´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Capel Dyfodol capeli
Gormod o bwyslais ar adeiladau?
Rhybuddiwyd fod peryglon rhoi gormod o bwyslais ar ddiogelu a chadw'n agored adeiladau crefyddol yng Nghymru.

Yr oedd Arfon Jones o'r elusen genhadol Gobaith i Gymru yn ymateb i ymchwil gan Paul Chambers o Brifysgol Morgannwg yn rhagweld mai dim ond dau allan o bob cant o gapeli Cymru fydd yn dal yn agored erbyn 2029.

Golygai hynny na fyddai yna ond rhyw 20 i 30 o gapeli ymneilltuol ar ôl yng Nghymru.

Ond dywedodd Mr Jones ei bod yn bosib rhoi gormod o bwyslais ar ddiogelu adeiladau Arfon Jones o elusen genhadol Gobaith i Gymru.

Priodolodd y ffaith fod y dirywiad yn cyflymu i'r ffaith fod y gynulleidfa yn heneiddio.

"Os nad oes yna bobl yn dod i mewn mae'r gynulleidfa sydd yna yn mynd yn hÅ·n ac yn marw yn y diwedd," meddai gan ychwanegu bod pethau yn yr adroddiad y dylid cymryd sylw ohonynt.

"Pan wnaethom ni arolwg eglwysi Cymru flynyddoedd yn ôl teitl yr arolwg hwnnw oedd 'Yr Her i Newid' a dwi'n credu bod yr her yna yn aros," meddai.

"Ond i mi dwi'n credu mai'r prif beth ydi ein bod ni'n rhoi gormod o bwyslais - ac efallai bod yr arolwg [hefyd] yn rhoi gormod o bwyslais - ar adeiladau.

"Nid adeiladau ydi'r Eglwys ond pobl efo'i gilydd ac fe fyddwn i'n bersonol yn awyddus i weld pobl efallai yn gadael yr adeiladau a'r capeli ac yn dechrau cyfarfod yn eu cartrefi neu mewn tafarndai neu ble bynnag unwaith eto," meddai.

Yn sgily drafodaeth bu Bwrw Golwg yn gweld sut mae dwy ardal wedi ymateb i her y cyfnod presennol:

  • Mae Eglwys Annibynnol Pendref, Bangor, wedi troi at weinidog wedi ymddeol yn wyneb prinder gweinidogion:


  • Ym mro Hywel Dda yn Hendygwyn-ar-Daf penderfynodd dau weinidog Aled Gwyn a Vincent Evans ddeugain mlynedd yn ôl ffurfio cymdeithas capeli bro sy'n dal i weithredu.


    Yn dilyn y sgyrsiau dywedodd Arfon Jones mai'r cwestiwn sylfaenol yw "sut yr ydym yn ymateb i her Iesu Grist, beth ydi'r eglwys i fod".


    Ychwanegodd: "Y broblem ydi ar hyn o bryd lle rydym ni'n sôn am yr eglwysi yn cymryd rhan yn y gymdeithas ac yn fwy perthnasol o fewn ein cymdeithas - mae mudiad fel CADW er enghraifft yn cofrestru adeiladau ac yn rhwystro capeli mewn gwirionedd rhag bod yn fwy hyblyg ac yn aml ddefnydd ac mae hyn yn gonsyrn mawr i mi."

    Dywedodd nad yw'r etifeddiaeth a gynrychiola'r adeiladau cyn bwysiced a bywydau ac anghenion pobl yn y gymdeithas.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý