Gadael glaw a thywyllwch Llundain am y Cyfandir bore ddoe. Dyma fy nhaith gyntaf ar yr Eurostar a thaith braf a didrafferth fu hi.
Llawer brafiach imi na hedfan, gan mod i'n ofnus o awyrennau, ac yn casáu'r profiad o hedfan.
Cyrraedd canol Paris mewn dwyawr a chwarter a hynny mewn modd carbon niwtral, yn ôl y cwmni trên.
Papurau Paris Egwyl ym Mharis a thudalennau blaen papurau Ffrainc i gyd yn sôn am gynhadledd Copenhagen. Y penawdau'n pwysleisio pa mor allweddol fydd y trafodaethau. Roedd eu gweld yn rhyw fath o ysgogiad imi.
Weithiau mae ymgyrchu yn gallu bod yn brofiad ynysig, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, ar fater sy'n gallu ymddangos yn gymhleth ac amhoblogaidd. Felly yr oedd hi ar y pwnc hwn hefyd.
Erbyn hyn mi gredaf bod consensws am effaith newid hinsawdd ar ein byd. A da bellach yw gweld newyddiadurwyr hefyd yn herio arweinyddion ein byd.
Posteri o gwmpas prifysgol y Sorbonne yn annog myfyrwyr a ieuenctid Paris i fynd ar fysiau i Copenhagen ar gyfer gorymdaith fawr sydd i'w chynnal yno ar Ragfyr 12.
Bydd miloedd o bobl yn cyrraedd Denmarc dros y dyddiau nesaf ac roedd gweld y posteri hyn a phapurau Sul Ewropeaidd yn codi fy ngobeithion.
Drwy'r Almaen Rwy'n teithio drwy'r Almaen erbyn hyn a'r trên yn gwibio heibio tiroedd ffrwythlon ffermydd Ewrop. Mae 'na gyffro ynof, ac rwy'n edrych ymlaen at gyrraedd.
Ydi, mae'r daith yn hir, a Chopenhagen yn teimlo'n bell iawn o Gaerdydd.
Weithiau rydym ni'n "rhy brysur" a does "dim amser" gennym i deithio yn y ffyrdd mwyaf caredig i'r amgylchedd.
Ond efallai bod yr amser wedi dod inni newid ein blaenoriaethau wrth inni ddewis dulliau teithio - rhaid "cyfri'r gost" mewn mwy nag un ffordd.