o bobl a all fforddio adeiladu yn y fath fodd heddiw, neu yn wir a fyddai'n dymuno gwneud hynny. Felly mae ymron yn amhosibl adennill y strwythurau hyn sy'n darlunio brwdfrydedd crefyddol a chrefftwaith pensaernïol oes a fu," meddir.



Mudiad Capel
Un mudiad sydd wedi cael ei sefydlu yn benodol i ddiogelu nid yn unig adeiladau'r capeli hyn ond hefyd ddogfennau a gwybodaeth sy'n gysylltiedig a hwy yw Capel.

Mae Capel nid yn unig yn bryderus fod dwsinau o gapeli yn cael eu dymchwel bob blwyddyn ond bod yna rai hefyd yn cael eu trawsnewid yn anaddas heb gadw na llun na chofnod ohonynt.

Ar ben hynny mae Capel yn bryderus am y cofnodion a dogfennau capeli sy'n cael eu dinistrio neu'n mynd ar goll yn sgil cau y capeli a gwybodaeth hanesyddol werthfawr am Anghydffurfiaeth sydd yn rhan mor bwysig o'n hanes yn cael ei cholli.

Y bensaerniaeth, wrth gwrs, yw'r golled fwyaf gweladwy ond yn ôl Capel dim ond ychydig sy'n cael eu diogelu trwy roddi iddynt statws adeiladau cofrestredig.

Ffurfiwyd Capel yn benodol er mwyn:
  • Hyrwyddo astudiaeth a chadwraeth etifeddiaeth Anghydffurfiol Cymru.
  • Cynnig gwybodaeth a chyngor i gynulleidfaoedd ar ffyrdd i gynnal a chadw eu hadeiladau.
  • Cofnodi ac astudio pensaernïaeth capeli.
  • Annog capeli i ddiogelu eu cofnodion.
  • Annog addasu gofalus capeli nad oes eu hangen bellach ar gyfer eu bwriad gwreiddiol.

    Gall unrhyw un ymaelodi â Capel.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý