´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

´óÏó´«Ã½ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Enghraifft
Trafod hynodrwydd Beibl hynaf
Cyhoeddwyd y Codecs Sinaiticus - y ferisiwn gynharaf o'r Beibl - ar y We ddechrau Gorffennaf 2009 ac mae'r testun ar gael yn awr i bawb ei weld.

Bu Gareth Lloyd Jones o Adran Astudiaethau Crefydd Prifysgol Bangor yn siarad gyda John Roberts am y digwyddiad ac am y Codecs a'r ymchwil am destunau gwreiddiol ar Bwrw Golwg, ddydd Sul, Gorffennaf 12, 2009.





Sgroliau yn gyntaf
Soniodd yn gyntaf am ffurf wreiddiol yr ysgrythurau Iddewig:
"Yr oedd ysgrythurau'r Iddewion i gyd ar sgroliau - dyna sut oedden nhw'n sgwennu ac yr oedd y sgroliau yma, wrth gwrs, yn bethau mawr iawn. Yn bethau hir iawn.

"Meddyliwch amdanoch yn papuro'r parlwr ac mae gynno chi'r sgroliau yma o bapur wel rhai felly oedd gan yr Iddewon [ac] i'w Beibl yr oedd ganddyn nhw rhyw bymtheg i ugain o'r rhain felly roeddech chi angen berfa i gario'ch Beibl o gwmpas.

"Yr oedd o'n anhylaw yn y ffordd yna ac yn anhylaw mewn ffordd arall hefyd - pan oedden nhw'n trio dyfynnu'r Beibl neu drio defnyddio'r Beibl.

"Meddyliwch eich bod yn defnyddio sgrol o tua ugain troedfedd o hyd yn y pulpud - mae'r gwasanaeth drosodd cyn ichi ffeindio'r testun!"

Beth yw codecs?
Dywedodd mai cyfraniad y Cristnogion oedd cael gwared â'r sgrol a rhoi'r cyfan mewn codecs.

"Ystyr y gair codecs yn wreiddiol ydi 'darn o bren' felly cloriau ydi'r codecs a rhwng y cloriau pren roedden nhw'n rhoi tudalenau," meddai.

Eglurodd mai cyfeirio at y lle, Sinai y mae'r ail ran o'r enw oherwydd mai yno y daethpwyd o hyd i'r codecs gan Almaenwr o'r enw Herman Tischendorff a oedd yno yn chwilio am hen fmrynau ac yn y blaen.

Stori Tischendorff oedd fod myneich yn defnyddio'r papur i gynneu tân .

"Ond mi sbiodd yr Almaenwr ar y papurau ma ac mi welodd be oeddan nhw . . . ond chai o ond rhyw ddeugain tudalen ac mi stydiodd nhw ac mi welodd eu gwerth nhw eu bod nhw yn perthyn i gyfbnod cynnar iawn yn iaith y Beibl.

"Wedyn mi aeth yn ei ôl rhyw 15 mlynedd yn ddiweddarach, tua 1860, ac mi gafodd bron iawn y gweddill, Ddim y gweddill i gyd ond bron iawn y gweddill am iddo berswadio'r myneich eu rhoi yn anrheg i'r Tsar yn Rwsia," meddai Gareth Lloyd Jones.

"Aeth a nhw adref yn bresant i'r Tsar ac yn St Petersburg / Leningrad [lle] buo nhw yn y llyfrgell," meddai.

"Ond mi aeth Rwsia yn brin o bres ac ym 1933 fe'u gwerthwyd i'r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain am gan mil o bunnau felly mae'n amlwg bod na rywun yn meddwl bod yna werth mawr i'r codecs arbennig yma."

Yn gynnar iawn
Dywedodd nad oes wybod pwy yw eu hawduron.

"Yr unig beth allwn ni ddweud ydi y dyddiad - a dyna un peth sy'n ei wneud yn bwysig ydi ei fod o'n godecs cynnar iawn. Yn llawysgrif o'r Beibl cynnar iawn.

"Dydi o ddim yn llawysgrif o'r Beibl i gyd, dim ond rhannau o'r Beibl ond mae'r Terstament Newydd yn gyfan ynddo fo ac maen nhw'n tybio ei fod yn mynd yn ôl i ddechrau'r bedwaredd ganrif - tua 320.

"Gadwyd peth ohono ar ôl yn Sinai, mae yna rywfaint ohono yn Leipzig lle'r oedd Tischendorff yn byw ac fe gadwyd rhywfaint ohono ar ôl yn St Peterberg," meddai.

Ond ychwanegodd y gellir gweld y cyfan nawr dim ond pwyso botwm ar y we.

Chwilio am y gwreiddiol
Dywedodd ei fod yn rhan o ymchwil ysgolheigion a diwinyddion am fersiynau gwreiddiol o'r hyn a welwn yn y Beibl.

"Yr hyn sydd wedi diddori ysgolheigion a diwinyddion ar hyd y canrifoedd [yw] fedrwn ni ddod o hyd i'r gwreiddiol. Hynny ydi, Be sgwennodd Marc? Be sgwennodd Paul?

"Wel fedrwn ni ddim - dydi'r gwreiddiol ddim gennym ni. Y cwbl sydd gennym ni ydi copi o gopi o gopi ac mae'r copiau yma yn dod i lawr y canrifoedd a phan roddwyd y Testament Newydd Groeg mewn print gan Erasmus ar ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg beth wnaeth o ddefnyddio oedd llawysgrifau yn dod o'r 12 ganrif a hwnnw ddefnyddiwyd gan bobl fel William Morgan ac Authorised Version y Saeson.

"Wedyn, ar ôl hynny yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg - pan oedd diddordeb mawr mewn dod o hyd i wreiddiau a mynd ymhellach yn ôl a dyna pam yr aeth Tischendorf i chwilio am y llawysgrif yma yn Sinai ac mae hwn gyda dau arall, Alexandrinus a Vaticanus, yn perthyn i'r cyfnod cynnar yna ac maen nhw'n cael eu cyfrif felly yn fwy dibynnol," meddai.

Mae bylchau
Dywedodd mai un peth sy'n eu gwneud yn wahanol i Feibl Erasmus yw bod bylchau ynddyn nhw.

"Pe byddech chi'n cymharu [yr Ein Tad ym ] Meibl William Morgan yn y chweched bennod o Mathew sy'n gorffen trwy ddweud: 'Canys eiddo ti yw y deyrnas , y gallu a'r gogoniant ac yn y balen' [a'r] Beibl Cymraeg Newydd mae'r weddi yn gorffen, '"Gwared ni rhag drwg' [a] does yna ddim 'canys eriddo ti . . .'

"Does yna ddim byd felly yn y Beibl Cymraeg Newydd. Mae o yn William Morgan [ond] dydi o ddim yn y Beibl Cymraeg Newydd ond maen na nodyn ar y gwaelod yn dweud ; 'Dydi'r adnod yma ddim yn y llawysgrifau gorau' a be mae [hynna] yn olygu ydi nad ydi hi ddim yn y Sinaiticus.

"Ac mae'r un peth am y deg adnod cyntaf yn yr wythfed bennod o Efengyl Ioan - Y Wraig Odinebus - dydi'r stori yna ddim yn y Sinaiticus felly dydi hi ddim yn cael ei chynnwys yn y Beibl Cymraeg Newydd ond mae hi yn William Morgan," meddai.

. Rhoi awdurdod
Ychwanegodd mai'r ddau beth Pwysig am y Beibl - sydd yn llyfrgell yn hytrach na llyfr unigol - yw yr hyn mae'n ei ddweud a'r hyn mae'n ei gynnwys.

"Dyma'r llyfrau sy'n awdurdodol i'r Cristion. Doedd Luther, er enghraifft, ddim yn teimlo y dylai Epistol Iago fod yn awdurdod . Doedd o ddim yn gweld awdurdod yn hwnnw nac yn Llyfr y Datguddiad ac roedd o eisiau eu cadw allan o'r Beibl ac eisiau ffurfio ei ganon ei hun.

"Wel un peth diddorol am y Sinaiticus [yw] bod yna ddau lyfr ynddo sydd erioed wedi bod yn ein canon ni ac mae'n amlwg yn nechrau'r bedwaredd ganrif eu bod nhw ar yr union un lefel a Paul a Mathew a Luc ac yn y balen ac yn rhan o'r Beibl. Epistol Barnabas oedd un ohonyn nhw ."

Ypsetio rhai pobl
Dywedodd mai'r hyn y mae'r codecs yn ei ddangos yw na ellir dod o hyd i unrhyw destun sydd yn "gwbl saff".

"[Mae'n dangos] na fedrwch chi ddim dweud mai dyma ydi'r Beibl Mae'r sicrwydd yna wedi mynd a dyna sydd yn ypsetio rhai pobl - yn enwedig pobl sydd yn cadw, yn Saesneg er enghraifft, at yr AV; maen nhw yn teimlo fod pethau sydd wedi diwgydd ar ôl yr AV, ar ôl y ganrif yna wedi gwneud gwahaniaeth i'r testun Beiblaidd ond fedrwch chi ddim bod yn gwbl sicr beth oedd yn y gwreiddiol achos dydi'r gwreiddiol ddim gennym ni dim ond copiau o'r gwreiddiol," meddai.

  • Meirion Morris yn dweud ei ddweud am y Codecs Sinaiaticus

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý